12.1.7 Adolygiad Terfynol

Os bydd myfyriwr yn dal yn anfodlon â chanlyniad yr apêl, gall ofyn am Adolygiad Terfynol. Cyfeirir myfyrwyr at y drefn hon wrth roi gwybod yn ysgrifenedig am y canlyniad ffurfiol, a bydd yn cael cyflwyno cais am Adolygiad Terfynol ymhen 10 niwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr/e-bost hwnnw. Ceir rhagor o fanylion yn 13 Adolygiad Terfynol: Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth.