2.6 Panel Craffu Academaidd

1. Bydd gan y Panel Craffu Academaidd sefydlog aelodaeth o 12 - 16 o staff academaidd a bydd pob cyfadran yn enwebu aelodau i wasanaethu ar y panel am gyfnod hyd at 4 blynedd. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a byddai angen cworwm o 4-5, yn cynnwys cynrychiolydd o'r Gofrestrfa Academaidd a chynrychiolydd myfyrwyr, ac ni fyddai angen i'r holl aelodau cyfadrannol fod yn bresennol ym mhob cyfarfod.  Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) fydd yn cadeirio'r Panel fel arfer.

2. Bydd y Panel Sefydlog fel arfer yn cyfarfod 5-6 gwaith rhwng mis Hydref a mis Mehefin. Yn y cyfarfodydd hyn, ystyrir cynigion i gymeradwyo cynlluniau, a bydd angen i adrannau gynllunio'n unol â hynny, ond gellid trefnu cyfarfodydd ychwanegol pe bai angen. Gellir dod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd a dyddiadau cau ar gyfer papurau’r Panel Craffu Academaidd yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/panel-craffu-academaidd/

3. Nid oes rhaid i Aseswyr Allanol ddod i'r cyfarfodydd ond rhaid iddynt gyflwyno adroddiad ysgrifenedig. Gall y panel ofyn am sylwadau pellach lle bo hynny'n briodol neu gellir gwahodd yr Asesydd Allanol i fod yn bresennol trwy fideo-gynadledda os oes materion yn codi yn yr adroddiad ysgrifenedig sydd angen eu trafod ymhellach yn fanwl.

4. Ysgrifennydd y Panel (aelod o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) fydd yn gyfrifol am gymryd cofnodion, ac am nodi penderfyniadau ac unrhyw argymhellion. Bydd y cofnodion hyn yn mynd i'r adran sy'n cyflwyno'r cynnig ar gyfer unrhyw weithredu pellach, a chânt hefyd eu cyflwyno i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn gofnod o'r penderfyniadau a wnaed.

5. Aelodau'r Panel Craffu Academaidd fydd:

a. Y Cadeirydd, o'r tu allan i adran academaidd y cynnig, ac fel arfer Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol y Gyfadran (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr). Dylai'r Cadeirydd fod yn unigolyn sydd ag annibyniaeth a phellter beirniadol addas oddi wrth y cynllun a gynigir, ac fe'i dewisir/ddewisir gan y Gofrestrfa Academaidd.

b. O leiaf un aelod o staff academaidd o bob Cyfadran, sydd ag annibyniaeth a phellter beirniadol addas oddi wrth y cynllun

c. Cynrychiolydd myfyrwyr, i ddod o bwll a enwebir gan Undeb y Myfyrwyr, Adolygydd Myfyrwyr fel arfer

d. Aelod staff o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd, a fydd hefyd yn drafftio adroddiad y panel.

6. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofalu am gynrychiolaeth cyfrwng Cymraeg ar baneli.

7. Gwahoddir adrannau academaidd i enwebu cynrychiolydd i gyflwyno'r cynnig i gyfarfod y panel. Yn achos cynlluniau academaidd trawsadrannol, enwebir cynrychiolydd o'r naill adran academaidd a'r llall gan eu hadrannau.

Rôl y Panel Craffu Academaidd

8. Panel Sefydlog yw'r Panel Craffu Academaidd ac mae'n adrodd i'r Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Y Panel sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chynlluniau a gynigir, ond gall eu cyfeirio'n ôl at y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) a'r Pennaeth Cynllunio neu ymlaen i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau os oes agweddau sylweddol sy'n peri pryder neu faterion ag iddynt ystyriaethau ehangach i'r Brifysgol. Bydd y Pwyllgor Ansawdd a Safonau yn cadw golwg gyffredinol ar ddull gweithredu'r Panel Craffu Academaidd ac yn monitro effeithlonrwydd y prosesau Sicrhau Ansawdd.

9. Bydd y Panel yn gwneud yn sicr y bu digon o ymgynghori allanol wrth ddatblygu'r cynllun, er enghraifft ag arholwyr allanol cyfredol, ymgynghorwyr allanol yr adran, a chynrychiolwyr o gyrff proffesiynol neu achrededig. Bydd y Panel yn rhoi ystyriaeth fanwl i farn yr aseswr allanol, a fydd wedi gorfod cyflwyno adroddiad ysgrifenedig (SDF8) ymlaen llaw i’w ystyried gan y panel.  

