11.9 Cyfweliadau

1. Fel rheol, nid yw’n ofynnol gan y Brifysgol fod ymgeiswyr ar gyfer cynlluniau astudio uwchraddedig a addysgir yn cael cyfweliad yn rhan o’r broses dderbyn. Fodd bynnag, yn ôl disgresiwn yr adran sy’n dethol, mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau ansafonol, neu ymgeiswyr hŷn nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs dan sylw, yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad. Mewn achosion o’r fath bydd yr adran academaidd berthnasol yn cysylltu â’r ymgeisydd ynghylch y trefniadau a natur y cyfweliad.

2. Dylai ymgeiswyr ar gyfer ymchwil uwchraddedig gael eu cyfweld gan y ddarpar adran academaidd yn rhan o’r broses ddethol. Os nad oes modd cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb, bydd yr adrannau’n ceisio trefnu cyfweliad dros Skype/Teams neu dros y ffôn yn lle hynny.

3. Gall ymgeiswyr sy’n teithio i Aberystwyth i fynychu cyfweliad hawlio cyfraniad tuag at eu costau teithio yn unol â’r meini prawf a’r cyfraddau cyfredol. Ceir manylion am y rhain, yn ogystal â’r ffurflen i hawlio’r lefel berthnasol o ad-daliad ar gyfer costau teithio i gyfweliad uwchraddedig, gan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion.