Cofrestru i Uwchraddedigion Ymchwil
I fod yn fyfyriwr cofrestredig llawn ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i chi gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein.
Bydd y Tasg Cofrestru hon yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Mae amseriad y tasgau yn dibynnu ar ba fath o fyfyriwr ydych chi, a phryd y gwnaethoch gychwyn eich astudiaethau. Mae'r Amserlenni y Tasgau Cofrestru isod yn nodi'r gwahanol fathau o fyfyrwyr, ac yn egluro pa Dasgau Cofrestru y bydd angen i chi eu cwblhau ac erbyn pryd - gwiriwch y penawdau perthnasol am ragor o wybodaeth.
Os byddwch angen cymorth yn ystod unrhyw gam o’r broses yma, peidiwch oedi cyn cysylltu a ni.
Cofrestru Ar-lein
Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig Newydd
Bydd Cofrestru Ar-lein ar gael i chi 4 diwrnod cyn y dyddiad cychwyn a nodir ar eich llythyr cynnig. Mae angen i chi gwblhau'r dasg o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cychwyn eich cwrs.
Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig Newydd - Rhan-Amser
Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig Newydd - Llawn-Amser
Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig Newydd - Doethur Proffesiynol (DProf)
Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig sy'n Dychwelyd
Mae'n rhaid i bob myfyriwr Ymchwil uwchraddedig gwblhau cofrestriad ar-lein.
