6.1 Cyflwyniad

1. Mae gan y Brifysgol Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a reolir gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Prif ddyletswydd yr Adran yw:

(i) Rheoli’r cymorth ar gyfer dysgu ac achub y blaen ar anghenion lles, gan gynnwys ‘siop-un-stop’ yn y Ganolfan Groesawu Myfyrwyr;
(ii) Rheoli’r Gwasanaeth Lles Myfyrwyr; y Gwasanaeth Hygyrchedd a’r Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian;
(iii) Rheoli Cronfa Galedi’r Brifysgol;
(iv) Cyfrannu at enw da’r Brifysgol am ragoriaeth o ran bodlonrwydd myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr;
(v) Sicrhau bod gwybodaeth ar faterion cymorth yn cael ei dosbarthu’n effeithiol;
(vi) Ymgynghori ag asiantaethau lleol a’r sawl sy’n darparu gofal iechyd.

2. Mae’r Cyfadrannau/Adrannau yn darparu cymorth yn ogystal â gofal academaidd i’w myfyrwyr. Gall pob myfyriwr droi at Diwtor Personol sydd ar gael i ymgynghori ag ef/hi ar faterion personol ac sy’n gallu cyfeirio’r myfyrwyr at asiantaeth briodol os oes angen; y nod yw darparu cymorth priodol i’r myfyriwr ac i’w d(d)ull ef/hi o astudio. Mae gan bob adran academaidd ac adran wasanaeth yn y Brifysgol ei Chydlynydd Anableddau Adrannol ei hun. Dyma’r bobl y dylai staff a myfyrwyr sydd am ymholi ynghylch gweithdrefnau’r polisi neu ddarpariaeth droi atynt yn y lle cyntaf. Mae Cydlynwyr Anableddau’r Adrannau yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y diweddaraf am arfer da, newidiadau yn y ddeddfwriaeth a chynnydd cyffredinol tuag at gymuned gynhwysol go-iawn. Y Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol a Chymorth i Fyfyrwyr sy’n gyfrifol ar y cyd am y Grŵp Cydlynwyr Anableddau Adrannol. Mae cynorthwywyr cyntaf iechyd meddwl hefyd wedi’u lleoli yn yr Athrofeydd/Adrannau

3. Mae’r Neuaddau Preswyl yn ganolbwynt i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth. Sicrheir lle yn llety’r Brifysgol i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf. Mae’r ddau brif fath o neuadd – sef y traddodiadol a’r hunanarlwyo – yn cwrdd â gofynion cymdeithasol gwahanol. Wrth ddosrannu’r lleoedd, ystyrir amgylchiadau arbennig. Mae Cynorthwywyr Preswyl yn darparu cymorth dan oruchwyliaeth Gwasanaethau’r Campws.

4. Mae gwasanaeth lles Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio â ac yn ychwanegu at wasanaeth lles y Brifysgol. Gwasanaeth gwybodaeth cyfrinachol yw Nawdd Nos sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr.

5. Gwasanaeth Hygyrchedd y Brifysgol yw canolbwynt y cyfeiriadau at yr isadeiledd a gall drefnu cymorth a chyfarwyddyd ynghylch addasiadau rhesymol i fyfyrwyr unigol. Bydd hefyd yn cynghori aelodau o’r staff wrth iddynt drafod addasiadau o’r fath gyda myfyrwyr.

6. Mae’r Brifysgol yn darparu ystod o addasiadau rhesymol i fyfyrwyr anabl ac i’r rhai sydd â gwahaniaethau dysgu penodol.

7. Lleolir y Ganolfan Cymorth Dysgu yn y Ganolfan Saesneg Ryngwladol, ac mae’n cynnig ystod o gyrsiau a gwasanaethau i wella profiad astudio’r myfyrwyr.

8. Mae’r Gwasanaeth Hygyrchedd o fewn y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr o gefndir ehangu mynediad ac yn darparu dau brif faes cymorth:

(a) Y Cynllun Ffordd Hyn: mae mentoriaid o blith y myfyrwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant yn gweithio gydag israddedigion newydd yn eu blwyddyn gyntaf er mwyn eu galluogi i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysg uwch.

(b) Mentora, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth i’r myfyrwyr hynny sy’n dod i addysg uwch o gefndir gadael gofal.

9. Mae’r Swyddfa Llety yn cydweithio â neuaddau’r Brifysgol ac yn cadw cofrestr o gyfeiriadau preifat lleol sy’n cael ei diweddaru’n gyson. Mae’r staff yn rhoi gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr yn rheolaidd.

