Rydw i eisiau tynnu'n ôl o fy astudiaethau dros dro. Sut mae hynny'n gweithio a beth sy'n digwydd i'm fisa?
Os penderfynwch gymryd seibiant o'ch astudiaethau a'ch bod yn bwriadu dychwelyd i'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hwyrach ymlaen, mae angen i chi lenwi'r ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein i wneud cais i Dynnu'n ôl Dros Dro. Gellir dod o hyd i hwn ar eich Cofnod Myfyriwr o dan y teitl ‘Cofnod Academaidd’.
Sicrhewch eich bod yn cysylltu â'ch adran academaidd ynghylch goblygiadau academaidd eich penderfyniad a'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) ynghylch goblygiadau posib tynnu'n ôl ar eich fisa cyn gwneud y penderfyniad terfynol a chyn cwblhau'r ffurflen Hysbysiad o Dynnu'n ôl ar-lein.
Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein, mae gennych chi 3 diwrnod i ganslo eich cais i dynnu'n ôl.
Pan fydd cais i dynnu'n ôl yn cael ei gadarnhau ar eich cofnod myfyriwr byddwn yn tynnu nawdd eich fisa yn ôl ac yn hysbysu'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn golygu y bydd eich fisa yn cael ei ganslo, a rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosib. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech fod mewn perygl o aros yn hirach na chyfnod eich fisa. Mae aros yn hirach na chyfnod fisa yn drosedd a gall arwain at oblygiadau difrifol i unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill yn y dyfodol.
Os nad ydych chi yn y Deyrnas Unedig pan fyddwch yn penderfynu tynnu'n ôl dros dro, nodwch na fydd gennych hawl i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig.
Pan fyddwch yn penderfynu dychwelyd i astudio, bydd angen i chi wneud cais am fisa Myfyriwr newydd a bydd angen Cadarnhad Derbyn Astudiaethau (CAS) newydd arnoch. Cysylltwch â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) o leiaf 3 mis cyn dychwelyd i'ch astudiaethau i wneud cais am CAS.
