3.12 Adolygwyr Mewnol

1. Penodir arolygwyr mewnol gan y Cofrestrfa Academaidd i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd byrddau arholi’r adrannau.

2. Nid yw’r Arolygydd Mewnol yn aelod o’r bwrdd arholi, ac ni ddylai fod yn un o arholwyr mewnol y bwrdd arholi dan sylw. Efallai, felly, y bydd angen i’r Gofrestrfa Academaidd benodi mwy nag un arolygydd fel y gellir cael arolygydd yn bresennol ymhob cyfarfod. Os nad yw’n bosib i Cofrestrfa Academiaidd ddarparu arolygydd mewnol ar gyfer bwrdd penodol, gall aelod o’r Gofrestrfa Academaidd ymgymryd â’r cyfadran.

3.  Dylai adolygwyr mewnol fynd i amrywiaeth o gyfarfodydd byrddau arholi lle mae  disgwyl i arholwyr allanol fod yn bresennol, gan gynnwys cyfarfodydd semester un o fyrddau Rhan Dau ac Ôl-raddedig a Ddysgir drwy Gwrs.

4.  Dylai adolygwyr mewnol fynd i fwrdd arholi adrannol unwaith mewn blwyddyn academaidd, oni bai bod materion penodol wedi'u codi a byddai'n ddefnyddiol i Adolygydd Mewnol fynychu.

5. Ni ddisgwylir i arolygwyr mewnol wneud sylwadau ar achosion unigol yn ystod cyfarfodydd y byrddau arholi. Eu swyddogaeth yw cadw golwg ar ddull y bwrdd o weithredu rheoliadau’r brifysgol a’r cyfarwyddiadau yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Gallant hefyd dynnu sylw at arfer da a’i rannu o fewn y Gyfadran.

Pennod wedi'i hadolygu: Medi 2023