3.2 Polisi a Gweithdrefnau Asesu

Cyflwyniad

1. Dylid darllen yr adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar y cyd ag Adran 3.3 Cyflwyno Gwaith Cwrs. Mae’n ymdrin ag egwyddorion asesu ac adborth Prifysgol Aberystwyth, ac yn nodi’r safonau gofynnol ar gyfer dychwelyd asesiadau, a’r safonau gofynnol ar gyfer rhoi adborth ar asesiadau’r myfyrwyr. Mae hefyd yn amlinellu confensiynau asesu’r Brifysgol a’r polisi dwyieithrwydd ar gyfer asesiadau.

Dulliau asesu

2. Rhestrir isod egwyddorion asesu sylfaenol Prifysgol Aberystwyth:

(i) Dilysrwydd: Dylai’r cyfadrannau sicrhau bod eu hasesiadau’n ddilys. Dylai’r asesiadau a’r dulliau asesu gyd-fynd â deilliannau dysgu’r modiwl dan sylw

(ii) Dibynadwyedd: Dylai’r cyfadrannau sicrhau bod eu dulliau asesu’n ddibynadwy. Dylid gwneud hynny drwy ddarparu canllawiau marcio clir i’r staff a hyfforddiant priodol er mwyn i’r staff gael ymgyfarwyddo ag arferion y gyfadran/adran

(iii) Marcio’n unol â meini prawf: Caiff pob gwaith, gan gynnwys arholiadau, ei farcio’n unol â meini prawf sydd wedi’u hamlinellu’n glir i’r myfyrwyr ar ddechrau’r modiwl

(iv) Adborth a dysgu’r myfyrwyr: Dylai pob adborth gadw’r ddysgl yn wastad rhwng cryfderau a gwendidau’r gwaith a gyflwynwyd er mwyn gallu ‘bwydo ymlaen’.

3. Mae’n ofynnol i gyfadrannau Prifysgol Aberystwyth egluro deilliannau dysgu pob modiwl cyfansoddol yn eu cynlluniau drwy gwrs. Cyhoeddir y rhain ar Gronfa Ddata’r Cynlluniau Astudio http://www.aber.ac.uk/cy/programme-specs/index.html a’r gronfa ddata modiwlau http://www.aber.ac.uk/cy/modules a hefyd yn llawlyfrau’r myfyrwyr. Mae gofyn i’r cyfadrannau hefyd sicrhau bod manylion dulliau asesu pob modiwl wedi’u cynnwys yn y Gronfa Ddata Modiwlau.

4. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau lunio portffolio o ddulliau asesu. Dylai’r rhain roi ystyriaeth lawn i anghenion sgiliau astudio fel y’u cydnabyddir gan y Brifysgol, a phrofi gwahanol fathau o ddysgu gan y myfyrwyr.

5. Defnyddir amrywiaeth eang o wahanol ddulliau asesu ledled y Brifysgol. Ni fyddai’n ymarferol rhoi canllawiau ynghylch hyd a/neu nifer yr asesiadau o ystyried yr amrywiadau a’r angen i ddisgyblaethau lunio’r strategaethau asesu sy’n cyd-fynd orau â’u hanghenion hwy eu hunain. Mae’n rhaid i’r cyfadrannau, fodd bynnag, sicrhau cysondeb yn y ffyrdd y mae dulliau asesu penodol yn cael eu defnyddio o fewn cynlluniau a rhaid sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu gor-asesu. Os oes gan gyfadran gryn nifer o fyfyrwyr sy’n astudio modiwlau neu gynlluniau ar y cyd â chyfadrannau eraill, yna dylent gofio bod angen cysondeb yn yr holl asesiadau a wneir gan y myfyrwyr. Wrth adolygu llwyth y gwaith i’w asesu, argymhellir bod cyfadrannau yn ystyried:

(i) Y ganran y mae’r asesiad yn ei gyfrannu at y modiwl; efallai na fydd myfyrwyr yn gwneud ymdrech fawr mewn asesiadau sydd ddim ond yn cyfrif am ganran fechan, ac yn wir gallent ddewis peidio â’u gwneud; yn ogystal, mae llawer o aseiniadau bychain yn rhoi mwy o faich ar fyfyrwyr ac ar y marcwyr nag ambell un mwy sylweddol

