Cwestiynau a Holir yn Aml
-
Oes modd imi newid fy nghwrs?
Cyn i chi wneud cais i'ch adran academaidd, mae angen i chi gysylltu â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (ISA) fydd yn gallu rhoi gwybod a yw’r newid rydych chi'n dymuno ei wneud yn un a ganiateir o safbwynt fisa. Mae ystyriaethau ychwanegol i'w hystyried gan fod posibilrwydd na fydd eich fisa yn caniatáu ichi newid cwrs. Mae hyn oherwydd bod eich CAS/Fisa yn un ar gyfer astudio ar lefel benodol o fewn maes penodol. Fodd bynnag, gellir caniatáu rhai newidiadau, er enghraifft, os ydych yn rhoi'r gorau i elfen fechan o'ch cwrs ond yn dal i astudio'r prif bwnc. Mae'n bosib y caniateir mân newid o fewn adran hefyd, er enghraifft BA Celf i BA Hanes Celf. Bydd yr ISA hefyd yn ystyried pa ofynion ychwanegol y gallai fod eu hangen ar gyfer eich cwrs newydd, er enghraifft a oes angen cliriad ATAS ar gyfer eich cwrs newydd.
Mewn rhai achosion, gall newid eich cwrs olygu gorfod gwneud cais am fisa newydd. Bydd hyn yn golygu costau ychwanegol. Rydym yn eich annog i gael y trafodaethau hyn yn gynnar yn y broses ac i gysylltu â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ffurfiol.
Os caniateir y newid gan eich fisa a bod eich adran neu adrannau wedi cymeradwyo'r newid, bydd eich cofnod myfyriwr yn cael ei ddiweddaru.
Rhoddir gwybod i UKVI am y newid wrth gwrs er mwyn i'r wybodaeth gywir gael ei chadw ar eich cofnod UKVI.
-
Mae fy statws fisa wedi newid, mae gen i fisa newydd, oes angen i mi roi gwybod i chi?
Os ydych chi wedi newid i gategori mewnfudo gwahanol, rhaid i chi roi gwybod i ni drwy e-bost (compliance@aber.ac.uk) a darparu prawf o'ch statws newydd. Bydd hyn fel arfer ar ffurf cod rhannu oddi ar eich cyfrif UKVI. Yna byddwn yn gwirio eich statws ar-lein ac yn diweddaru eich cofnod myfyriwr.
Os oes gennych chi fisa newydd, byddwn yn tynnu nawdd eich fisa myfyriwr presennol yn ôl ac yn rhoi gwybod i UKVI am hyn.
Byddwn yn cadarnhau pan fydd y camau hyn wedi'u cymryd. Pan fydd eich nawdd ar fisa myfyriwr wedi dod i ben, ni fydd y rheolau cysylltiedig â'r fisa hwnnw'n berthnasol mwyach, fodd bynnag, bydd rhaid ichi gadw at reolau a rheoliadau'r brifysgol.
Os yw eich fisa newydd yn un cyfyngedig o ran amser, bydd angen i chi roi prawf newydd i ni o'ch statws fisa cyn iddo ddod i ben i sicrhau na thorrir ar draws eich cofrestriad.
Rhaid i bob myfyriwr ddarparu tystiolaeth o'i Hawl i Astudio yn y Deyrnas Unedig.
-
Pa fanylion sydd eu hangen arnaf i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar fy nghofnod myfyriwr?
Mae'n ofynnol i chi gadw'r manylion cyswllt diweddaraf ar eich cofnod myfyriwr.
Rhaid i chi sicrhau bod eich cofnod myfyriwr yn ddilys:
Cyfeiriad Cartref - Cyfeiriad yn eich gwlad gartref, sicrhewch fod y cyfeiriad wedi'i nodi'n llawn.
Cyfeiriad e-bost personol
Cyfeiriad Tymor Presennol - Eich Cyfeiriad Tymor yw'r cyfeiriad rydych chi'n aros ynddo tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid iddo fod o fewn pellter cymudo o 1 awr i Aberystwyth.
