Gwiriadau Hawl i Astudio

Beth yw'r 'hawl i astudio'?

Mae'r 'hawl i astudio’ yn golygu bod gennych ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac nid yw'r caniatâd hwn yn eich atal rhag astudio yn y DU, neu'n fwy penodol, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pam mae angen inni wirio hawl pobl i astudio?

 

Mae'r Swyddfa Gartref yn gofyn inni sicrhau bod gan bob myfyriwr sy'n astudio yn y Brifysgol hawl i astudio yn y DU drwy gydol eu cyfnod astudio. Os na wnawn ni hynny, ni fyddwn yn cyflawni ein dyletswyddau fel Noddwr Fisa Myfyrwyr, a gellid cymryd camau yn ein herbyn ni neu gallai ein Trwydded Noddwr Fisa Myfyrwyr gael ei thynnu'n ôl.

Ar bwy y mae angen gwiriad hawl i astudio?

Unrhyw un sy'n dymuno cofrestru i astudio cwrs o unrhyw hyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Bydd gofyn i fyfyrwyr sydd eisoes wedi'u cofrestru ar gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth ddangos rhagor o ddogfennau sy'n ymwneud â'u hawl i astudio os yw eu caniatâd presennol ar fin dod i ben.

Sut alla i brofi fod gen i'r hawl i astudio?

Os ydych chi'n ddinesydd o'r DU/Iwerddon, gallwch brofi bod gennych yr hawl i astudio yn y DU trwy ddarparu copi o'ch pasbort / tystysgrif geni / tystysgrif mabwysiadu / tystysgrif hawl i breswylio yn y DU.  Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf o newid enw (fel arfer tystysgrif briodas neu dystysgrif Gweithred Newid Enw) os yw'r enw ar eich Cofnod Myfyriwr yn wahanol i'r enw ar y ddogfen rydych chi wedi'i darparu fel tystiolaeth o'ch hawl i astudio yn y DU.

Dinasyddion y tu allan i'r DU / Gweriniaeth Iwerddon

Os ydych wedi darparu prawf o statws fisa/mewnfudo (ac eithrio fisa Myfyriwr) yn ystod y broses ymgeisio, fel arfer ni fydd yn ofynnol i chi wneud hynny eto, oni bai bod y prawf hwnnw wedi dod i ben.

 

Sut / pryd y bydd angen ichi ddarparu'r dogfennau hawl i astudio?

Gwladolion y DU/ Iwerddon 

Bydd gofyn ichi uwchlwytho eich dogfennau hawl i astudio cyn cyrraedd Aberystwyth yn rhan o'r broses 'rhoi ar waith'. Yn fuan ar ôl ichi roi eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth ar waith, fe gewch gyfarwyddiadau er mwyn ichi uwchlwytho eich dogfen/dogfennau i dudalen uwchlwytho ddiogel. 

Gwladolion o du allan i'r DU/ Iwerddon 

Os ydych wedi derbyn CAS ac yn dal fisa byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn Gwiriad Rhag Gofrestru i Fyfyrwyr Rhyngwladol, lle gofynnir ichi ddarparu sawl dogfen wreiddiol.

 

A oes rhaid imi ddarparu dogfennau hawl i astudio?

Oes. Ni fydd hawl gennych gofrestru ar eich cwrs oni fyddwn wedi gwirio eich hawl i astudio.

Eich cyfrifoldeb chi fydd cynnal eich hawl i astudio (eich statws mewnfudo) os yw eich caniatâd i astudio yn y DU ar fin dod i ben, neu os yw eich amgylchiadau'n newid i'r graddau y bydd hyn yn effeithio ar eich statws mewnfudo.

Bydd y Brifysgol yn atal dros dro neu'n gwahardd unrhyw fyfyriwr nad oes ganddo hawl mwyach i astudio yn y DU.

Pa ddogfennau / tystiolaeth y mae'n rhaid imi eu darparu?

Mae'r tablau isod yn rhoi enghreifftiau o'r mathau mwyaf cyffredin o statws mewnfudo a fisâu, ac mae'n dweud pa ddogfennau y byddai'n rhaid ichi eu darparu i ddangos bod gennych hawl i astudio. 

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha ddogfennau y dylech eu darparu, neu os ydych chi'n cael trafferth darparu'r ddogfennaeth ofynnol, e-bostiwch rtsstaff@aber.ac.uk am gymorth.

Sylwer, os yw'r enw ar eich Cofnod Myfyriwr yn wahanol i'r enw ar y ddogfen rydych chi wedi'i darparu fel tystiolaeth o'ch hawl i astudio yn y DU, bydd angen i chi ddarparu prawf o newid enw (fel arfer tystysgrif briodas neu dystysgrif Gweithred Newid Enw). 