(ii) Maint y modiwl; er enghraifft, nid oes raid i’r llwyth asesu sy’n gysylltiedig â modiwl 30 credyd o reidrwydd fod yn 50% yn fwy na’r llwyth asesu mewn modiwl 20 credyd

(iii) Lefel y modiwl; bydd modiwlau ar Lefel 5 neu 6 yn debygol o olygu mwyfwy o ymdrech ac astudio annibynnol na’r rheiny ar Lefel 4

(iv) Yr oriau astudio sydd eu hangen i gwblhau asesiad

(v) Mae hyn yn debygol o gynyddu mewn asesiadau lle mae angen mwy o ddarllen cefndir, paratoi, ac astudio annibynnol

(vi) Ystod y deilliannau dysgu sy’n cael eu hasesu; dylai asesiad sy’n ymdrin ag un deilliant dysgu yn unig olygu llai o ymdrech nag un sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf ohonynt

(vii) Natur y dull asesu.

6. Wrth greu modiwlau newydd, neu wrth ddiwygio modiwlau sydd eisoes yn bodoli, dylai cyfadrannau adolygu sut y mae gwahanol ddulliau asesu’n cymharu â’r terfynau awgrymedig isod. Mae’r rhain yn rhoi syniad o faint o asesiadau a mathau’r asesiadau sy’n dderbyniol, ond ni fwriedir i’r rhestr fod yn gynhwysfawr, nac yn orfodol. Os yw cynigwyr modiwlau am gyflwyno dulliau asesu amgen, neu newid faint o asesu a geir, yna bydd yn rhaid iddynt ddangos yn foddhaol fod cyfanswm y gwaith dan sylw yn cyfateb i’r safonau a nodir isod, a’i fod yn profi deilliannau dysgu’r modiwl yn briodol.

(i) Mae’n ofyniad gan y Brifysgol na ddylai modiwl Israddedig 20-credyd gynnwys mwy na 2 asesiad crynodol (pro rata fesul pwysoliad 10 credyd). Os oes gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol neu Reoliadol sy’n wahanol i’r gofyniad hwn, dylid ymgynghori â’r Deon Cyswllt dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyrwyr.

(ii) Roedd dulliau asesu addas, a faint o asesu a geir, ar gyfer modiwlau 20 credyd Rhan Un (Lefel 4) yn cynnwys y rhai isod:

    • gwaith cwrs sy’n gyfanswm o 3,000 o eiriau
    • traethawd 1,500 o eiriau a chyflwyniad seminar neu weithdy 15-20 munud
    • ffolder o ddarnau ysgrifenedig byr sy’n gyfanswm o 1,500 o eiriau a gwaith ymarferol sy’n cyfateb i 1,500 o eiriau
    • traethawd 1,500 o eiriau, ac arholiad (wedi’i weld ymlaen llaw neu beidio) 1½ neu 2 awr (sylwer mai arholiadau 1.5 awr, 2 awr a 3 awr yn unig y mae’r Brifysgol yn eu caniatáu)
    • dim mwy na dau asesiad o’r tri hyn: dau ymarfer labordy gydag adroddiad(au) ategol byr sy’n gyfanswm o 1,500 o eiriau ac arholiad 1.5 i 2 awr
    • perfformiadau solo ac ensemble sy’n gyfanswm o 20 i 45 munud
    • ffolder o waith cwrs yn ogystal â chyfansoddiad gwreiddiol
    • cyflwyniad seminar 15-20 munud a phortffolio o ddarluniau/cynlluniau
    • casgliad o waith stiwdio

(iii) Roedd dulliau asesu addas, a faint o asesu a geir, ar gyfer modiwlau 20 credyd Rhan Dau (Lefelau 5 a 6) yn cynnwys y rhai canlynol:

    • gwaith cwrs sy’n gyfanswm o 4,000 o eiriau
    • traethawd 2,000 o eiriau a chyflwyniad seminar neu weithdy 20-30 munud
    • ffolder o ddarnau ysgrifenedig byr sy’n gyfanswm o 2,000 o eiriau a gwaith ymarferol sy’n cyfateb i 2,000 o eiriau
    • traethawd 2,000 o eiriau ac arholiad (wedi’i weld ymlaen llaw neu beidio), 2 neu 3 awr (sylwer mai arholiadau 1.5 awr, 2 awr a 3 awr yn unig y mae’r Brifysgol yn eu caniatáu)
    • dim mwy na dau asesiad o’r tri hyn: (dau) ymarfer labordy gydag adroddiad(au) ategol sy’n gyfanswm o 2,000 o eiriau ac arholiad 2 i 3 awr
    • perfformiadau solo ac ensemble sy’n gyfanswm o 20 i 45 munud
    • ffolder o waith cwrs yn ogystal â chyfansoddiad gwreiddiol
    • cyflwyniad seminar 20-30 munud a phortffolio o ddarluniau a chynlluniau
    • casgliad o waith stiwdio.

(iv) Mae dulliau asesu addas, a faint o asesu a geir, ar gyfer modiwlau traethawd hir/astudio annibynnol/prosiect 40 credyd Rhan Dau (Lefelau 5 a 6) yn cynnwys un o’r canlynol:

    • traethawd hir neu brosiect neu astudiaeth annibynnol rhwng 10,000 a 12,000 o eiriau neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny
    • cyflwyniad neu arholiad llafar 20 munud a thraethawd hir neu brosiect neu astudiaeth annibynnol rhwng 8,000 a 10,000 o eiriau neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny
    • cynnig ymchwil 2,000 o eiriau a thraethawd hir rhwng 8,000 a 10,000 o eiriau neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny.

7. Ac eithrio lle pennir yn wahanol, ni ddylai traethawd hir neu gyflwyniad cyfatebol a gymeradwyir ar gyfer cwrs Meistr Uwchraddedig drwy Gwrs fod yn hwy na 15,000 o eiriau.

8. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau, ar y cyd â’u Harholwyr Allanol, bennu safonau marcio sy’n briodol i’w disgyblaeth ar lefel y pwnc.

9. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau bennu ac egluro’n glir i’r staff a’r myfyrwyr feini prawf asesu sy’n adlewyrchu nodau ac amcanion cynlluniau astudio unigol a deilliannau dysgu’r modiwlau. Mae’n ofynnol hefyd i’r cyfadrannau egluro’n glir y safonau y mae’n rhaid eu bodloni i ennill graddau penodol ym mhob asesiad. Bydd y meini prawf asesu’n amrywio yn ôl y wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu hasesu a gofynion yr asesiad.

10. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau sicrhau bod ganddynt weithdrefnau i sicrhau, ar bob lefel ac ym mhob modiwl, fod y myfyrwyr a’r marcwyr yn cael eu gwarchod rhag honiadau o duedd neu ragfarn ar y naill ochr neu’r llall. Bydd y gweithdrefnau hyn yn cynnwys, o leiaf, samplu gan ail farciwr mewnol neu bennu isafswm o ran canran y gwaith i’w asesu, gyda phwyslais arbennig ar farciau methu neu farciau ffiniol. Yn aml, bydd y cyfadrannau yn marcio pob elfen asesu arwyddocaol ddwywaith. Yn achos modiwlau sy’n cyfrannu at y radd derfynol, bydd yr Arholwyr Allanol yn darparu lefel ychwanegol o fonitro safonau marcio.

11. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau adolygu’r meini prawf asesu a’r safonau marcio’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â’u nodau a’u hamcanion, y deilliannau dysgu a gofynion allanol.

12. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau sefydlu gweithdrefnau i sicrhau y cydymffurfir â pholisi Cydraddoldeb y Brifysgol ym mhob asesiad.

