Dydw i ddim eisiau astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mwyach, ac rydw i'n mynd i dynnu'n ôl o'r cwrs yn barhaol, beth fydd yn digwydd i'm fisa?
Os ydych chi wedi penderfynu peidio â pharhau â'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i chi lenwi ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein. Gellir dod o hyd i hon ar eich Cofnod Myfyriwr o dan y teitl ‘Cofnod Academaidd’.
Sicrhewch, cyn ichi wneud y penderfyniad terfynol a chyn cwblhau'r ffurflen Hysbysiad o Dynnu'n ôl ar-lein, eich bod yn cysylltu â'ch adran academaidd ynghylch goblygiadau academaidd eich penderfyniad a'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) ynghylch goblygiadau posib tynnu'n ôl ar eich fisa
Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein, mae gennych chi 3 diwrnod i ganslo eich cais i dynnu'n ôl.
Pan fydd cais i dynnu'n ôl yn cael ei gadarnhau ar eich cofnod myfyriwr, byddwn yn tynnu nawdd eich fisa yn ôl ac yn hysbysu'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn golygu y bydd eich fisa yn cael ei chanslo, a rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosib. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech fod mewn perygl o aros yn hirach na chyfnod eich fisa. Mae aros yn hirach na chyfnod fisa yn drosedd a gall arwain at oblygiadau difrifol i unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill yn y dyfodol.
Os ydych chi wedi penderfynu astudio (trosglwyddo) yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi roi manylion eich prifysgol newydd i ni. Os ydych chi'n trosglwyddo i sefydliad arall, mae'n ofynnol inni roi gwybod i UKVI am hynny yn ein hadroddiad.
