2.1 Cyflwyniad i Ddatblygu ac Adolygu
Cyflwyniad
1. Mae Adran 2 y Llawlyfr yn disgrifio trefniadau’r Brifysgol ar gyfer cynllunio, datblygu a chymeradwyo rhaglenni astudio newydd. Mae hefyd yn ymdrin â’r ymarferion blynyddol a chyfnodol er mwyn monitro ac adolygu darpariaeth sy’n bodoli eisoes, a hynny ar lefel cynllun a modiwl.
Datblygu'r cwricwlwm
2. Dylid datblygu cynlluniau a modiwlau newydd o fewn yr adrannau academaidd, gan ddilyn arfer da wrth gynllunio cwricwlwm, ac ystyried disgrifiadau lefel ASA a’r datganiadau meincnodi pwnc. Dylid ymgynghori gyda myfyrwyr, ac ymgynghori’n allanol gydag arholwyr allanol, arbenigwyr pwnc, cyrff proffesiynol (PSRB) neu gyrff ymgynghorol eraill yn gynnar yn ystod datblygiad cynllun, a bydd tystiolaeth ddogfennol o’r broses hon yn cael ei hystyried gan banel craffu academaidd sefydlog. Dylai Adrannau ystyried goblygiadau unrhyw ddatblygiad newydd ar gyfer staffio i ddiogelu gwytnwch y portffolio, ac ystyried yn ogystal y cylch cynllunio dwy flynedd er mwyn sicrhau bod modd cwblhau’r broses cymeradwyo cynllun mewn da bryd fel bod modd sicrhau marchnata effeithiol.
3. Wrth gynllunio cynllun neu fodiwl newydd, bydd angen i'r adrannau ystyried y meini prawf a amlinellir yn y Ffurflen Datblygu Cynllun a’r Ffurflen Cymeradwyo Modiwl. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl yn ystod y prosesau cymeradwyo a amlinellir yn Adran 2 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Cyfraith Defnyddwyr a newidiadau i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes
4. Ym mis Mai 2023, diweddarwyd y cyngor a roddir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i ddarparwyr addysg uwch ynglŷn â chyfraith defnyddwyr, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2015. Nod y diweddariad oedd sicrhau bod y cyngor a roddir i ddarparwyr, er enghraifft wrth gyfeirio at gyfraith defnyddwyr a rhanddeiliaid, yn gyfoes. Er bod rhywfaint o’r iaith a’r cyfeiriadau yn y ddeddfwriaeth wedi newid, yr un yw ymrwymiad darparwyr addysg uwch o ran sylwedd i’r hyn a gyhoeddwyd yn y cyngor gwreiddiol sy’n amlinellu safbwynt yr Awdurdod o ran cydymffurfio mewn nifer o feysydd gan gynnwys darparu gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig. Mae’r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (ASA) wedi llunio canllaw ymarferol er mwyn cynorthwyo darparwyr i gyflwyno gwybodaeth o ansawdd uchel i ddarpar fyfyrwyr, a hynny yn cynnwys gofynion mynediad, strwythur a dull dysgu’r cwrs, gwybodaeth am fodiwlau, asesiadau ac adborth, a chostau’r cwrs. Mae’r cyngor diwygiedig a ailgyhoeddwyd (31 Mai 2023) ar gael yma https://assets.publishing.service.gov.uk/media/64771faeb32b9e0012a95f30/Consumer_law_advice_for_higher_education_providers_.pdf
5. Rhaid i'r Cyfadrannau gynllunio’n ofalus cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i gynlluniau cyfredol, a’r modiwlau sy’n cyfrannu tuag atynt. Os yw newidiadau’n cael eu cynnig fel rhan o ymarferiadau monitro neu adolygu blynyddol, neu mewn ymateb i drefniadau adborth allanol neu adborth myfyrwyr, rhaid i'r adrannau ymgynghori gyda myfyrwyr cyfredol (yn cynnwys y rhai sydd wedi derbyn cynnig ond sydd heb ddechrau eu hastudiaethau) cyn y gellir ystyried cymeradwyo’r newidiadau. Bydd union natur yr ymgynghori hwn yn dibynnu ar ystod y newidiadau arfaethedig ond fe all ddilyn un o’r dewisiadau canlynol. Dylai'r Adrannau ymgynghori â’r Tîm Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor pellach: qaestaff@aber.ac.uk:
(i) Ymgynghori drwy'r Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr
(ii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda’r myfyrwyr yn anfon ymatebion at Gynrychiolwyr Myfyrwyr er mwyn galluogi trafodaeth ar y cyd mewn cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Staff / Myfyrwyr
(iii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda rheidrwydd i gael cydsyniad pob myfyriwr.
6. Mewn achosion lle y mae’n bosibl na fydd modiwlau dewisol yn cael eu cynnig oherwydd diffyg diddordeb neu am nad oes aelodau staff ar gael i’w dysgu, dylid gwneud hyn yn eglur i fyfyrwyr trwy’r wybodaeth a gyhoeddir. Dylid hysbysu myfyrwyr o unrhyw newid i’r dewis o fodiwlau sydd ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu dewis modiwl arall. Bydd hyn yn cael ei egluro i fyfyrwyr mewn llawlyfrau adrannol, sy’n cynnwys datganiad cyffredin ar lefel prifysgol.
