5.9 Darpariaeth Gydweithredol

1. Penodir Arholwyr Allanol gan y Brifysgol a sefydliadau partner cydweithredol ac mae’n rhaid iddynt ddilyn gweithdrefnau arholwyr allanol sy’n gyson â’r rhai a weithredir gan y Brifysgol.

2. Yn achos trefniadau breiniol, hyd y mae hynny’n bosibl, dylid penodi’r Arholwr Allanol sy’n arholi’r rhaglen ym Mhrifysgol Aberystwyth i arholi’r rhaglen freiniol yn ogystal.  Gofynnir i adrannau gyfathrebu'n glir i ddarpar arholwr allanol y bydd eu rôl yn cynnwys archwilio'r rhaglen fasnachfraint.

3. Dylai Arholwyr Allanol sicrhau eu bod yn cwblhau unrhyw rannau ychwanegol ar gyfer darpariaeth gydweithredol yn yr adroddiad blynyddol.

4. Bydd y partner cydweithredol yn cael cyfle i nodi sylwadau yn rhannau perthnasol yr adroddiad cyn ei gyflwyno i’r adran. Bydd yr adroddiad blynyddol, ynghyd ag ymatebion yr adran a’r partner cydweithredol, yn cael eu cyhoeddi i fyfyrwyr darpariaeth gydweithredol trwy safle BwrddDu y Partner.

5. Byddai disgwyl i arholwyr allanol ystyried a chynghori ynglŷn â chyffelybrwydd safonau mewn achosion lle mae cynlluniau a modiwlau’n cael eu darparu ar fwy nag un safle, a hynny yn cynnwys y rhai sy’n cael eu darparu trwy gydweithrediad â sefydliad partner a gymeradwywyd gan y brifysgol.