13. Mae’n ofynnol i’r cyfadrannau sicrhau bod y gweithdrefnau a’r safonau asesu’n cael eu cyflwyno i staff newydd.

Adborth a dychwelyd asesiadau

14. Dylai fod trefniadau ar waith yn y cyfadrannau i sicrhau bod asesiadau’n cael eu dychwelyd yn brydlon. Mae’n ofynnol gan y Brifysgol fod adborth yn cael ei roi ar aseiniadau gwaith cwrs ymhen 15 diwrnod gwaith o ddyddiad cyflwyno’r gwaith (cyfrifir 15 diwrnod gwaith fel dydd Llun i ddydd Gwener pan fydd y Brifysgol ar agor).

15. Disgwylir i staff dderbyn, marcio ac anfon adborth trwy’r Bwrdd Du (trwy Turnitin neu Aseiniad Bwrdd Du). Mewn rhai achosion ni fydd modd defnyddio Turnitin:

(i) Asesiadau cyfrwng Cymraeg, o ganlyniad i ddiffyg rhyngwyneb Turnitin trwy gyfrwng y Gymraeg

(ii) Asesiadau annhestunol, megis perfformiadau, gwaith ymarferol neu waith celf. Y cyngor a’r arfer gorau ar gyfer achosion fel hyn yw rhoi adborth a marc yn electronig

(iii) Asesiadau nad yw Turnitin yn addas ar eu cyfer, er enghraifft cyflwyniadau mawr neu gyflwyniadau aml-ran. 

16. Er y gall Turntin ryddhau adborth i’r myfyrwyr ar ddyddiad penodedig, nid yw’n rhoi gwybod i farcwyr pan fo’r dyddiad cau ar gyfer rhoi adborth ar ddod. Bydd gan y cyfadrannau drefniadau i sicrhau bod marcwyr yn cael gwybod am y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd marciau. Dylai’r cyfadrannau sicrhau, o leiaf, fod y trefniadau isod ar waith:

(i) Bod gan y myfyrwyr a’r staff restr glir wedi’i chyhoeddi o ddyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith ym mhob modiwl

(ii) Bod gan y myfyrwyr a’r staff restr glir wedi’i chyhoeddi o’r dyddiadau pan ddisgwylir y bydd adborth wedi’i roi ar gyfer pob elfen asesu ym mhob modiwl

(iii) Bod pob aelod o’r staff sy’n marcio gwaith cwrs yn rhoi gwybod i’w Rheolwr Llinell mewn da bryd os na allant gadw at y terfyn 15 diwrnod ac yn trafod camau amgen ar gyfer dychwelyd gwaith fel y bo’n briodol

(iv) Os bydd oedi eithriadol ac amhosib ei osgoi o ran dychwelyd gwaith cwrs wedi’i farcio, bydd trefniadau ar waith i sicrhau y cyfathrebir yn rheolaidd â’r myfyrwyr dan sylw. Yn yr un modd, dylai fod trefniadau wedi’u cyhoeddi er mwyn i’r myfyrwyr allu rhoi gwybod i’r cyfadrannau/adrannau am faterion yn ymwneud â dychwelyd yr adborth neu ansawdd yr adborth.

Adborth ar asesiadau

17. Mae’r Brifysgol yn arfer yr Egwyddorion Adborth Effeithiol isod o ran gwaith y myfyrwyr:

(i) Dylai’r adborth fod yn dryloyw, er mwyn i’r myfyrwyr allu ei ddeall a’i gysylltu â’r meini prawf asesu

(ii) Dylai’r adborth helpu’r myfyrwyr i weld beth yw eu cryfderau a ble y mae angen iddynt wella

(iii) Dylai’r adborth fod yn gymesur ac yn briodol i’r math o asesiad, yr amseru a maint y dosbarth

(iv) Dylai fod gan y myfyrwyr wybodaeth glir a hygyrch am y mathau o asesiadau a natur ac amseriad yr adborth a gânt ar gyfer pob math o asesiad

(v) Mae gan y myfyrwyr hawl i ofyn am eglurhad ar y marciau, i’w helpu i ddeall yr hyn a wnaethant yn dda a’r hyn na wnaethant cystal, a sut y gallant wella.

18. Er mwyn i’r myfyrwyr ddeall ac elwa’n llawn ar yr adborth, dylai’r sylwadau a roddir ar y gwaith cwrs nodi sut mae’r myfyrwyr wedi’i wneud yn unol â’r meini prawf marcio. Dylai’r holl ddogfennaeth fod yn briodol glir a manwl er mwyn i’r myfyrwyr, ond hefyd cyd-farcwyr/ail farcwyr, safonwyr ac arholwyr allanol, allu gweld yn glir pam y rhoddwyd y marc. Dylai’r adborth gynnwys, o leiaf:

(i) Y cryfderau a nodwyd gan y marciwr yn unol â’r meini prawf

(ii) Y gwendidau a nodwyd gan y marciwr yn unol â’r meini prawf

(iii) Datganiad clir ar wahân yn nodi sut y gall y myfyriwr wneud yn well mewn asesiadau yn y dyfodol

(iv) Ffurf ar eiriau sy’n ei gwneud yn glir y caiff y myfyriwr ofyn am eglurhad ar unrhyw agwedd ar yr adborth.

Adborth ar arholiadau ysgrifenedig

19. Mae’n ofynnol, o leiaf, i’r myfyrwyr gael gwybod beth yw cyfanswm cyffredinol yr elfen arholi, ynghyd â sylwebaeth ysgrifenedig o safbwynt y meini prawf asesu, ar gyfer y papur arholiad. Lle y bo hynny’n briodol ac yn ymarferol, dylai’r myfyrwyr hefyd allu gweld marciau’r cwestiynau unigol ar y papur arholiad. Gall y sylwebaeth ysgrifenedig fod yn sylwebaeth enerig i’r modiwl neu’r cwestiwn arholiad. Ni chaiff y myfyrwyr gadw eu papurau arholiad, ac felly dylai’r cyfadrannau wneud trefniadau i’r myfyrwyr gael gweld yr adborth ar bob cwestiwn a/neu’r adborth cyffredinol ar y papur arholiad.

20. Dylai’r myfyrwyr wybod y cânt ofyn am eglurhad ar unrhyw agwedd ar eu hadborth, a dylai’r cyfadrannau sicrhau bod y canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gael i’r perwyl hwnnw.

21. Yn ogystal ag adborth ysgrifenedig, rhaid trefnu cyfarfodydd â Thiwtoriaid Personol hefyd i drafod yr adborth, a dylai’r rhain gyfrannu at ddatblygu cynlluniau gwella unigol y myfyrwyr. Dylai’r cyfadrannau drefnu’r rhain yn ffurfiol, yn rhan o raglen y Tiwtoriaid Personol.

22. Er bod gofynion a chanllawiau’r adran hon yn berthnasol i adborth ysgrifenedig yn bennaf, dylid estyn yr egwyddorion yn yr un modd i adborth llafar, a chofnodi hynny’n ffurfiol.

Cefnogi ansawdd yr adborth

23. Dylai adborth ar asesiadau gwaith cwrs fod yn adeiladol ac ni ddylai gychwyn â sylwadau negyddol; dylai gadw’r ddysgl yn wastad rhwng adborth cadarnhaol ac adborth a fydd yn galluogi’r dysgwyr i ddatblygu a gwella’u perfformiad yn yr aseiniad nesaf.

24. Dylai’r safonau gofynnol ar gyfer sicrhau ansawdd yr adborth ddibynnu yn y lle cyntaf ar y systemau safoni sydd ar waith i bob modiwl. Dylai unrhyw sylwebaeth a gynigir gan arholwyr allanol hefyd fod yn fodd o sicrhau y cydymffurfir ag egwyddorion a gofynion yr adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd, ac yn fodd o sicrhau y parheir i wella.

25. Dylai’r cyfadrannau sicrhau bod gan y staff amser i gael hyfforddiant priodol a digonol a ddarperir gan y Brifysgol. Dylai cymorth a hyfforddiant fod ar gael hefyd ar lefel y gyfadran/adran, yn enwedig o ran agweddau gweithredol ar e-gyflwyno ac adborth a’r safonau gofynnol o ran ansawdd yr adborth a ddarperir.

26. Dylai’r athrofeydd sicrhau bod dyrannu llwyth gwaith ac ymrwymiadau eraill yn cael eu rheoli’n briodol i sicrhau bod aseiniadau’n cael eu dychwelyd yn brydlon. Dylid rheoli amseru a chynllunio’r asesiadau yn ofalus er mwyn i’r marcwyr allu bodloni’r safonau gofynnol o ran prydlondeb ac ansawdd yr adborth.

Polisi dwyieithrwydd ar gyfer asesiadau

27. Mae gan Brifysgol Aberystwyth bolisi dwyieithrwydd ar gyfer pob asesiad ysgrifenedig, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs ac arholiadau. Caiff myfyrwyr, p’un ai Cymraeg neu Saesneg yw prif iaith asesu’r modiwl dan sylw, ddewis cyflwyno sgriptiau arholiadau ac asesiadau gwaith cwrs naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg (ac eithrio asesiadau lle mae asesu iaith yn rhan o ddeilliannau dysgu’r modiwl). Bydd myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu harholi yn yr iaith honno; mae gan fyfyrwyr sy’n dilyn modiwlau drwy gyfrwng y Saesneg hawl i gael eu hasesu yn Gymraeg. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu amser i baratoi papurau arholiad Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Saesneg, gofynnir i fyfyrwyr hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiadau a gyhoeddir gan y Ganolfan.

28. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu polisi ar gyfieithu asesiadau er mwyn sicrhau uniondeb y broses (h.y. na fydd myfyrwyr yn cael mantais nac anfantais annheg o ran marcio gwaith wedi’i gyfieithu). Nid oes disgwyl i fyfyrwyr sydd am gyflwyno sgriptiau arholiadau neu asesiadau gwaith cwrs yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg roi gwybod am hyn i adrannau academaidd ymlaen llaw. Os yw myfyrwyr yn gofyn am asesiadau llafar trwy gyfrwng y Gymraeg, dylid eu hasesu yn Gymraeg lle bynnag y bo modd, heb gyfieithu ar y pryd. Fel arall, dylai adrannau ymgynghori â Chanolfan Gwasanaethau'r Gymraeg fesul achos. Os darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, byddai'n ddefnyddiol rhoi sgript neu grynodeb ysgrifenedig i'r cyfieithydd ar y pryd ymlaen llaw.

Confensiynau Asesu

29. Cwblhau blwyddyn gyflawn yn foddhaol gyda chadarnhad Bwrdd Arholi’r Senedd i ddenu 120 credyd.

30. Bydd yr holl arholiadau sydd ar yr amserlen ganolog yn y prif leoliadau naill ai’n 1.5, 2 neu 3 awr o hyd.

31. Dylid arholi modiwlau 10 credyd gyda phapurau heb fod yn hwy na dwy awr.

32. Caniateir i ymgeiswyr Rhan Un ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethir hyd at dair gwaith ar ôl y cyflwyniad gwreiddiol, naill ai fel ymgeiswyr mewnol neu ymgeiswyr allanol rhan amser.

33. Caniateir un cyfle i ymgeiswyr Rhan Dau i ailsefyll, os ydynt wedi dechrau ar Ran 2 cyn Medi 2017. Caniateir dau gyfle i ymgeiswyr Rhan Dau i ailsefyll, os ydynt wedi dechrau ar Ran 2 ers Medi 2017. Os yw ymgeisydd wedi methu modiwl sy’n cyfrannu at asesiad y radd derfynol, uchafswm y marciau y gellir eu dyfarnu ar gyfer ailsefyll yn llwyddiannus yw 40%. Mae’r uchafswm 40% hefyd yn gymwys i fodiwlau a amnewidir am fethiannau.

34. Caniateir un cyfle i ymgeiswyr uwchraddedig trwy gwrs i ailsefyll. Uchafswm y marciau y gellir eu dyfarnu ar gyfer ailsefyll yn llwyddiannus yw 50%. Mae’r uchafswm 50% hefyd yn gymwys i fodiwlau a amnewidir am fethiannau.

35. Caiff marciau a geir mewn arholiadau ailsefyll gan ymgeiswyr sydd wedi methu â chofrestru eu diddymu.

36. Gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi perthnasol, gall myfyrwyr sydd wedi methu neu sydd wedi bod yn absennol ar sail feddygol, dosturiol neu sail arbennig arall, sefyll ar gyfer y marc llawn os caiff y dystiolaeth berthnasol ei chyflwyno a’i derbyn gan y Bwrdd Arholi. Caiff y myfyrwyr hynny ddewis ailsefyll y modiwl(au) perthnasol ym mis Awst neu yn ystod y sesiwn ganlynol heb dalu ffi ailsefyll.

37. Os yw ymgeisydd wedi methu modiwl yn ei gyfanrwydd ond wedi pasio’r gwaith cwrs sy’n cael ei asesu, bydd y marciau a geir yn y gwaith cwrs fel arfer yn cael eu cario ymlaen i unrhyw ailsefyll, heb ail-wneud y gwaith, oni bai bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar y marc.

38. Dylai fformat yr asesiadau ailsefyll fod yr un fath ag asesiad y semester oni bai bod hyn yn amhosibl ei ail-greu, er enghraifft gyda gwaith grŵp neu ymarferol. Mewn modiwlau sydd wedi’u methu, fel arfer disgwylir i’r myfyrwyr wneud UN o’r rhain:

(i) cyflwyno/ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd neu nad yw’n bodoli (os yw diffygion yn yr elfen hon wedi arwain at y methiant)

(ii) ailsefyll yr arholiad (os yw’r myfyriwr wedi methu neu’n absennol o’r arholiad)

(iii) ailgyflwyno’r gwaith a aseswyd ac ailsefyll yr arholiad (os yw myfyriwr wedi methu’r ddwy ran, neu mewn rhai achosion, y naill ran neu’r llall o’r asesiad).

Rhaid i'r cyfadrannau egluro i’r myfyrwyr pa un o’r opsiynau sy’n gymwys iddynt.

39. Unwaith y bydd yr addysgu ar ben mewn semester, ni chaiff myfyrwyr dynnu’n ôl a byddant yn derbyn marciau am y modiwlau a gymerwyd y semester hwnnw. Os oes amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar eu perfformiad, rhaid cyflwyno tystiolaeth a ffurflen amgylchiadau arbennig i’w hystyried yn y byrddau arholi perthnasol.

40. Yn Rhan Un, bydd myfyrwyr israddedig sy’n methu â chwblhau’r flwyddyn yn foddhaol, fel y diffinnir hynny yn y confensiynau, fel arfer yn cael ail-wneud rhan o’r flwyddyn neu’r flwyddyn gyfan fel myfyrwyr llawn amser, rhan amser neu ran amser allanol. Yn Rhan Dau, sy’n cynnwys y flwyddyn olaf, ni chaniateir i fyfyrwyr israddedig ailsefyll unrhyw fodiwl lle maent eisoes wedi cyrraedd marc llwyddo. Bydd myfyrwyr sy’n methu â chwblhau’r flwyddyn yn foddhaol fel y diffinnir hynny yn y confensiynau, fel arfer yn cael ailsefyll y credydau a fethwyd. Dylai myfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn Rhan Un neu Ran Dau o fis Medi 2018 ymlaen gyfeirio at y Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar: Pwynt 17, os ydynt yn ystyried newid cynllun astudio, i gael cyngor ynglŷn â nifer y cynigion  a ganiateir er mwyn pasio modiwl (pa un ai yw’n fodiwl wedi ei ddewis o’r newydd neu wedi ei astudio o’r blaen).

41. Gyda chymeradwyaeth eu hadran(nau) Anrhydedd, gall myfyrwyr sy’n ail-wneud modiwlau a fethwyd amnewid modiwlau newydd am y rhai a fethwyd. Bydd y dangosydd ailsefyll cymeradwy fel arfer yn gymwys o hyd.

42. Bydd ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy’n ail-wneud y flwyddyn yn fewnol fel arfer yn cael eu gosod ar lefel sy’n adlewyrchu pwysiad credydau’r modiwlau sy’n cael eu hail-wneud, a bydd yn rhaid wrth isafswm ffi resymol i adlewyrchu gorbenion.

43. Dylai’r cyfadrannau ddarparu i Fyrddau Arholi’r Senedd adroddiadau ar yr holl ymgeiswyr sy’n cael marciau methu mewn modiwlau unigol.

44. Gofynnir i’r athrofeydd ddarparu marciau wedi’u haddasu i Fyrddau Arholi’r Senedd, ynghyd â datganiad clir yn nodi ymhle y mae marciau newydd wedi’u haddasu a’r rhesymau dros yr addasu.

45. Fel egwyddor gyffredinol, ystyrir bod marc o 40% yn Rhan Un yn cyfateb i lefel cyrhaeddiad sy’n caniatáu i fyfyriwr ddilyn Gradd yn y pwnc hwnnw.

46. Mae’r holl fodiwlau a gymerir yn Rhan Dau, ar ba lefel bynnag y cânt eu cynnig, yn cyfrannu at ddosbarth y radd. Mae’r confensiynau arholi yn amlinellu’r gofynion ar gyfer symud ymlaen o un flwyddyn astudio i’r nesaf, ac ar gyfer cymhwyso i gael gradd.

47. Dylid rhoi un cyfle arall i fyfyrwyr sy’n methu modiwlau yn Rhan Dau i’r graddau eu bod yn methu eu gradd yn gyfan gwbl i ailsefyll ar gyfer Gradd Pasio neu Anrhydedd.

48. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi cymhwyso am radd ailsefyll i wella dosbarth eu gradd drwy godi marciau modiwlau unigol i 40%.

49. Os yw myfyrwyr yn penderfynu tynnu’n ôl cyn diwedd eu cynllun astudio, neu os na allant barhau ar ôl manteisio ar bob cyfle i ailsefyll sydd ar gael, byddant yn gymwys i gael cymhwyster interim Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch, yn ôl y credydau a basiwyd, fel yr amlinellir yn y Confensiynau Arholiadau.

50. Mae’r holl fodiwlau a gymerir mewn cynlluniau Uwchraddedig drwy Gwrs yn cyfrannu at ddosbarth y radd derfynol. Dylid rhoi un cyfle arall i fyfyrwyr sy’n methu modiwlau i’r graddau eu bod yn methu eu gradd yn gyfan gwbl i ailsefyll. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi cymhwyso am radd ailsefyll i wella dosbarth eu gradd drwy godi marciau modiwlau unigol i 50%.

51.Os yw myfyrwyr yn penderfynu tynnu’n ôl cyn diwedd eu cynllun astudio, neu os na allant barhau ar ôl manteisio ar bob cyfle i ailsefyll sydd ar gael, byddant yn gymwys i gael cymhwyster interim Tystysgrif neu Ddiploma Uwchraddedig, yn ôl y credydau a basiwyd, fel yr amlinellir yn Adran 4 Confensiynau Arholiadau.

Cynlluniau Meistr trwy Gwrs: Canllawiau ar gyfer Samplo Traethodau Hir

52. Caniateir samplo traethodau hir gan arholwyr allanol, o fewn y canllawiau isod.

53. Bod yr arholwyr allanol yn gweld yr holl draethodau hir sydd:

(i) o fewn categori rhagoriaeth

(ii) o fewn +/- 5% i’r marc pasio

(iii) o fewn band methu

(iv) yn waith sydd wedi’i farcio gan rai heblaw staff academaidd y Brifysgol.

54. Dylai arholwyr allanol gadw’r hawl i ddewis traethodau hir eraill ar hap.

55. Dylid gweithredu trefn marcio dwbl ar gyfer pob traethawd hir.

56. Dylai’r Arholwr Allanol weld o leiaf 20% o’r traethodau hir neu isafswm o 10 (p’un bynnag fo’r ffigwr uchaf). Os yw’r cyfanswm yn llai na 10, dylai’r holl draethodau hir gael eu harholi’n allanol.