Rheoliadau ar gyfer Graddau Sylfaen

Medi 2024

Mynediad

1. I fod yn gymwys i'w dderbyn neu i'w derbyn i astudio am un o Raddau Sylfaen y Brifysgol, rhaid i ymgeisydd fod wedi bodloni unrhyw amodau mynediad pellach a all fod yn ofynnol gan y Brifysgol a/neu'r athrofa mewn perthynas â'r cynllun dan sylw.

Strwythur y Cynlluniau

2. Caiff cynlluniau Graddau Sylfaen eu cynnig ar sail cyfnod astudio amser-llawn dwy flynedd neu dair blynedd (neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser).

3. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr amser-llawn ddilyn yr hyn sy'n cyfateb i 120 o gredydau o leiaf ym mhob blwyddyn academaidd.

Trosglwyddo Credydau

4. Er gwaethaf paragraffau 2 a 3 uchod, caiff y Brifysgol, o fewn y cyfyngiadau cyffredinol a ddangosir isod, farnu bod perfformiad myfyriwr neu fyfyrwraig yn naill ai'r astudiaethau blaenorol a ddilynwyd ac/neu mewn unrhyw ddysgu drwy brofiad blaenorol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Sylfaen. Rhaid i'r cyfryw astudio neu ddysgu drwy brofiad blaenorol fod yn berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn a rhoddir gwerth credydau iddo yn unol â disgresiwn yr athrofa sy'n derbyn. Bydd yr astudio blaenorol wedi ei gwblhau yn y Brifysgol, neu mewn prifysgol neu sefydliad arall y mae ei chynlluniau neu ei gynlluniau wedi eu cydnabod gan y Brifysgol at ddiben bodloni ei pholisi ar Gasglu a Throsglwyddo Credydau.

Ni fydd uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at un o Raddau Sylfaen y Brifysgol yn fwy na 120. Lle y bo uchafswm y credyd trosglwyddadwy a ganiateir wedi ei dderbyn, bydd gweddill y credydau sydd i'w dilyn drwy'r sefydliad derbyn ar Lefel 2 AU/ Lefel 5 FfCChC o leiaf fel rheol.

Asesu

5. Fel rheol caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu yn y cyfnod yn union ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r uned astudio.

6. Y marc pasio ar gyfer unedau asesu, modiwlau a dyfarniadau fydd 40%.

7. * Er mwyn caniatáu cywiro methiant a chyfnodau o dynnu'n ôl dros dro, y terfyn amser uchaf ar gyfer cwblhau'r dyfarniad fydd hyd y cynllun astudio ynghyd â dwy flynedd. e.e.

Dull astudio amser-llawn - cynllun dwy flynedd: dim mwy na phedair blynedd o ddechrau'r cynllun

Dull astudio rhan-amser - cynllun tair blynedd: dim mwy na phum mlynedd o ddechrau'r cynllun

Gall y Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai) roi estyniadau i'r terfynau amser hyn yn seiliedig ar amgylchiadau arbennig eithriadol os cyflwynir cais gan adran academaidd i'r Gofrestrfa Academaidd, gyda thystiolaeth o'r amgylchiadau arbennig ac achos cryf a rhesymegol, sy'n dangos y gellir disgwyl cwblhau’n rhesymol ymhen cyfnod pellach o 12 mis.

(* Diweddarwyd y geiriad terfyn amser ym Medi 2024 yn unol â rheoliadau Gradd Gychwynnol Modiwl)

Lle y bo trosglwyddo credydau wedi ei gymeradwyo, o dan baragraff 5 uchod, caiff y Brifysgol gyfrifo lleihad pro-rata i'r terfyn amser cyffredinol ar gyfer yr ymgeisydd unigol. Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y terfyn amser hwn ar y dechrau

Methu

8. Yn unol â disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Un (blwyddyn 1 fel rheol) hyd at dair* ymgais i adfer modiwl a fethwyd. Bydd myfyrwyr yn gymwys am y marc pasio lleiaf o 40% wrth ailsefyll yn Rhan Un. Caniateir dwy ymgais bellach i fyfyrwyr Rhan Dau ailsefyll modiwl a fethwyd. Dim ond y marc pasio lleiaf (h.y. 40%) y gellir ei ddyfarnu iddynt ym mhob modiwl o'r fath, waeth beth fo lefel wirioneddol eu perfformiad.

Dyfarnu

9. Gellir dyfarnu cymhwyster ymadael (Tystysgrif Addysg Uwch) i ymgeiswyr sydd wedi dilyn 120 o gredydau o leiaf ond sy'n canfod eu hunain yn methu, wedi hynny, â chwblhau'r cynllun (neu na chaniateir iddynt ei gwblhau).

10. I fod yn gymwys i'w ystyried neu i'w hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen, bydd ymgeisydd wedi:

  • dilyn cynllun astudio cymeradwyedig am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir gan Reoliad 4 uchod;
  • dilyn 240 o gredydau o leiaf, y bydd o leiaf 120 ohonynt ar Lefel 2 AU / Lefel 5 FfCChC, neu'n uwch;
  • bodloni unrhyw amod(au) pellach sy'n ofynnol gan y Brifysgol.

Rhaid i ymgeiswyr basio 200 o 240 o gredydau sy’n cyfrannu tuag at ddyfarnu y Radd Sylfaen. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd yn eu Blwyddyn Olaf.

11. Wrth bennu a ellir dyfarnu Gradd Sylfaen i ymgeisydd, bydd Byrddau Arholi yn dilyn y confensiynau a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Gall y confensiynau hyn gynnwys gweithdrefnau neu fecanweithiau er mwyn i'r Bwrdd Arholi ymarfer disgresiwn. Gall Bwrdd Arholi gymryd i ystyriaeth ddatblygiad academaidd yr ymgeisydd drwy gydol y cynllun astudio.

12. Dyfernir i ymgeiswyr am radd sylfaen sydd wedi bodloni gofynion y cynllun radd yn un o’r dosbarthiadau isod:

  •  Pasio
  • Teilyngdod
  • Rhagoriaeth