Rhif Ffôn/ Ffôn Symudol yn y Deyrnas Unedig:
Gall tîm Cydymffurfiaeth UKVI gysylltu â chi i newid eich cyfeiriad neu i ddiweddaru eich cofnod
-
Sut mae monitro ymgysylltiad yn gweithio os ydw i ar Flwyddyn Dramor/Blwyddyn mewn Diwydiant/Semester Allan?
Cyn mynd ar Semester/Blwyddyn Dramor neu cyn dechrau ar eich Blwyddyn mewn Diwydiant, bydd tîm Cydymffurfiaeth UKVI yn cysylltu â chi i egluro sut bydd dyletswyddau monitro ymgysylltu yn digwydd tra byddwch i ffwrdd o Aberystwyth.
Bydd y tîm Astudio Dramor neu eich adran yn rhoi gwybod i ni am y canlynol:
- Enw’r sefydliad
- Enw a chyfeiriad e-bost eich rheolwr llinell/prif gyswllt yn y sefydliad
- Enw’r sefydliad
- Dyddiad dechrau a gorffen symud i'r sefydliad
Byddwn yn rhoi gwybod i UKVI am y manylion hyn fel newid dros dro yn lleoliad yr astudiaeth.
Am bob mis rydych chi i ffwrdd o Aberystwyth bydd angen i chi gyflwyno taflen bresenoldeb wedi'i llofnodi i sicrhau bod eich cyfrifoldebau fisa yn cael eu cyflawni.
-
Mae angen i mi ailsefyll blwyddyn, sut mae hyn yn effeithio ar fy fisa?
Yn bresennol: Os ydych wedi cael eich cynghori i ailsefyll blwyddyn astudio "yn bresennol", bydd disgwyl i chi ailgofrestru neu ailadrodd y flwyddyn astudio gyfan. Bydd angen i chi ymestyn eich fisa am flwyddyn arall er mwyn gallu cwblhau eich cwrs. Mae angen gwneud hyn cyn i'ch fisa ddod i ben. Mae gan UKCISA ganllawiau ar derfynau amser y Swyddfa Gartref ynghylch pa mor hir y cewch chi astudio yn y Deyrnas Unedig.
Heb Bresenoldeb: Os yw'n ofynnol i chi gofrestru fel myfyriwr allanol sy'n ailsefyll, byddwch yn ailsefyll o'ch mamwlad. Byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Gartref am hyn, bydd eich fisa myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl, a chaiff ei fisa ei ganslo.
Os byddwch chi'n llwyddo ym mhob un o'r arholiadau rydych chi'n eu hailsefyll ac yn cael eich cymeradwyo i ddychwelyd i astudio yn Aberystwyth, bydd angen i chi wneud cais am CAS newydd drwy'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol a fydd hefyd yn eich cynghori ar wneud cais am fisa myfyriwr newydd.
Pan fydd angen i chi ddychwelyd i'r Brifysgol, bydd angen i chi wneud cais am fisa newydd gyda CAS newydd.
-
Mae angen i mi ymestyn fy fisa Myfyriwr, sut mae hynny'n gweithio?
Mae gwybodaeth am ymestyn eich fisa ar gael gan y Gwasanaeth Cymorth a Chynghori ar Fisa.
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros fod angen ymestyn fisa Myfyriwr yw:
- Myfyrwyr yn ychwanegu Blwyddyn Dramor at eu cwrs gwreiddiol
- Myfyrwyr yn ychwanegu Blwyddyn mewn Diwydiant at eu cwrs gwreiddiol
- Angen i fyfyrwyr ailsefyll blwyddyn o'u cwrs
- Angen mwy o amser ar fyfyrwyr PhD i gwblhau'r cwrs
I wneud cais am estyniad fisa, mae'n rhaid i chi wneud cais am CAS newydd yn gyntaf.
