Ga' i weithio?
Bydd angen i chi wirio'ch llythyr/e-bost penderfyniad fisa i weld beth yw eich hawliau
i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Mae gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol i wirio'ch hawl i weithio. Bydd angen i chi
ddarparu cod rhannu i'ch cyflogwr yn ogystal â gwybodaeth ynghylch dyddiadau'r tymor
ac amseroedd gwyliau fel eu bod yn cael gwybod oes modd i chi weithio'n rhan-amser
(yn ystod y tymor) neu'n llawn amser (yn ystod cyfnodau o wyliau). Gallwch ddarparu'r wybodaeth hon ar ffurf
un o'r canlynol:
- Argraffiad o wefan Prifysgol Aberystwyth yn dangos dyddiadau'r tymhorau a
chyfnodau gwyliau. - Llythyr neu e-bost gan y Brifysgol yn cadarnhau dyddiadau eich tymor a'ch gwyliau (cysylltwch ag immigrationadvice@aber.ac.uk)
Mae rhagor o wybodaeth am weithio ar fisa Myfyrwyr ar gael ar wefan UKCISA
trwy'r ddolen ganlynol: Working as an international student
|
Lefel Astudio |
Cyfnod Gwyliau |
|
Cwrs Saesneg Cyn-sesiynol |
Dim |
|
Rhaglen (paratoi ar gyfer gradd meistr) |
Gwyliau'r Nadolig, Gwyliau'r Pasg |
|
Israddedig |
Gwyliau'r Nadolig, Gwyliau'r Pasg, Gwyliau'r Haf |
|
Ôl-raddedig a Addysgir |
Gwyliau'r Nadolig, Gwyliau'r Pasg |
|
Ymchwil Ôl-raddedig |
Rhaid i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fod yn astudio yn Aberystwyth am 44 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd. Rhaid cymryd gwyliau pan fo'n briodol yn unol â'ch ymchwil ac unrhyw ddigwyddiadau addysgu. |
Gall cyfnodau gwyliau i fyfyrwyr ar nifer fach o raglenni fod yn wahanol, yn benodol y rhai sydd â chyfnodau helaeth o brofiad gwaith ee myfyrwyr Milfeddygaeth, Gwyddoniaeth a Nyrsio. Os nad yw myfyriwr yn siŵr a yw cyfnod gwyliau’n berthnasol i'w gwrs, dylai ofyn i Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI am eglurhad.
Noder y canlynol:
- Caniateir i ddeiliaid fisa myfyrwyr sy'n astudio ar lefel gradd ac uwch fel arfer
weithio'n rhan-amser (hyd at uchafswm o 20 awr yr wythnos) yn ystod y tymor.
Yn ystod cyfnodau gwyliau (gweler y tabl uchod), efallai y byddwch chi'n gweithio oriau llawn amser. - Nid yw myfyrwyr ar raglenni ôl-raddedig a addysgir ar wyliau yn ystod yr haf. Mae'r cyfnod hwnnw'n cael ei gyfrif fel amser tymor. Caniateir i chi weithio oriau rhan-amser a rhaid i chi fod yn byw yn Aberystwyth.
Nid oes gan fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig unrhyw gyfnodau gwyliau penodol a rhaid iddynt fod yn Aberystwyth yn astudio am 44 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd. Caniateir i chi weithio'n rhan-amser (uchafswm o 20 awr yr wythnos) drwy gydol y flwyddyn, ac ni ddylech gymryd yn ganiataol eich bod yn cael gweithio'n llawn amser yn ystod yr haf nac ar unrhyw adeg arall pan nad oes gweithgareddau addysg wedi eu trefnu. Caiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wneud cais am hyd at 8 wythnos (56 diwrnod) o wyliau bob blwyddyn academaidd. Dylid gwneud ceisiadau am wyliau trwy'r broses Awdurdodi Absenoldeb. Tra ar gyfnod cymeradwy o wyliau, caniateir i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio'n llawn amser.
Rhaid i chi sicrhau nad ydych chi'n gweithio mwy o oriau nag a ganiateir gan eich fisa. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cadw o fewn y rheolau.
