4.8 BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)

Yn berthnasol i bob myfyriwr sy'n dechrau ym mis Medi 2022

Rheolau symud ymlaen

1. Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 40% ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr basio'r holl asesiadau ym mhob modiwl. Rhaid pasio pob modiwl, h.y. 120 credyd, er mwyn symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.

2. Bydd gofyn i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen neu’r elfennau a fethwyd ym mhob semester. Bydd gan fyfyrwyr DDAU gyfle i ailsefyll modiwl neu elfen a fethwyd (ar wahân i'r elfen Ymarfer Proffesiynol - dim ond UN cyfle i ailsefyll honno a geir, a hynny ar ddiwedd y lleoliad). Cyfle i ailsefyll yn ystod y semester fydd y cyfle cyntaf. Os methir y cyfle i ailsefyll yn ystod y semester, bydd y cyllid yn cael ei atal am flwyddyn a bydd gan fyfyrwyr un cyfle olaf i ailsefyll yn allanol o fewn 12 mis. Wedi iddynt ailsefyll yn allanol bydd myfyrwyr yn ailymuno â'r brif garfan yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.

Dyfarniadau gadael

3. Bydd ymgeisydd sydd yn ennill marc cyffredinol o 40% yn Rhan Un ond nad yw’n parhau â’i astudiaethau yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd ar Lefel 4)

4. Bydd ymgeisydd sydd yn ennill marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw’n parhau â’i astudiaethau yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (DAU) Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd ar Lefel 5)