12.1.5 Y drefn ar gyfer cyflwyno apêl academaidd

1. O’r dyddiad y cyhoeddir canlyniadau arholiadau'r Brifysgol yn ffurfiol neu y rhoddir hysbysiad ffurfiol yn gofyn am waharddiad o dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, fel arfer bydd gan fyfyrwyr 10 diwrnod gwaith i gyflwyno apêl. Fel arfer, ni fydd apeliadau hwyr yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol, ategol yn cael ei chyflwyno sy’n esbonio'n glir pam yr ataliwyd y myfyriwr rhag cyflwyno'r apêl erbyn y dyddiad cau.

2. Rhaid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig gan ddefnyddio ffurflen Apêl Academaidd y Brifysgol, neu gall y myfyriwr e-bostio caostaff@aber.ac.uki ofyn am gopi. Rhaid cwblhau pob adran yn llawn. Os na fydd y ffurflen yn cael ei llenwi’n llwyr fe gaiff ei hanfon yn ôl at y myfyriwr ac ni fydd yn cael ei hystyried tan y cyflwynir ffurflen wedi'i llenwi'n llwyr ynghyd â thystiolaeth.

12.1.5.1 Tystiolaeth

1. Wrth apelio, rhaid i fyfyrwyr ddatgan yn glir yr hyn y maent yn apelio yn ei erbyn, a rhaid iddynt ddangos yn glir yr effaith a gafodd eu hamgylchiadau ar eu perfformiad, ar ffurf esboniad a thystiolaeth briodol.

2. I ddibenion y weithdrefn hon, rhaid i’r dystiolaeth a gyflwynir i gefnogi apêl myfyriwr fod yn annibynnol neu'n ategol, ac yn ddigon i gadarnhau unrhyw hawliadau neu faterion a godwyd. Nid yw datganiad personol o'r hyn y mae myfyriwr yn credu ei fod yn wir yn dystiolaeth. Rhaid i fyfyrwyr hefyd ddatgan yn glir yr hyn y maent yn dymuno’i gyflawni wrth apelio. RHAID i’r holl ddogfennau angenrheidiol i gadarnhau unrhyw amgylchiadau neu hawliadau eithriadol gael eu cyflwyno gyda'r ffurflen apêl. Rhaid llofnodi a dyddio'r dystiolaeth; rhaid i’r dystiolaeth ddangos sut yr effeithiodd yr amgylchiadau ar eu perfformiad, a rhaid iddi fod yn berthnasol i'r asesiad dan sylw.

3. Y myfyriwr sy’n gyfrifol am ganfod a chyflwyno tystiolaeth briodol gyda'r apêl. Ni fydd y Brifysgol yn gwneud hyn ar ran y myfyriwr. Os gwneir apêl yn dweud y gellir chwilio am fwy o wybodaeth ar ran y myfyriwr ni weithredir arni a chaiff ei gwrthod.

4. Os effeithiwyd ar berfformiad academaidd y myfyriwr gan amgylchiadau sy'n ymwneud â thrydydd parti, e.e. cyfaill, rhiant, brawd neu chwaer, dylai’r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol annibynnol sy'n esbonio'r effaith y mae'r amgylchiadau wedi'i chael arnynt. Os yw myfyriwr yn dymuno cyflwyno tystiolaeth sy'n ymwneud â thrydydd parti, rhaid darparu caniatâd ysgrifenedig i hyn gan y trydydd parti.

5. Ar ôl cwblhau’r cais am apêl, rhaid ei gyflwyno’n uniongyrchol i caostaff@aber.ac.uk. Os cyflwynir y ffurflen yn electronig, o gyfrif e-bost y myfyriwr ei hun fel arfer, ystyrir hon yn ddogfen 'wedi'i llofnodi' yn niffyg copi papur gwreiddiol. Os nad oes modd i’r myfyriwr ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost Prifysgol am unrhyw reswm, bydd y Brifysgol yn fodlon derbyn ceisiadau o gyfeiriad e-bost arall y myfyriwr neu trwy'r post. Bydd myfyrwyr yn derbyn cydnabyddiaeth ysgrifenedig i gadarnhau bod y ffurflen gais wedi cyrraedd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais llawn ynghyd â thystiolaeth briodol.

6. Cysylltir â'r myfyriwr trwy e-bost ynghylch canlyniad ei apêl. Cyfrifoldeb myfyrwyr yw sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gywir ar eu cofnod myfyriwr ar-lein. Nid yw'r Brifysgol yn gyfrifol am lythyrau nad ydynt yn cyrraedd myfyriwr am nad yw eu cofnod wedi ei ddiweddaru. Y prif ddull cyfathrebu fydd trwy e-bost, er y bydd llythyrau yn rhoi canlyniad yr apêl yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad a roddir ar y ffurflenni, os gwneir cais am hynny.