Rheoliadau ar gyfer FdSc Nyrsio Milfeddygol

YN BERTHNASOL I’R HOLL FYFYRWYR SY’N CYCHWYN RHAN UN EU GRADD O FIS MEDI 2024.

Mynediad

1. I fod yn gymwys i'w dderbyn neu i'w derbyn i astudio am un o Raddau Sylfaen y Brifysgol, rhaid i ymgeisydd fod wedi bodloni unrhyw amodau mynediad pellach a all fod yn ofynnol gan y Brifysgol a/neu'r gyfadran mewn perthynas â'r cynllun dan sylw.

Strwythur y Cynllun

2. Caiff FdSc Nyrsio Milfeddygol ei gynnig ar sail cyfnod astudio amser-llawn o dair blynedd (nid oes cyfatebiaeth rhan-amser).

3. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr amser-llawn FdSc Nyrsio Milfeddygol ddilyn yr hyn sy'n cyfateb i 120 o gredydau o leiaf ym mhob blwyddyn academaidd. Mae blwyddyn 2 a 3 o'r FdSc Nyrsio Milfeddygol yn cynnwys 60 credyd yr un ar Lefel 2 AU / Lefel 5 FfCChC o ganlyniad i’r flwyddyn integredig mewn lleoliad.

4. Rhaid i fyfyrwyr ar y cynllun FdSc Nyrsio Milfeddygol gwblhau lleoliad integredig (O leiaf 1800 awr mewn dim mwy na 52 wythnos, gydag o leiaf 36.5 ac uchafswm o 40 awr yr wythnos). Bydd y lleoliad yn dechrau yn semester 2 o flwyddyn 2 a bydd yn parhau tan ddiwedd semester 1 ym mlwyddyn 3.

Trosglwyddo Credydau

5. Er gwaethaf paragraffau 2 a 3 uchod, caiff y Brifysgol, o fewn y cyfyngiadau cyffredinol a ddangosir isod, farnu bod perfformiad myfyriwr neu fyfyrwraig yn naill ai'r astudiaethau blaenorol a ddilynwyd ac/neu mewn unrhyw ddysgu drwy brofiad blaenorol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Sylfaen. Rhaid i'r cyfryw astudio neu ddysgu drwy brofiad blaenorol fod yn berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn a rhoddir gwerth credydau iddo yn unol â disgresiwn y gyfadran sy'n derbyn. Bydd yr astudio blaenorol wedi ei gwblhau yn y Brifysgol, neu mewn prifysgol neu sefydliad arall y mae ei chynlluniau neu ei gynlluniau wedi eu cydnabod gan y Brifysgol at ddiben bodloni ei pholisi ar Gasglu a Throsglwyddo Credydau. Rhaid i unrhyw gredydau a drosglwyddir ddilyn gofynion trosglwyddo credydau’r Brifysgol a’u mapio i Gymwyseddau Diwrnod Un Coleg Brenhinol y Milfeddygon i sicrhau bod yr holl ofynion proffesiynol yn cael eu bodloni.

Ni fydd uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at un o Raddau Sylfaen y Brifysgol yn fwy na 120.  Lle y bo uchafswm y credyd trosglwyddadwy a ganiateir wedi ei dderbyn, bydd gweddill y credydau sydd i'w dilyn drwy'r sefydliad derbyn ar Lefel 2 AU/ Lefel 5 FfCChC o leiaf fel rheol. Yn achos FdSc Nyrsio Milfeddygol, rhaid mapio unrhyw gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol ar sail gofynion y Corff Rheoleiddio Statudol Proffesiynol (PSRB) a rhaid i fyfyrwyr newydd ddangos tystiolaeth eu bod wedi cwblhau asesiadau yn llwyddiannus wedi’u mapio ar sail Sgiliau Diwrnod Cyntaf Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) mewn unrhyw fodiwlau y maent am gael credydau ynddynt.

Asesu

6. Fel rheol caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu yn y cyfnod yn union ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r uned astudio.

7. Y marc pasio ar gyfer unedau asesu, modiwlau a dyfarniadau fydd 40%.

8. Bydd pob ymgeisydd am Radd FdSc Nyrsio Milfeddygol yn cwblhau pob modiwl o fewn y cyfnodau canlynol:

i. Dull amser-llawn: dim mwy na phum mlynedd o ddechrau'r cynllun tair blynedd

(Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol uchod mewn achosion eithriadol.)

