4.10 BSc Gwyddor Fiofeddygol neu BSc Gwyddor Fiofeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant), graddau achrededig Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol (IBMS)
Yn berthnasol i bob myfyriwr sy'n dechrau ym mis Medi 2025
Rheolau symud ymlaen
1. Rhan Un: marc pasio’r modiwl yw 40% ac mae rheolau symud ymlaen yn dilyn y confensiynau safonol ar gyfer y Radd Baglor: Rheolau ar gyfer Symud Ymlaen yn Rhan Un
2. Rhan Dau:
i. Marc pasio’r modiwl yw 40%.
ii. Mae'n rhaid i fyfyrwyr basio bob asesiad yn yr holl fodiwlau yn Rhan Dau i fod yn gymwys i ennill gradd achrededig IBMS.
iii. I symud ymlaen o un flwyddyn o astudio i'r nesaf, rhaid i fyfyrwyr basio o leiaf 100 credyd; gall myfyrwyr barhau i'r flwyddyn mewn diwydiant neu'r flwyddyn olaf yn cario elfennau a fethwyd.
iv. Mae confensiynau ailsefyll yr un fath â'r Radd Baglor (4.2.4 Rhan Dau (Blwyddyn Dau ac uwch) – Myfyrwyr a gychwynnodd Rhan Dau o fis Medi 2019).
Dyfarniadau gadael
3. I fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad BSc Gwyddor Fiofeddygol neu BSc Gwyddor Fiofeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant), rhaid i fyfyrwyr basio'r holl asesiadau ym mhob modiwl yn Rhan Dau.
4. Bydd ymgeisydd sy'n cyflawni marc cyffredinol o 40% yn Rhan Un ac sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer dyfarnu Tystysgrif Addysg Uwch (LlAA4.16) ond nad ydynt yn bwrw ymlaen â’u hastudiaethau yn gymwys i gael dyfarniad Tystysgrif Addysg Uwch Biowyddor Feddygol.
5. Bydd ymgeisydd sy'n cyflawni marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ac sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer dyfarnu Diploma Addysg Uwch (LlAA4.16) ond nad ydynt yn bwrw ymlaen â’u hastudiaethau yn gymwys i gael dyfarniad Diploma Addysg Uwch Biowyddor Feddygol.
6. Bydd ymgeisydd sy'n methu â chyflawni'r gofynion BSc Gwyddor Fiofeddygol neu BSc Gwyddor Fiofeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant), ond sy'n bodloni rheoliadau gradd gychwynnol modiwlar PA yn gymwys i ennill dyfarniad BSc Biowyddor Feddygol neu BSc Biowyddor Feddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant).