Materion Israddedigion
ASESIADAU SEMESTER DAU
Amgylchiadau Arbennig: Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad yn Semester Dau mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi. Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/taught-schemes/ . Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r ffurflen amgylchiadau arbennig i’r adran(nau) academaidd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogol. Dylech cyflwyno eich ffurflen cyn bwrdd arholi yr adran.
Amserlen yr Arholiadau: Cofiwch wneud yn siŵr o’r amserlen arholiadau eich bod yn troi i fyny yn y man iawn ar yr amser iawn. Nid yw camddeall yr amserlen yn rheswm dilys am fod yn absennol ac fe allech fethu'r flwyddyn gyfan o ganlyniad i hyn.
Canlyniadau Semester Dau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl 10yb ar y dyddiad canlynol:
- Holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf: Dydd Iau 26 Mehefin
- Pob myfyriwr arall: Dydd Iau 3 Gorffennaf
Asesiadau Ailgynnig yr Haf
Mae'n hanfodol eich bod yn gwirio'ch canlyniadau a'ch tasg Asesiadau Ailgynnig Haf ar gyfer modiwlau rydych wedi'ch cofrestru'n awtomatig i'w hailsefyll ac ar gyfer unrhyw fodiwlau y mae gennych yr opsiwn i ailsefyll neu beidio. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio'ch tasg i weld eich opsiynau os oes gennych rai. Mae’r dasg ar gael fel arfer y diwrnod y caiff eich canlyniadau eu rhyddhau am bythefnos.
Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei enw a chyfeiriad cartref yn gywir. Eich enw fel mae yn ymddangos ar eich cofnod myfyriwr fydd sut y caiff ei argraffu ar eich tystysgrif gradd, a’ch cyfeiriad cartref fel y mae’n ymddangos ar eich cofnod myfyriwr yw lle bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon os na fyddwch yn ei chasglu’n bersonol ar ôl graddio. Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 20 Mehefin fan bellaf.
Dylech droi at eich ‘Cofnod Myfyriwr’ yn aml i wneud yn siŵr fod y manylion yn gywir. Mae hefyd yn bwysig i chi wirio eich cyfrif e-bost fyfyriwr y brifysgol yn gyson gan mae hyn yw ein prif ddull o gysylltu â chi.
Gwybodaeth i Israddedigion
- Arholiadau ac Asesiadau
- Gwybodaeth Ailsefyll a Taliadau Ailsefyll
- Cofrestru
- Gwybodeth Amrywiol
- Gwasanaethau cofrestrfa academaidd i israddedigion
- Ffioedd Dysgu
- Gwobrau
Cysylltwch â Ni
Tîm | E-bost | Ffôn |
---|---|---|
Gweinyddu Myfyrwyr Israddedig | ugfstaff@aber.ac.uk | (01970) 628515 / 622787 |
Gweinyddu Myfyrwyr Dysgu o Bell | dlrstaff@aber.ac.uk | (01970) 622057 |
Tystysgrifau | aocstaff@aber.ac.uk | (01970) 622016 / 622354 / 628515 |
Graddio | gaostaff@aber.ac.uk | (01970) 622354 |
Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Gwener 9yb at 4yp ar y llawr cyntaf, adeilad Cledwyn , campws Penglais.
Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr
Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth,
Llawr cyntaf, Adeilad Cledwyn,
Campws Penglais,
Aberystwyth
SY23 3DD
Gwasanaethau ymholiad rhithwir