12.2.5 Y broses ar gyfer cyflwyno Apêl Academaidd

1. O’r dyddiad y rhoddir hysbysiad ffurfiol o’r ganlyniadau arholiadau’r Brifysgol, neu wedi derbyn hysbysiad ffurfiol o dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd, bydd gan y myfyrwyr fel rheol 20 diwrnod gwaith i gyflwyno apêl. Fel rheol ni fydd apeliadau hwyr yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth ategol, annibynnol yn cael ei chyflwyno sy’n esbonio’n glir pam na fu modd i’r myfyriwr gyflwyno’r apêl erbyn y dyddiad cau.

2. Rhaid gwneud pob apêl yn ysgrifenedig ar ffurflen Apeliadau Academaidd y Brifysgol, neu drwy anfon ebost i caostaff@aber.ac.uki ofyn am gopi. Rhaid cwblhau pob adran yn llawn. Caiff ffurflenni nad ydynt wedi eu cwblhau yn llawn eu dychwelyd i’r myfyrwyr ac ni chânt eu hystyried nes y bydd ffurflen wedi’i llenwi’n llawn yn cael ei chyflwyno gyda’r dystiolaeth.

12.2.5.1 Tystiolaeth

1. Wrth apelio, rhaid i’r myfyrwyr nodi’n glir yn erbyn beth y maent yn apelio, a pha elfen (e.e. goruchwyliaeth, ymchwil, viva) yr effeithiwyd arni, a rhaid iddynt ddangos yn glir effaith eu hamgylchiadau ar eu perfformiad yn yr elfen honno, ar ffurf eglurhad a thystiolaeth briodol.

2. At ddibenion y Weithdrefn hon, rhaid i dystiolaeth a gyflwynir i ategu apêl y myfyriwr fod yn annibynnol neu’n gadarnhaol, ac yn ddigonol i bennu unrhyw honiadau neu faterion sy’n codi. Nid yw datganiad personol o’r hyn y mae’r myfyriwr yn credu sy’n wir yn cyfrif fel tystiolaeth. Rhaid i fyfyrwyr hefyd nodi’n glir yr hyn y maent yn dymuno’i gyflawni drwy’r apêl.

3. RHAID cyflwyno dogfennaeth lawn gyda’r ffurflen apelio i gadarnhau unrhyw amgylchiadau eithriadol neu honiadau. Rhaid llofnodi a nodi’r dyddiad ar y dystiolaeth; rhaid iddi ddangos sut yr effeithiodd yr amgylchiadau ar berfformiad, a rhaid iddi fod yn berthnasol i’r darn asesu yr effeithiwyd arno.

4. Bydd y myfyriwr yn gyfrifol am ganfod a chyflwyno tystiolaeth briodol gyda’r apêl. Ni fydd y Brifysgol yn gwneud hyn ar ran y myfyriwr. Ni fydd y Brifysgol yn gweithredu yn achos unrhyw apêl sy’n nodi y gellir gofyn am wybodaeth bellach ar ran y myfyriwr.

5. Os effeithiwyd ar berfformiad academaidd myfyriwr gan amgylchiadau sy’n ymwneud â thrydydd parti e.e. ffrind, rhiant, brawd/chwaer, dylai’r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth ddogfennol annibynnol sy’n esbonio’r effaith a gafodd hyn arno/arni. Os yw myfyriwr yn dymuno cyflwyno tystiolaeth sy’n ymwneud â thrydydd parti rhaid darparu caniatâd ysgrifenedig gan y trydydd parti.

6. Rhaid cyflwyno pob cais i apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi yn uniongyrchol i caostaff@aber.ac.uk. Os cyflwynir y ffurflen yn electronig, fel rheol o gyfrif e-bost Prifysgol y myfyriwr, ystyrir ei bod yn ddogfen ‘wedi’i llofnodi’ yn absenoldeb copi caled gwreiddiol. Os yw cyfrif e-bost Prifysgol y myfyriwr yn anweithredol am unrhyw reswm, bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau o gyfeiriad e-bost arall y myfyriwr neu drwy’r post. Bydd myfyrwyr yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig bod y ffurflen gais wedi ei derbyn o fewn 5 diwrnod gwaith wedi derbyn yr apêl gyflawn (yn cynnwys tystiolaeth briodol).

7. Cysylltir â’r myfyriwr drwy e-bost ynghylch canlyniad eu hapêl. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gywir yn y cofnod myfyriwr ar-lein. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb am lythyrau nad ydynt yn cyrraedd y myfyrwyr am nad yw’r cofnodion wedi’u diweddaru. Cysylltir yn bennaf drwy ebost, ond bydd llythyrau canlyniad yn rhan Apêl Academaidd y weithdrefn hefyd yn cael eu hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflenni a gyflwynwyd, pan fo angen.