Mae angen i mi ymestyn fy fisa Myfyriwr, sut mae hynny'n gweithio?
Mae gwybodaeth am ymestyn eich fisa ar gael gan y Gwasanaeth Cymorth a Chynghori ar Fisa.
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros fod angen ymestyn fisa Myfyriwr yw:
- Myfyrwyr yn ychwanegu Blwyddyn Dramor at eu cwrs gwreiddiol
- Myfyrwyr yn ychwanegu Blwyddyn mewn Diwydiant at eu cwrs gwreiddiol
- Angen i fyfyrwyr ailsefyll blwyddyn o'u cwrs
- Angen mwy o amser ar fyfyrwyr PhD i gwblhau'r cwrs
I wneud cais am estyniad fisa, mae'n rhaid i chi wneud cais am CAS newydd yn gyntaf.
Cysylltwch â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol immigrationadvice@aber.ac.uk i drefnu apwyntiad er mwyn cael cyngor fisa a chymorth i gyflwyno'ch ffurflen gais CAS. Pan fydd Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI yn derbyn eich cais CAS gan yr Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, bydd CAS drafft yn cael ei anfon atoch i'w adolygu a'i gymeradwyo, cyn i gofnod CAS terfynol gael ei neilltuo i chi.
Byddwn yn gofyn am gopi o'r cais fisa rydych chi wedi ei gyflwyno fel na fydd yn ymyrryd ar y broses gofrestru tra byddwch yn aros am eich fisa newydd.
Pan fydd eich fisa wedi'i gyhoeddi, rhaid i chi anfon cod rhannu atom fel y bod modd inni gadw copi o'ch eVisa ar ffeil.