Cysylltwch â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol immigrationadvice@aber.ac.uk i drefnu apwyntiad er mwyn cael cyngor fisa a chymorth i gyflwyno'ch ffurflen gais CAS. Pan fydd Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI yn derbyn eich cais CAS gan yr Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, bydd CAS drafft yn cael ei anfon atoch i'w adolygu a'i gymeradwyo, cyn i gofnod CAS terfynol gael ei neilltuo i chi.
Byddwn yn gofyn am gopi o'r cais fisa rydych chi wedi ei gyflwyno fel na fydd yn ymyrryd ar y broses gofrestru tra byddwch yn aros am eich fisa newydd.
Pan fydd eich fisa wedi'i gyhoeddi, rhaid i chi anfon cod rhannu atom fel y bod modd inni gadw copi o'ch eVisa ar ffeil.
-
Ga' i weithio?
Bydd angen i chi wirio'ch llythyr/e-bost penderfyniad fisa i weld beth yw eich hawliau
i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Mae gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol i wirio'ch hawl i weithio. Bydd angen i chi
ddarparu cod rhannu i'ch cyflogwr yn ogystal â gwybodaeth ynghylch dyddiadau'r tymor
ac amseroedd gwyliau fel eu bod yn cael gwybod oes modd i chi weithio'n rhan-amser
(yn ystod y tymor) neu'n llawn amser (yn ystod cyfnodau o wyliau). Gallwch ddarparu'r wybodaeth hon ar ffurf
un o'r canlynol:- Argraffiad o wefan Prifysgol Aberystwyth yn dangos dyddiadau'r tymhorau a
chyfnodau gwyliau. - Llythyr neu e-bost gan y Brifysgol yn cadarnhau dyddiadau eich tymor a'ch gwyliau (cysylltwch ag immigrationadvice@aber.ac.uk)
Mae rhagor o wybodaeth am weithio ar fisa Myfyrwyr ar gael ar wefan UKCISA
trwy'r ddolen ganlynol: Working as an international studentLefel Astudio
Cyfnod Gwyliau
Cwrs Saesneg Cyn-sesiynol
Dim
Rhaglen (paratoi ar gyfer gradd meistr)
Gwyliau'r Nadolig, Gwyliau'r Pasg
Israddedig
Gwyliau'r Nadolig, Gwyliau'r Pasg, Gwyliau'r Haf
Ôl-raddedig a Addysgir
Gwyliau'r Nadolig, Gwyliau'r Pasg
Ymchwil Ôl-raddedig
Rhaid i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fod yn astudio yn Aberystwyth am 44 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd. Rhaid cymryd gwyliau pan fo'n briodol yn unol â'ch ymchwil ac unrhyw ddigwyddiadau addysgu.
Gall cyfnodau gwyliau i fyfyrwyr ar nifer fach o raglenni fod yn wahanol, yn benodol y rhai sydd â chyfnodau helaeth o brofiad gwaith ee myfyrwyr Milfeddygaeth, Gwyddoniaeth a Nyrsio. Os nad yw myfyriwr yn siŵr a yw cyfnod gwyliau’n berthnasol i'w gwrs, dylai ofyn i Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI am eglurhad.
Noder y canlynol:
- Caniateir i ddeiliaid fisa myfyrwyr sy'n astudio ar lefel gradd ac uwch fel arfer
weithio'n rhan-amser (hyd at uchafswm o 20 awr yr wythnos) yn ystod y tymor.
Yn ystod cyfnodau gwyliau (gweler y tabl uchod), efallai y byddwch chi'n gweithio oriau llawn amser. - Nid yw myfyrwyr ar raglenni ôl-raddedig a addysgir ar wyliau yn ystod yr haf. Mae'r cyfnod hwnnw'n cael ei gyfrif fel amser tymor. Caniateir i chi weithio oriau rhan-amser a rhaid i chi fod yn byw yn Aberystwyth.
