9. Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth o Bwys wrth Wneud Cais neu ar ôl Cofrestru

9.1 Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth Academaidd

9.1.1 Caiff pob cais ei ystyried gan y Brifysgol ar sail y wybodaeth a gyflwynir gan yr ymgeisydd. Gellir gweld llawlyfr UCAS https://www.ucas.com/.

9.1.2 Dylai pob myfyriwr israddedig newydd allu profiei fod wedi cyflawni'r amodau academaidd angenrheidiol i gael mynediad ac mae’r pecyn cynnig yn dweud hyn wrth ymgeiswyr israddedig yn yr adran ynglŷn â chadarnhau cymwysterau. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw'r hawl i derfynu cofrestriad myfyrwyr sy'n methu â phrofi bod ganddynt y cymwysterau addas i’w derbyn er eu bod eisoes wedi eu cofrestru’n fyfyrwyr.

9.1.3 Mae myfyrwyr uwchraddedig yn ddarostyngedig i ofynion matriciwleiddio Prifysgol Aberystwyth ac os nad ydynt yn raddedigion Prifysgol Aberystwyth mae’n rhaid iddynt roi tystiolaeth o’u cymwysterau i Brifysgol Aberystwyth.

9.1.4 Ar ôl cofrestru, os yw myfyrwyr yn methu â darparu tystiolaeth o'r cymwysterau academaidd neu o'r cefndir academaidd a honnwyd ganddynt er mwyn cael mynediad, bydd Cyfarwyddwr yr Cyfadran berthnasol yn ystyried eu hachos.

9.1.5 Gwahoddir y myfyrwyr hyn i gyfweliad â Chyfarwyddwr yr Athrofa naill ai ar eu pen eu hun neu yng nghwmni cyd-fyfyriwr o'r Brifysgol, cynrychiolydd o Urdd y Myfyrwyr neu aelod o'u teulu.

9.1.6 Gall y Cyfarwyddwr bennu'r cosbau hyn:

(i) gosod amodau arbennig ar y myfyriwr os yw am barhau yn y Brifysgol;

(ii) atal y myfyriwr o'r Brifysgol dros-dro neu’n barhaol.

9.1.7 Bydd gan y myfyrwyr hawl i apelio i'r Pwyllgor Cynnydd Academaidd o dan delerau'r Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd. O apelio bydd rhaid i'r myfyrwyr egluro'r rhesymau am beidio â chyflwyno'r dystiolaeth newydd ynghynt.

9.2 Hepgor neu Gamliwio Amgylchiadau Meddygol

Nid yw problemau meddygol neu broblemau eraill yn dileu cyfrifoldeb y myfyriwr dros ei addysg na'i gyfrifoldeb at aelodau eraill o'r gymuned academaidd. Yn unol â ‘Hepgor neu Gamliwio Gwybodaeth o Bwys wrth Wneud Cais neu ar ôl Cofrestru’ mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatgan unrhyw salwch neu glefyd sy'n debygol o amharu ar eu hiechyd neu eu hastudiaethau neu iechyd neu astudiaethau myfyrwyr eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y Brifysgol mewn sefyllfa i gyflawni’r dylestwydd gofal sydd ganddi i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant ei holl fyfyrwyr a galluogi i addasiadau rhesymol gael eu gwneud i gynorthwyo myfyrwyr yn eu hastudiaethau yn unol â Deddfwriaeth Cydraddoldeb.

9.3 Addasrwydd i Fynychu/Dychwelyd

Os, o ganlyniad i afiechyd neu anabledd, bydd ymddygiad myfyriwr yn effeithio’n andwyol ar ei iechyd, ei ddiogelwch, ei lesiant neu gynnydd academaidd ei hun neu bobl eraill ac yn gofyn am reolaeth gadarnhaol yn hytrach na chamau disgyblaethol bydd y Brifysgol yn gweithredu ei Pholisïau Addasrwydd i Fynychu/Dychwelyd. Diben y Polisïau Addasrwydd i Fynychu/Dychwelyd yw rhoi fframwaith effeithiol i warchod  uniondeb dysgu, cyrhaeddiad academaidd a phrofiad myfyriwr ac i sicrhau bod cefnogaeth effeithiol ac addas ar gael i’r sawl sy’n wynebu argyfwng iechyd gan gynnwys problemau iechyd meddwl. Am ragor o wybodaeth am y Polisi, cysyllter â’r Adran Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd: https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/

 

Diweddarwyd: Medi 2023