13.1 Cyflwyniad
1. Os bydd myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad ffurfiol, gall ef/hi ofyn am Adolygiad Terfynol, yn unol â’r Weithdrefn hon ar gyfer Adolygiad Terfynol. Gall myfyrwyr ofyn am Adolygiad Terfynol yn erbyn penderfyniadau a wnaed yn ôl y gweithdrefnau isod ym Mhrifysgol Aberystwyth:
(i) Gweithdrefn Apeliadau Israddedigion ac Uwchraddedigion trwy Gwrs
(ii) Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd (diarddel ar sail academaidd)
(iii) Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
(iv) Trefn Ddisgyblu
(v) Gweithdrefn Gwyno Myfyrwyr
(vi) Addasrwydd i Ymarfer
(vii) Cymorth i Astudio
2. Cyfeirir myfyrwyr at y Weithdrefn Adolygiad Terfynol hon wrth iddynt dderbyn y penderfyniad terfynol yn ysgrifenedig a bydd ganddynt 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y canlyniad ffurfiol i gyflwyno Adolygiad Terfynol. Fel rheol, ni fydd ceisiadau Adolygiad Terfynol a dderbynnir yn hwyr yn cael eu hystyried, oni bai fod tystiolaeth annibynnol, atgyfnerthol, yn cael ei chyflwyno sy’n esbonio’n glir paham y rhwystrwyd y myfyriwr rhag cyflwyno’r Adolygiad Terfynol erbyn y dyddiad cau.
3. Fel arfer, y myfyriwr fydd yn cyflwyno’r cais am Adolygiad Terfynol, ond mae’n bosib y bydd am benodi cynrychiolydd i gyflwyno’r cais ar ei ran. Disgwylir fel rheol i’r myfyriwr ddarparu caniatâd ysgrifenedig, drwy lythyr neu gyfrif e-bost y Brifysgol, yn awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran (byddai’n rhaid rhoi rheswm dilys, da dros beidio â gwneud hynny).
4. Ni fydd myfyrwyr sy’n gwneud cais am Adolygiad Terfynol yn ddidwyll yn dioddef anfantais nac edliw. Ni fydd myfyrwyr yn destun camau disgyblu oni wnânt gais am Adolygiad Terfynol yn wamal (h.y. heb ddim diben na gwerth difrifol), yn blagus (h.y. yn peri gofid neu annifyrrwch) neu’n faleisus (h.y. awydd i beri niwed neu ddioddefaint). (Gweler Trefn Ddisgyblu Prifysgol Aberystwyth).
5. Mae cyngor ynglŷn â’r Weithdrefn hon ar gael gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion (caostaff@aber.ac.uk) neu gan Gynghorydd Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr (undeb.cyngor@aber.ac.uk).