Manylaebau Rhaglen
7. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch 2024 yn mynnu bod cyrff dyfarnu graddau yn darparu gwybodaeth ddiffiniol am eu dyfarniadau. Gweler Egwyddor 7 – Cynllunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu rhaglenni Arferion Allweddol 7b Cynhyrchir set ddiffiniol o ddogfennau o’r prosesau dylunio, datblygu, cymeradwyo ac addasu; fe’u cedwir yn ddiogel ac maent yn gweithredu fel y brif ffynhonnell wybodaeth am bob rhaglen.
Gwneir hyn trwy’r fanyleb rhaglen, sy’n cynnwys manylion am yr wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a phriodoleddau eraill y bydd myfyrwyr yn eu datblygu wrth gwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus, ynghyd â’r gweithgareddau dysgu ac asesu sy’n eu cefnogi wrth iddynt ddysgu.
8. Y Gofrestrfa Academaidd sy’n gyfrifol am gynnal y manylebau rhaglen ar-lein, a disgwylir i adrannau adolygu’r rhain bob blwyddyn. Archwilir y manylebau rhaglen hefyd yn rhan o adolygu ac ailddilysu cynlluniau. Darperir templed ar gyfer eu paratoi ar y dechrau a’u cymeradwyo. Ceir templed penodol ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn yn astudio dramor, gyda chanlyniadau dysgu a fydd yn gyffredin i bob cynllun. Mae’r rhain ar gael yn Adran 2.14 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Cyhoeddir canllawiau ar gyfer ysgrifennu manylebau rhaglen gan yr Academi Addysg Uwch, ac maent ar gael yma: (https://www.heacademy.ac.uk/system/files/new_writing_programme_specification.pdf).
Marchnata cynlluniau newydd
9. Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r polisi canlynol ar gyfer marchnata a chyhoeddi gwybodaeth am gynlluniau newydd.
10. Ni fydd cynlluniau yn cael eu hysbysebu ar dudalennau ‘chwilio am gwrs’ y Brifysgol, ac ni fyddant ar gael i ymgeiswyr trwy UCAS, hyd nes iddynt dderbyn cymeradwyaeth derfynol. Ni chaniateir unrhyw eithriad i’r polisi hwn.
11. Gellir hysbysebu pob cynllun newydd ym mhrosbectws printiedig y Brifysgol ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn sgil ystyriaeth gychwynnol gan y Panel Craffu Academaidd.
12. Mewn achosion eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) ganiatáu dulliau marchnata eraill ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’. Byddai hyn yn golygu bod yr adrannau yn gallu cynhyrchu taflenni print neu arddangos manylion ar wefannau adrannol neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Noder na fydd hyn yn cynnwys UCAS na thudalennau cyrsiau’r Brifysgol. Er mwyn gofyn i’r Dirprwy Is-Ganghellor ystyried caniatáu marchnata ehangach ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’, bydd angen i'r adrannau gwblhau cais yn y rhan berthnasol o’r Ffurflen Datblygu Cynllun. Dyma’r meini prawf ar gyfer penderfyniad gan y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr):
Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu dysgu yn Aberystwyth:
(i) Rhaid i o leiaf 75% o’r cynllun fod yn cael ei ddarparu eisoes trwy fodiwlau cyfredol
(ii) Mae’r holl adnoddau ar gyfer darparu’r cynllun yn bodoli eisoes
(iii) Cadarnhawyd teitl y cynllun eisoes, ac ni fydd unrhyw newid pellach.
Ni fydd marchnata ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn cael ei gymeradwyo os ystyrir y gallai teitl y cynllun gael ei drafod ymhellach a’i newid yn ystod cam y panel yn y broses cymeradwyo cynlluniau.
Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu darparu trwy bartneriaeth gydweithredol:
(i) Mae'r trefniant partneriaeth eisoes wedi'i gymeradwyo
(ii) Mae’r cynllun yn seiliedig ar ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn Aberystwyth ac ni fydd unrhyw addasu cynnwys na newid i’r teitl.
Gwybodaeth gyhoeddedig
13. Yr Adrannau sy'n gyfrifol am gynnal gwybodaeth gywir a chyfredol am eu cyrsiau. Ceir canllawiau ar sut i gyhoeddi gwybodaeth am gyrsiau trwy dudalennau Tîm y We: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/web/courses/. Cyhoeddir gwybodaeth am gyrsiau yma https://cyrsiau.aber.ac.uk/ a cheir manylion strwythur y cynlluniau yn ôl blwyddyn academaidd yma https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/ . Cyhoeddir mynegai i fodiwlau cyfredol a’u manylion fesul blwyddyn academaidd ac Adran yma https://www.aber.ac.uk/cy/modules/.