Nid oes gan fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig unrhyw gyfnodau gwyliau penodol a rhaid iddynt fod yn Aberystwyth yn astudio am 44 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd. Caniateir i chi weithio'n rhan-amser (uchafswm o 20 awr yr wythnos) drwy gydol y flwyddyn, ac ni ddylech gymryd yn ganiataol eich bod yn cael gweithio'n llawn amser yn ystod yr haf nac ar unrhyw adeg arall pan nad oes gweithgareddau addysg wedi eu trefnu. Caiff myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wneud cais am hyd at 8 wythnos (56 diwrnod) o wyliau bob blwyddyn academaidd. Dylid gwneud ceisiadau am wyliau trwy'r broses Awdurdodi Absenoldeb. Tra ar gyfnod cymeradwy o wyliau, caniateir i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio'n llawn amser.
Rhaid i chi sicrhau nad ydych chi'n gweithio mwy o oriau nag a ganiateir gan eich fisa. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cadw o fewn y rheolau.
- Argraffiad o wefan Prifysgol Aberystwyth yn dangos dyddiadau'r tymhorau a
-
Rydw i wedi colli fy mhasbort, ac mae gen i un newydd, oes angen i mi anfon copi atoch chi?
Oes. Mae'r UKVI yn ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol gael copi o'ch pasbort cyfredol. Os ydych chi wedi cael pasbort newydd mae'n rhaid i chi anfon llun neu sgan atom er mwyn inni gael cadw cofnodion cywir. Bydd eich cofnod myfyriwr a chydymffurfiaeth fisa yn cael eu diweddaru wedi hynny. Bydd angen i chi hefyd ddiweddaru'r UKVI eich hun trwy fynd i'ch cyfrif UKVI ar-lein er mwyn cysylltu'ch pasbort newydd â'ch eVisa.
Ewch i Update your UK Visas and Immigration account details: Overview - GOV.UK (www.gov.uk).
Os nad yw eich pasbort wedi'i restru, dewiswch 'Add identity document', ac uwchlwytho copi o'ch pasbort. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gan UKVI pan fydd eich pasbort wedi'i gysylltu â'ch eVisa.
-
Rwy'n fyfyriwr sy'n dychwelyd i'r brifysgol, ond ni allaf gwblhau'r broses ailgofrestru, mae'n dweud bod 'bloc cydymffurfio UKVI' ar fy nghofnod. Beth yw hyn?
Mae angen i rai myfyrwyr ddarparu prawf newydd o'u statws fisa cyn cael caniatâd i ailgofrestru ar gyfer blwyddyn/sesiwn newydd.
Bydd Swyddfa Gydymffurfiaeth UKVI wedi cysylltu â chi i ofyn am hyn cyn dechrau'r tymor.
Mae angen i chi anfon cod rhannu neu dystiolaeth arall o'ch statws fisa presennol atom cyn y bydd modd ichi gwblhau'r broses ailgofrestru.
-
Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn ailgofrestru ar gyfer fy nghwrs bob sesiwn?
Os ydych chi eisiau rhoi’r gorau i’ch astudiaethau, mae angen i chi wneud cais i dynnu'n ôl yn barhaol. Pan fydd myfyriwr heb ailgofrestru ar gyfer ei flwyddyn astudio nesaf, bydd y brifysgol yn tynnu nawdd fisa'r myfyriwr yn ôl gan nad ydynt bellach yn fyfyriwr cofrestredig.
-
Rydw i eisiau tynnu'n ôl o fy astudiaethau dros dro. Sut mae hynny'n gweithio a beth sy'n digwydd i'm fisa?
Os penderfynwch gymryd seibiant o'ch astudiaethau a'ch bod yn bwriadu dychwelyd i'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hwyrach ymlaen, mae angen i chi lenwi'r ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein i wneud cais i Dynnu'n ôl Dros Dro. Gellir dod o hyd i hwn ar eich Cofnod Myfyriwr o dan y teitl ‘Cofnod Academaidd’.
