11.10 Gofynion Saesneg

1. Bydd angen i ymgeiswyr nad ydynt o’r DU ddangos tystiolaeth bod safon eu Saesneg yn ddigonol. Mae’n rhaid profi hynny cyn i’r ymgeisydd ddechrau’r cwrs. Mae manylion y safonau hyfedredd sy'n ofynnol ar gyfer cynlluniau astudio uwchraddedig ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/apply/english-language/

2. Cynhwysir amod gyda’r cynnig ffurfiol i ymgeiswyr nad ydynt wedi cyrraedd y safon ofynnol cyn cyflwyno’u cais. Bydd yr amod yn nodi’r gofynion angenrheidiol o ran y Saesneg y bydd angen eu cyflawni cyn dechrau cwrs astudio uwchraddedig. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y lefel o hyfedredd sy’n ofynnol yn cael eu derbyn.

3. Mae manylion am y cymwysterau a’r profion Saesneg a dderbynnir ar hyn o bryd ar gyfer astudiaethau uwchraddedig ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/apply/english-language/. Noder mai dim ond am uchafswm o ddwy flynedd y mae profion hyfedredd Saesneg, gan gynnwys IELTS a TOEFL, yn ddilys.

4. Rhaid i bob ymgeisydd o'r tu allan i'r DU ddangos eu bod yn gymwys i ddefnyddio'r Saesneg ac yn bodloni gofynion y Brifysgol fel uchod. Noder y gallai'r lefel ofynnol o hyfedredd Saesneg ar gyfer cynlluniau astudio penodol fod yn uwch na lleiafswm CEFR B2 (neu IELTS 5. 5) ym mhob elfen (siarad, ysgrifennu, gwrando a darllen) sydd ei hangen er mwyn sicrhau Fisa Myfyrwyr ar gyfer astudio ar lefel gradd (https://www.gov.uk/student-visa).

5. Nid oes angen i ymgeiswyr sydd wedi cael gradd (h.y. Baglor neu Radd Meistr) o Brifysgol yn y DU gymryd prawf hyfedredd Saesneg.

6. Mae ymgeiswyr o wledydd lle mae'r Saesneg yn cael ei chydnabod fel iaith swyddogol gan Swyddfa Gartref y DU wedi'u heithrio rhag darparu prawf o hyfedredd yn y Saesneg. Noder bod Canada yn eithriad i hyn gan yr ystyrir mai dim ond y mwyafrif sy’n siarad Saesneg ar gyfer gwladolion o Ganada. Ni fydd ymgeiswyr sydd â gradd o Ganada, ond nad ydynt yn Ganada, yn gallu defnyddio eu gradd fel tystiolaeth o'u gallu yn y Saesneg. Mae rhagor o fanylion am wledydd lle mae'r Saesneg yn iaith swyddogol fel y cydnabyddir gan y Swyddfa Gartref ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/apply/english-language/#is-english-your-official-language