Gwladolion Prydeinig/Iwerddon

Cenedligrwydd

Cyfyngiadau astudio

Y dogfennau angenrheidiol

Dinesydd Prydeinig/Gwyddelig

Dim cyfyngiadau astudio

Pasbort y DU / Gweriniaeth Iwerddon

neu

 Dystysgrif geni neu fabwysiadu'r DU wedi'i roi yn y DU / yn Ynysoedd y Sianel / ar Ynys Manaw neu Iwerddon 

neu

 Dystysgrif cofrestru fel dinesydd Prydeinig neu dystysgrif dinasyddiaeth Brydeinig

neu

Tystysgrif hawl i fyw yn Y Deyrnas Unedig

 

 
 

 

Gwladolion o du allan i'r DU / Gweriniaeth Iwerddon 

Categori Mewnfudo

Cyfyngiadau astudio

Y dogfennau angenrheidiol

Fisa Myryrwyr - noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth (CMRTYMH23)

Dim cyfyngiadau astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar y cwrs y rhoddwyd y Cadarnhad Derbyn i Astudio ar ei gyfer.

 

Mae'n bosib hefyd y caniateir astudiaethau atodol.


Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

neu

Brawf o gais newydd a gyflwynwyd gan ddefnyddio Cadarnhad Derbyn i Astudio wedi'i roi gan Brifysgol Aberystwyth - bydd angen ichi ddangos tystiolaeth y gwnaed y cais cyn i'ch fisa blaenorol ddod i ben. 

     

    Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

    Dim cyfyngiadau astudio

    Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich statws digidol

    Os ydych wedi rhoi tystiolaeth o’ch statws o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE fel rhan o’r broses derbyn, nid oes angen rhoi hyn eto.

    Fisa Ymweld

    Dim cyfyngiadau astudio ar cysiau 6 mis o hyd

    Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa ymweld digidol

    neu

     Stamp Fisa Ymweld yn eich Pasport

    neu

    Os ydych yn dod o un o’r wledydd sydd yn gyniatau chi i ddefnyddio e-gate rhaid i chi rhoi dystiolaeth o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren

     

    Fisa astudio tymor byr (Cyrsiau Iaith Saeneg yn unig)

    Dim cyfyngiad astudio ar gyfer cyrsiau sy'n para hyd at 11

    Vignette (sydd â stamp dyddiad mynediad arno neu dystiolaeth arall o'r dyddiad y cyrhaeddoch yn y DU, e.e. cerdyn byrddio ar awyren)

     

    ac i gyrsiau o 6 mis darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

     

    System Pwyntiau

    (Fisa Gweithiwr Medrus a.y.y.b)

    Dim cyfyngiadau astudio ond, gan ddibynnu ar y math o fisa sydd genych, efallai y bydd disgwyl ichi astudio rhan-amser yn unig

    Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

    neu

    Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad

     

    Dibynyddion y System Seiliedig ar Bwyntiau

    Dim cyfyngiadau astudio

    Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

    neu

    Geisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad

     

    Priod / Partner Sifil / Partner Dibriod Gwladolyn Prydeinig neu berson â statws sefydlog

    Dim cyfyngiadau astudio

    Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

    neu

    Geisiadau sy'n aros am benderfyniad: bydd angen inni weld tystiolaeth o'ch cais mewnfudo blaenorol, tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn i'ch caniatâd blaenorol ddod i ben, a thystiolaeth ddiweddar eich bod yn dal i aros am benderfyniad

    Caniatâd Amhenodol i Aros neu Breswyliad Parhaol 

    Dim cyfyngiadau astudio

     

    Gallech golli'ch statws os ydych chi wedi bod y tu allan i'r DU am ddwy flynedd neu ragor yn ddi-dor ers ichi gael Caniatâd Amhenodol i Aros.

     

    Darparu cod cyfranddaliadau o View and prove your immigration status - GOV.UK (www.gov.uk) er mwyn i ni gael gwirio eich fisa digidol

    neu

    Stamp mewn pasbort

    neu

    Lythyr sy'n cadarnhau bod gennych Ganiatâd Parhaol i Aros

    Lloches / Ffoaduriaid / Caniatâd yn ôl disgresiwn / Diogelwch dyngarol

    Dim cyfyngiadau astudio

     

    Trwydded Breswylio Fiometrig

    neu

    Vignette

     neu

    Ddogfen Statws Mewnfudo

    neu

    Lythyr sy'n cadarnhau eich bod wedi cael caniatâd parhaol i aros 

    Ceiswyr lloches

    Nid chaniateir ichi astudio fel rheol oni bai eich bod yn dal Cerdyn Cofrestru Cais, neu os yw eich Hysbysiad Mechnïaeth Fewnfudo yn nodi bod gennych ganiatâd i weithio ac i astudio.

    Cerdyn Cofrestru Cais

     

    Ceisiadau sy'n aros am benderfyniad ac apeliadau

    Os oes gennych chi gais sy'n aros am benderfyniad dan unrhyw rai o'r categorïau mewnfudo uchod, neu, os ydych yn dal i aros am benderfyniad eich apêl yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref i wrthod cais dan unrhyw rai o'r categorïau mewnfudo uchod, efallai y bydd angen i'r Brifysgol gysylltu â'r Swyddfa Gartref i gadarnhau bod gennych hawl i astudio cyn y gallwch gofrestru ar eich cwrs.  Byddwn yn gofyn ichi am eich caniatâd cyn inni gysylltu â'r Swyddfa Gartref. Bydd y caniatâd hwn yn eu galluogi nhw i rannu gwybodaeth amdanoch chi a'ch hanes / statws mewnfudo.