Sicrhewch eich bod yn cysylltu â'ch adran academaidd ynghylch goblygiadau academaidd eich penderfyniad a'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) ynghylch goblygiadau posib tynnu'n ôl ar eich fisa cyn gwneud y penderfyniad terfynol a chyn cwblhau'r ffurflen Hysbysiad o Dynnu'n ôl ar-lein.
Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein, mae gennych chi 3 diwrnod i ganslo eich cais i dynnu'n ôl.
Pan fydd cais i dynnu'n ôl yn cael ei gadarnhau ar eich cofnod myfyriwr byddwn yn tynnu nawdd eich fisa yn ôl ac yn hysbysu'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn golygu y bydd eich fisa yn cael ei ganslo, a rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosib. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech fod mewn perygl o aros yn hirach na chyfnod eich fisa. Mae aros yn hirach na chyfnod fisa yn drosedd a gall arwain at oblygiadau difrifol i unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill yn y dyfodol.
Os nad ydych chi yn y Deyrnas Unedig pan fyddwch yn penderfynu tynnu'n ôl dros dro, nodwch na fydd gennych hawl i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig.
Pan fyddwch yn penderfynu dychwelyd i astudio, bydd angen i chi wneud cais am fisa Myfyriwr newydd a bydd angen Cadarnhad Derbyn Astudiaethau (CAS) newydd arnoch. Cysylltwch â'r Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) o leiaf 3 mis cyn dychwelyd i'ch astudiaethau i wneud cais am CAS.
-
Dydw i ddim eisiau astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mwyach, ac rydw i'n mynd i dynnu'n ôl o'r cwrs yn barhaol, beth fydd yn digwydd i'm fisa?
Os ydych chi wedi penderfynu peidio â pharhau â'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i chi lenwi ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein. Gellir dod o hyd i hon ar eich Cofnod Myfyriwr o dan y teitl ‘Cofnod Academaidd’.
Sicrhewch, cyn ichi wneud y penderfyniad terfynol a chyn cwblhau'r ffurflen Hysbysiad o Dynnu'n ôl ar-lein, eich bod yn cysylltu â'ch adran academaidd ynghylch goblygiadau academaidd eich penderfyniad a'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (immigrationadvice@aber.ac.uk) ynghylch goblygiadau posib tynnu'n ôl ar eich fisa
Ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen ‘Hysbysiad o Dynnu'n ôl’ ar-lein, mae gennych chi 3 diwrnod i ganslo eich cais i dynnu'n ôl.
Pan fydd cais i dynnu'n ôl yn cael ei gadarnhau ar eich cofnod myfyriwr, byddwn yn tynnu nawdd eich fisa yn ôl ac yn hysbysu'r Swyddfa Gartref. Mae hyn yn golygu y bydd eich fisa yn cael ei chanslo, a rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig cyn gynted â phosib. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech fod mewn perygl o aros yn hirach na chyfnod eich fisa. Mae aros yn hirach na chyfnod fisa yn drosedd a gall arwain at oblygiadau difrifol i unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill yn y dyfodol.
Os ydych chi wedi penderfynu astudio (trosglwyddo) yn y Deyrnas Unedig, bydd angen i chi roi manylion eich prifysgol newydd i ni. Os ydych chi'n trosglwyddo i sefydliad arall, mae'n ofynnol inni roi gwybod i UKVI am hynny yn ein hadroddiad.
-
Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud cais am fisa Llwybr Graddedigion, pa mor fuan y caf wneud cais?
Ni ddylech gyflwyno eich cais llwybr graddedigion cyn i chi dderbyn e-bost gan Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI yn cadarnhau bod adroddiad wedi'i wneud i'r UKVI.
Bydd yr adroddiad yn cadarnhau i UKVI eich bod wedi cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus. Mae unrhyw gais a gyflwynir cyn yr adroddiad hwn yn debygol o gael ei wrthod.
