11.5 Prosesu Ceisiadau’n Fewnol a Gwneud Cynigion

1. Caiff yr holl geisiadau eu derbyn a’u prosesu gan staff yn y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion i ddechrau. Caiff derbynneb a phob cam o’r broses dderbyn ddilynol ei chofnodi ar y system derbyn myfyrwyr electronig.

2. Bydd staff Derbyn Uwchraddedigion yn cynnal asesiad cychwynnol o bob cais, i ganfod gallu’r ymgeisydd i fodloni gofynion mynediad academaidd ac iaith Saesneg, cymaroldeb cymwysterau o’r tu allan i’r DU, statws ffioedd a materion cydymffurfiaeth ag UKVI. Gwneir nodyn o’r uchod ar y system derbyn myfyrwyr, a gall y detholwyr uwchraddedig a’r staff awdurdodedig weld hyn fel ag y bo’n briodol.

3. Mae gan staff penodedig yn y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion awdurdod i wneud cynigion ar ran adrannau academaidd ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau uwchraddedig yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Caiff ceisiadau ar gyfer cyrsiau TAR a chyrsiau Meistr a addysgir a gynigir gan yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r Ysgol Gelf eu hanfon yn uniongyrchol i’r Detholwr Uwchraddedig Adrannol i’w hadolygu a gwneud penderfyniad yn eu cylch.

4. Anfonir pob cais nad yw’n cyd-fynd â’r meini prawf derbyn safonol, drwy’r system derbyn myfyrwyr electronig, at y detholwyr uwchraddedig o fewn yr adran academaidd berthnasol i’w adolygu a gwneud penderfyniad yn ei gylch.

5. Cyfeirir pob cais am gyrsiau ymchwil uwchraddedig at yr adran academaidd berthnasol i'w adolygu a gwneud penderfyniad yn ei gylch drwy'r system derbyn myfyrwyr electronig.

6. Mae gan y Brifysgol gyfres ddiffiniedig o gyfrifoldebau ar gyfer pob Detholwr Uwchraddedig yn yr adrannau academaidd (gweler Adran 11.23 isod).