10. Bydd cyfarfodydd y Panel Craffu Academaidd yn cael eu trefnu fel a ganlyn:

(i) Croeso gan y Cadeirydd

(ii) Crynodeb o'r cynllun gan yr adran(nau) sy'n ei gynnig

(iii) Trafodaeth gyffredinol, a fydd yn ystyried y cwestiynau canlynol ac yn ystyried anghenion yr holl fyfyrwyr:

    • A oes tystiolaeth fod galw am y cynllun ac a yw'r gofynion mynediad ar lefel briodol?
    • A yw amcanion a chanlyniadau dysgu'r cynllun yn briodol, yn arbennig yng nghyswllt y meincnodau pwnc perthnasol, y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru?
    • A yw cynnwys a chynllun y maes llafur yn briodol ar gyfer cyflawni amcanion dysgu arfaethedig y cynllun?
    • A yw'r maes llafur wedi'i drefnu fel bod y gofynion ar y dysgwr yn nhermau her ddeallusol, sgiliau, gwybodaeth, cysyniadoli, ac annibyniaeth wrth ddysgu yn cynyddu'n gyson?
    • A yw'r dulliau asesu yn addas i fesur graddfa cyflawni'r canlyniadau arfaethedig?
    • A oes adnoddau digonol, h.y. staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw ofynion arbenigol, i ddarparu'r cynllun yn effeithiol?
    • A oes gan y cynllun unrhyw nodweddion a fydd ag oblygiadau o ran ymarferoldeb, rheoli neu gyflenwi, neu o ran rheoliadau'r Brifysgol?

(iv) Trafodaeth gan y panel, ac ni fydd cynrychiolydd yr adran(nau) sy'n cynnig y cynllun yn bresennol yn y drafodaeth

(v) Penderfyniad.

Penderfyniadau'r Panel Craffu Academaidd

11. Y dewisiadau isod fydd gan y Panel Craffu Academaidd wrth ddod i benderfyniad:

a. Cymeradwyo'n ddiamod

b. Cymeradwyo, gyda mân newidiadau (Cadeirydd y Panel yn cymeradwyo)

c. Cymeradwyo’n amodol: yn yr achos hwn bydd angen i'r adran sy'n cyflwyno'r cynnig roi ymateb i Gadeirydd y Panel, a fydd hefyd yn cael ei gadarnhau gan yr aseswr allanol

d. Cyfeirio'r cynnig yn ôl i'r adran(nau) academaidd Yn yr achos hwn, disgwylir y byddai angen newidiadau sylweddol cyn ailgyflwyno'r cynnig

e. Gwrthod (ar sail Sicrwydd Ansawdd yn unig).

12. Bydd y Panel Craffu Academaidd yn diffinio camau gweithredu fel argymhellion neu amodau:

a. Argymhellion: dylai’r rhain fod yn feysydd i'w hystyried gan yr adran sy’n cyflwyno’r cynnig, neu fân gywiriadau, ond ni fyddant yn achosi oedi o ran cymeradwyo'r cynnig.

b. Amodau: dylid datgan yr amodau’n glir os yw cymeradwyo’r cynnig yn ddibynnol ar gyflawni amodau penodol o fewn amserlen a nodir. Ni fydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo hyd nes bod yr amodau hyn yn cael eu bodloni.

Canlyniad y Panel Craffu Academaidd

13. Yn dilyn cyfarfod y panel, bydd Ysgrifennydd y Panel (aelod o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) yn paratoi cofnodion y cyfarfod mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd.

14. Dylai’r Adran sy’n cyflwyno’r cynnig lenwi blaenddalen pwyllgor mewn ymateb i'r cofnodion, gan roi manylion y diwygiadau a wnaed i'r cynnig gwreiddiol o ganlyniad i adborth y Panel Craffu Academaidd. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau pellach i’r ffurflenni SDF oni bai bod y Panel yn argymell gwneud hynny. Bydd cofnodion y Panel Craffu Academaidd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau. 

Marchnata’r cynllun

15. Cyhoeddir enghraifft o'r amserlen ar gyfer marchnata a chymeradwyo (cylch cynllunio dwy flynedd) ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review/. Os gwneir cynnig am gynllun newydd nad yw'n unol â'r cylch dwy flynedd, bydd y Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr) yn penderfynu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno'r cynllun ynghynt.

16. Caiff y cynllun ei hysbysebu fel un sy’n 'amodol ar gael ei gymeradwyo' ym mhrosbectws ffurfiol nesaf y Brifysgol yn dilyn cymeradwyaeth y Panel Craffu Academaidd. Ni cheir hysbysebu cynlluniau ar UCAS nac ar-lein tan i'r drefn gymeradwyo gael ei chwblhau yn ei chrynswth, oni bai bod yr adran wedi cyflwyno achos llwyddiannus i gael hysbysebu'r cynllun 'yn amodol ar ei gymeradwyo' mewn deunydd print ac ar-lein yn ogystal â phrosbectws ffurfiol y Brifysgol. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r adran(nau) sy’n cynnig y cynllun ac i adrannau’r gwasanaethau perthnasol.

17. Bydd y cymal ‘yn amodol ar gael ei gymeradwyo’ yn cael ei ddileu a bydd y cynllun yn cael ei hysbysebu ar-lein ac ar dudalennau chwilio am gyrsiau, wedi iddo gwblhau'r broses gymeradwyo ar ei hyd. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r adran(nau) sy’n cynnig y cynllun ac i adrannau’r gwasanaethau perthnasol.