Nid yw'r adroddiad hwn yn golygu eich bod yn gymwys i gael fisa graddedigion, mae'r dyfarniad a'r penderfyniad yn un a wneir gan UKVI yn unol â rheolau'r llwybr fisa hwnnw.
Gweithredir yr adroddiadau yn fuan ar ôl i'ch cwrs gael ei newid yn swyddogol i statws 'wedi cwblhau'n llwyddiannus' ar eich cofnod myfyriwr.
Byddwch yn derbyn eich canlyniadau cyn i'r cofnod myfyriwr gael ei ddiweddaru'n ffurfiol felly mae'n bwysig nad ydych chi'n cyflwyno cais nes y byddwch wedi derbyn yr e-bost sy’n noddi bod adroddiad wedi'i wneud.
Byddwch yn ymwybodol y gall fod oediad o ychydig ddyddiau rhwng cael eich canlyniad a derbyn e-bost gennym ni.
Dim ond os nad ydych chi'n bwriadu astudio cwrs arall yn y Deyrnas Unedig y gallwch chi wneud cais am y llwybr hwn.
Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sydd wedi cwblhau eich cwrs, efallai y byddwch yn derbyn e-bost ond os ydych chi’n bwriadu astudio cwrs ôl-raddedig yn y Deyrnas Unedig dylech wneud cais am fisa Myfyriwr newydd.
Mwy o fanylion am y Fisa Llwybr Graddedigion ar gael yma:
https://www.aber.ac.uk/en/sscs/visa-support-advice/post-study/graduate-route/
-
Rwy'n fyfyriwr PhD, ac eisiau gwneud gwaith maes sy'n gysylltiedig â'm cwrs y tu allan i'r Deyrnas Unedig, sut mae gwneud cais?
Rhaid i chi ofyn am ganiatâd yn ysgrifenedig i'ch goruchwyliwr, gan amlinellu eich cynlluniau i wneud gwaith maes, rhaid i chi ddarparu dyddiad dechrau a gorffen a chadarnhau eich lleoliad/lleoliadau trwy gydol cyfnod eich gwaith maes.
Efallai y bydd eich cyfadran hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen i sicrhau bod trefniadau yswiriant a theithio yn cydymffurfio â'u rheolau.
Rhaid i ffurflen y gyfadran/neu gymeradwyaeth ysgrifenedig gan eich goruchwyliwr gael ei hanfon atom trwy e-bost.
Mae'n ofynnol i ni adrodd am y cyfnod hwn o waith maes fel newid dros dro yn lleoliad yr astudiaeth i'r UKVI. Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn cynnal ein dyletswyddau noddi gan gynnwys sicrhau ein bod yn parhau i fonitro eich ymgysylltiad â'ch astudiaethau yn ystod eich cyfnod i ffwrdd o Aberystwyth.
Wrth wneud eich gwaith maes, bydd gofyn i chi ddarparu prawf rheolaidd o'ch astudiaethau parhaus.
Gall hyn fod naill ai yn
- E-bost yn cadarnhau eich bod wedi cynnal cyfarfod ar-lein gyda'ch goruchwyliwr (anfon cc i'ch goruchwyliwr) NEU
- Anfonwch y ffrwd e-bost rhyngoch chi a'ch goruchwyliwr atom sy'n amlinellu/eu diweddaru ar gynnydd ar eich gwaith maes
-
Rwy'n fyfyriwr PhD, ac rwyf am ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil gartref, oes modd imi wneud hyn? Sut bydd hyn yn effeithio ar fy fisa?
Cyn i chi wneud cais i ysgrifennu eich traethawd hir o'ch cartref, rhaid i chi fod yn y cyfnod cyn ei orffen/wrthi'n ysgrifennu.
Rhaid i chi geisio cymeradwyaeth ysgrifenedig gan eich adran a'ch goruchwyliwr ac anfon y gymeradwyaeth hon ymlaen mewn e-bost at Swyddfa Cydymffurfiaeth UKVI.