Lle y bo trosglwyddo credydau wedi ei gymeradwyo, o dan baragraff 5 uchod, caiff y Brifysgol gyfrifo lleihad pro-rata i'r terfyn amser cyffredinol ar gyfer yr ymgeisydd unigol.  Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd am y terfyn amser hwn ar y dechrau.

Methu

9. Yn unol â disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Un (blwyddyn 1 fel rheol) hyd at dair ymgais i adfer modiwl a fethwyd. Bydd myfyrwyr yn gymwys am y marc pasio lleiaf o 40% wrth ailsefyll yn Rhan Un. Caniateir dwy ymgais bellach i fyfyrwyr Rhan Dau ailsefyll modiwl a fethwyd.  Dim ond y marc pasio lleiaf (h.y. 40%) y gellir ei ddyfarnu iddynt ym mhob modiwl o'r fath, waeth beth fo lefel wirioneddol eu perfformiad.

Dyfarnu

10. Gellir dyfarnu cymhwyster ymadael (Tystysgrif Addysg Uwch mewn Iechyd Anifeiliaid) i ymgeiswyr sydd wedi dilyn 120 o gredydau o leiaf ond sy'n canfod eu hunain yn methu, wedi hynny, â chwblhau'r cynllun (neu na chaniateir iddynt ei gwblhau). Rhaid i ymgeiswyr basio 100 allan o'r 120 credyd a astudiwyd ar Lefel 1 AU / Lefel 4 FfcChC, gyda chyfartaledd wedi’i bwysoli o 40% neu uwch.

11. Gall myfyrwyr nad ydynt yn gallu bodloni gofynion trwydded i ymarfer Coleg Brenhinol y Milfeddygon fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael amgen o FdSc Iechyd Anifeiliaid os ydynt yn bodloni'r gofynion canlynol:

Pob modiwl blwyddyn 1 a 2 (wedi pasio 180 o gredydau)

Wedi treulio o leiaf 2 wythnos mewn lleoliad gwaith sy'n berthnasol i'r diwydiant

Wedi pasio’r modiwl lleoliad diwydiannol sy’n darparu 20 credyd ychwanegol i roi’r isafswm o 200 o gredydau wedi’u pasio.

12. I fod yn gymwys i'w ystyried neu i'w hystyried am ddyfarniad Gradd Sylfaen, bydd ymgeisydd wedi:

i. dilyn cynllun astudio cymeradwyedig arm y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir gan Reoliad 4 uchod;
ii. dilyn 240 o gredydau o leiaf, y bydd o leiaf 120 ohonynt ar Lefel 2 AU / Lefel 5 FfCChC, neu’n uwch;
iii. bodloni unrhyw amod(au) pellach sy’n ofynnol gan y Brifysgol;
iv. rhaid i ymgeiswyr basio pob elfen o'r holl fodiwlau sy'n cynnwys cyfeiriad at Gymwyseddau Diwrnod Un Coleg Brenhinol y Milfeddygon a rhaid iddynt basio pob modiwl (240 credyd) sy'n cyfrannu at ddyfarnu'r Radd Sylfaen. Rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs FdSc Nyrsio Milfeddygol hefyd gwblhau'r gofynion lleoliad integredig yn y modiwl Nyrsio Milfeddygol Cymhwysol.

13. Wrth bennu a ellir dyfarnu Gradd Sylfaen i ymgeisydd, bydd Byrddau Arholi yn dilyn y confensiynau a gymeradwywyd gan y Brifysgol. Gall y confensiynau hyn gynnwys gweithdrefnau neu fecanweithiau er mwyn i'r Bwrdd Arholi ymarfer disgresiwn. Gall Bwrdd Arholi gymryd i ystyriaeth ddatblygiad academaidd yr ymgeisydd drwy gydol y cynllun astudio.

14. Dyfernir i ymgeiswyr am radd sylfaen sydd wedi bodloni gofynion y cynllun radd yn un o’r dosbarthiadau isod:

  • Pasio
  • Teilyngdod
  • Rhagoriaeth