Iechyd a Lles

10. Nod y Gwasanaeth Lles https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/wellbeing/ yw sicrhau bod profiad Aberystwyth yn brofiad lle mae iechyd a lles yn hanfodol i fywyd bob dydd y brifysgol. Mae’r ffocws ar gynorthwyo myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb ac i fod yn annibynnol. Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda myfyrwyr i feithrin cydnerthedd ac i ddatblygu pecyn cymorth o sgiliau fydd yn galluogi’r myfyrwyr i reoli problemau y gallent eu hwynebu yn y Brifysgol ac wedi hynny. Nid yw’r Gwasanaeth Lles yn dyblygu nac yn newid darpariaeth statudol ond mae’n hwyluso llwybrau cymorth sy’n galluogi myfyrwyr i gael mynediad at wasanaethau statudol a chymunedol addas lle bo angen. Gall y Gwasanaeth hefyd ddarparu cyngor a chymorth i staff sy’n ymwneud â myfyrwyr sy’n wynebu anawsterau lles ac mae’n gweithredu’r gweithdrefnau Ffitrwydd i Fynychu  yn y Brifysgol.

Hygyrchedd

11. Nod y Brifysgol yw cynnig profiad o’r safon uchaf i bob myfyriwr, ac i sicrhau bod cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad.

12. I fyfyrwyr anabl, y sawl sy’n dioddef cyflwr iechyd tymor hir neu wahaniaeth dysgu penodol, gall ystod o addasiadau/cymorth gael ei rhoi ar waith e.e. addasu’r llety, galluogi technoleg a threfniadau arbennig ar gyfer arholiadau.

13. Mae’r Gwasanaeth yn darparu cyngor a gwybodaeth i ymgeiswyr a myfyrwyr (yn cynnwys gadawyr gofal, myfyrwyr trawsryweddol, myfyrwyr anabl a’r rheiny â gwahaniaethau dysgu) am y ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer anghenion penodol yn y Brifysgol; yn cynorthwyo myfyrwyr anabl i wneud y gorau o’r Diwrnodau Agored neu’r Diwrnodau Ymweld; yn darparu cyngor a chefnogaeth am y Lwfans Myfyrwyr Anabl ac yn rhagweithiol wrth annog ymgeiswyr i’n hysbysu am eu hanghenion yn gynnar yn ystod y drefn ymgeisio er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael pan fyddant yn cyrraedd.

14. Ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl, mae’r Brifysgol yn darparu arian o’i chyllideb ei hun i sicrhau na fydd myfyrwyr ag anghenion penodol dan anfantais. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i ddarparu Canolfan Asesu Anghenion Astudio.

15. Mae gan y Gwasanaethau Hygyrchedd ddau gynllun mentora: y naill yn gynllun mentora arbenigol ar gyfer myfyrwyr anabl a’r llall yn gynllun sy’n anelu gan fwyaf at gefnogi pontio yn y flwyddyn gyntaf.

16. Mae cymorth i adawyr gofal hefyd yn perthyn i’r Gwasanaethau Hygyrchedd ac mae gan unigolyn penodol gyfrifoldeb dros gysylltu â’r myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd a’u cefnogi yn ystod eu hastudiaethau. Bydd pob gadawr gofal yn cael mentor o blith y myfyrwyr mwy profiadol, fydd hefyd yn cynorthwyo’r mentor i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cefnogi rhwydwaith o Gydlynwyr Anableddau Adrannol.

Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian

17. Mae’r Gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac yn gallu cyfeirio ar ystod eang o faterion. Er enghraifft, cynnig clust i wrando ar unrhyw ofid neu bryder a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau arbenigol yn y Brifysgol neu fannau eraill; darparu cyngor ar reoli arian a gwirio’r hawl i gyllid myfyrwyr; darparu gwybodaeth i fyfyrwyr (ond nid cynrychiolaeth) am reolau a rheoliadau’r Brifysgol yn cynnwys rheoliadau academaidd neu aflonyddu; cynghori ar dynnu’n ôl neu newid cwrs. Mae’r gwasanaeth yn gweinyddu Cronfa Galedi’r Brifysgol yn ogystal.

Diogelu

18. Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yw’r Swyddog Adrodd Dynodedig ar gyfer yr holl faterion diogelu ac mae’n chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio o ran ei Dyletswydd Atal. Mae hyn yn cynnwys materion diogelu fel rhan o Ddyletswydd Atal y Brifysgol.