Bydd y brifysgol yn tynnu nawdd eich fisa yn ôl, a bydd eich fisa yn cael ei chanslo. Os bydd angen i chi ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig, e.e. ar gyfer arholiad llafar eich PhD, bydd angen i chi gael/wneud cais am fisa Ymwelydd.
Byddwch yn parhau i fod yn fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth tan ddiwedd eich cyfnod cofrestru gyda ni a bydd ein hadroddiad i'r Swyddfa Gartref yn nodi hynny.
Ni fyddwch yn cael dychwelyd i'r Deyrnas Unedig ar eich fisa Myfyriwr pan fydd y nawdd wedi'i dynnu'n ôl. Ni fyddwch yn gymwys chwaith i gael fisa Llwybr Graddedigion gan fod nawdd fisa Myfyriwr byw yn un o'r gofynion.
-
Rwy'n fyfyriwr PhD, a byddaf yn gorffen fy nghwrs yn gynt na'r disgwyl, beth sy'n digwydd i'm fisa?
Os byddwch yn cwblhau eich cwrs yn gynnar, rhaid i'r brifysgol roi gwybod i'r Swyddfa Gartref. Dim ond yn ystod eu cyfnod o fod wedi cofrestru ac yn astudio'n weithredol yn y Deyrnas Unedig y gall y brifysgol noddi myfyriwr. Os byddwch yn cwblhau eich cwrs yn gynnar, bydd nawdd fisa yn cael ei dynnu'n ôl, ac ni fydd eich fisa yn ddilys mwyach. Bydd UKVI yn eich hysbysu o ddyddiad terfyn eich fisa newydd ac yn nodi’r dyddiad y bydd angen i chi adael y Deyrnas Unedig neu wneud cais fisa newydd gyda'r Swyddfa Gartref i newid pwrpas eich arhosiad yn y Deyrnas Unedig.
-
Rwy'n fyfyriwr gradd Meistr a ddechreuodd ym mis Medi, ydw i'n cael egwyl dros wyliau'r haf?
Na, nid yw myfyrwyr ôl-raddedig ar gyrsiau a addysgir sy'n dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi yn cael gwyliau yn ystod yr haf ac mae'r cyfnod hwnnw'n dal yn amser tymor.
Rhaid i chi fod yn byw yn Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwn gan y bydd gofyn i chi fod ar y campws yn rheolaidd.
-
Rwy'n fyfyriwr Meistr ac rydw i eisiau mynd adref i ysgrifennu fy nhraethawd hir, oes modd imi wneud hyn?
Os hoffech chi ysgrifennu traethawd hir eich gradd meistr o'ch gwlad gartref, bydd angen i chi ofyn am gymeradwyaeth gan eich adran. Dim ond os ydych chi wedi mynychu'r holl sesiynau addysgu gofynnol, wedi cwblhau'r holl waith labordy gofynnol ac wedi trafod gyda'ch goruchwyliwr sut y gellir darparu goruchwyliaeth o bell y bydd eich adran yn cymeradwyo'r cais.
Os rhoddir caniatâd, bydd angen i chi anfon yr e-bost cymeradwyo at Swyddfa Gydymffurfiaeth UKVI. Bydd y Brifysgol yn tynnu nawdd eich fisa Myfyriwr yn ôl gan na fyddwch yn astudio yn y Deyrnas Unedig mwyach. Byddwch yn parhau i fod yn fyfyriwr tan ddiwedd eich cyfnod cofrestru.
Ni fyddwch yn cael dychwelyd i'r Deyrnas Unedig ar eich fisa Myfyriwr pan fydd y nawdd wedi'i dynnu'n ôl. Ni fyddwch yn gymwys chwaith i gael fisa Llwybr Graddedigion gan fod nawdd fisa Myfyriwr byw yn un o'r gofynion.
Myfyrwyr PhD
Myfyrwyr gradd Meistr
