Gadewch i ni gydweithio!
Ydych chi'n ceisio:
- Hysbysebu swydd wag, lleoliad gwaith, digwyddiad neu gyfle tebyg i'n myfyrwyr a'n graddedigion, naill ai'n benodol i bwnc neu’n agored i bawb? Gyda llaw, dyma ganllaw defnyddiol i gofrestru gyda'n porth gyrfaoedd ar-lein, gyrfaoeddABER (a gynhelir gan TARGETconnect).
- Cefnogi dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith yn yr ystafell ddarlithio, er enghraifft, trwy helpu i gyflwyno neu asesu gweithgareddau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd sector go iawn?
- Cymryd rhan yn ein rhaglen o ddigwyddiadau cyflogwyr, a all gynnwys ffeiriau gyrfaoedd, stondinau gwybodaeth, paneli holi ac atebion, a chyflwyniadau?
- Datblygu cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith i'n myfyrwyr a/neu raddedigion, megis profiad gwaith yn y fan a'r lle neu rithwir, yn amrywio o leoliadau 12 mis i ragolwg cyffredinol byr ar y diwydiant? Gall y rhain fod yn ddi-gredyd / allgyrsiol, er enghraifft ein cynllun ABERymlaen* neu trwy ein prosiect GO Wales*, neu'n rhoi credydau ac yn rhan o gyrsiau neu fodiwlau gradd penodol, megis y flwyddyn integredig mewn Diwydiant, neu'r modiwl Sgiliau Cyflogadwyedd i Weithwyr Proffesiynol a gynigir i fyfyrwyr yr Ysgol Fusnes.
- Cyfrannu at weithdai neu fodiwlau sy'n mynd i'r afael yn benodol â sgiliau a materion cyflogadwyedd a rheoli gyrfa?
- Dod yn e-Fentor a chefnogi myfyrwyr unigol 1:1?
- Dysgu mwy am ein hadrannau academaidd, y pynciau a phoblogaeth y myfyrwyr?
*gallai cyllid rhannol neu lawn fod ar gael i dalu costau cyflog
Rydym yn dîm bach sy’n gallu manteisio ar rwydwaith mawr o Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ac adrannau academaidd. Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o gyflogwyr a sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, o fasnachwyr unigol i gorfforaethau mawr, ac wrth gwrs ein cyn-fyfyrwyr gwych, i gynorthwyo ein myfyrwyr i gynllunio a pharatoi am eu gyrfaoedd i raddedigion.
Os hoffech weld sut y gallem gydweithio, cysylltwch â ni ar unrhyw adeg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
E-bost gyrfaoedd@aber.ac.uk
Cyflwyno ymholiad ar-lein
Dewch o hyd i ni ar LinkedIn
Jacqui Ho, Swyddog Cyswllt â Chyflogwyr (rhan-amser)