1.Cyflwyniad

1.1 Bydd Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol mewn grym bob amser, boed yn ystod y tymor neu yn ystod y gwyliau.

Yn rhan o’u cyfrifoldeb am weinyddiaeth y Brifysgol, mae’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (neu’r sawl a ddirprwyir) yn gyfrifol am holl eiddo’r Brifysgol, gan gynnwys Adeilad Undeb y Myfyrwyr ac am gynnal a chadw trefn dda. Mae ganddynt yr awdurdod:

  • i fynnu nad yw pobl yn ymgynnull ar eiddo a thiroedd y Brifysgol;

  • i fynnu bod pobl yn gadael eiddo a thiroedd y Brifysgol;

  • i wrthod caniatâd i gynnal cyfarfodydd;

  • i fynnu bod cyfarfodydd yn cael eu terfynu.

 

Ni weithredir yr awdurdod hwn oni bai bod pob ymgais resymol wedi ei gwneud i ymgynghori ag Adnoddau Dynol, Ystadau, Adnoddau a Llety ac Undeb y Myfyrwyr, a dim ond yn un o’r sefyllfaoedd canlynol y caiff ei ystyried;

  1. Y tramgwyddwyd yn erbyn Rheolau, Rheoliad neu Bolisïau’r Brifysgol;
  2. Bod diogelwch a lles y siaradwr, y rhai sy’n bresennol neu rai sydd gerllaw dan fygythiad;
  3. Y bu argyfwng amgylcheddol neu argyfwng isadeiledd, e.e. tywydd garw neu fethiant yn y gwasanaethau.

Gallant ddirprwyo’r awdurdod yn llwyr neu’n rhannol i gyflogeion eraill y Brifysgol, yn enwedig y tu hwnt i oriau gwaith arferol neu yn eu habsenoldeb. Mewn achosion o’r fath, fel o’r blaen, rhaid i unrhyw benderfyniad i fynnu nad yw pobl yn ymgynnull ddod o fewn i un o’r tri maen prawf uchod, ac unwaith eto rhaid gwneud pob ymgais resymol i ymgynghori ag Adnoddau Dynol, Ystadau, Adnoddau a Llety ac Undeb y Myfyrwyr a chael tystiolaeth fod hyn wedi’i wneud.

1.2 Bydd gan bob aelod o’r staff ran i’w chwarae i gynorthwyo wrth gynnal disgyblaeth myfyrwyr ac fel rheol ymdrinnir â’r rhan fwyaf o achosion o gamymddwyn llai difrifol yn anffurfiol yn y lle cyntaf gan aelod unigol o’r staff, trwy roi cyngor ynglŷn â’r ffordd i ymddwyn yn briodol.