Bod Yn Barod Am Arholiadau
-
1.0 Cyn Cyfnod yr Arholiadau
1. Gwnewch restr o’r holl fodiwlau yr ydych chi’n disgwyl sefyll arholiad ffurfiol ynddyn nhw yn y cyfnod arholiadau cyfredol (e.e. Yn Semester Un, Semester Dau neu gyfnod Arholiadau Ailsefyll mis Awst). Dylech gynnwys cod y modiwl (e.e. BR10510) yn ogystal â theitl y modiwl (e.e. Chemical Basis of Biology)
2. Edrychwch ar amserlen yr arholiadau yn http://www.aber.ac.uk/cy/timetable/exam-timetable/. Nodwch :
i) Ddiwrnod a dyddiad eich arholiadau, gan nodi ai yn sesiwn y bore neu’r prynhawn y mae’r arholiadau
ii) Lleoliadau eich arholiadau (colofn 5 ar yr amserlen) - a chofiwch sicrhau eich bod yn gwybod ymhle mae’r lleoliadau hyn.
A Y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau
B Ystafell Uchaf Penbryn/ Prif Ffreutur Medrus
C Y Gawell Chwaraeon
iii) Rhifau’r seddi a neilltuir i’ch papurau ym mha leoliad bynnag sy’n berthnasol (colofnau 11 a 12 ar yr Amserlen)
3. Paratowch unrhyw beth y gallech fod ei angen ar gyfer yr arholiad:
i) Offer safonol, er enghraifft pennau ysgrifennu, pensiliau, ac ati.
ii) Eich cerdyn myfyriwr Aber. Cofiwch ddod â hwn gyda chi.
iii) Unrhyw eitemau a ganiateir mewn arholiad penodol, os yw’n caniatáu testun (llyfr ystatud er enghraifft, mewn arholiad yn y Gyfraith) neu a yw’r arholiad yn un ‘llyfr agored’ neu ‘nodiadau agored’ (holwch eich adran ymlaen llaw yn union beth sydd ei angen ac a ganiateir mewn amgylchiadau o’r fath). Os caniateir cyfrifianellau mewn arholiad, nodwch mai'r unig fodelau y ceir eu defnyddio yw'r Casio FX83 a FX85. Os bydd unrhyw un yn dod ag unrhyw fodel arall i leoliad yr arholiad, caiff y model hwnnw ei gymeryd ymaith.
iv) Os ydych chi’n teimlo y gallech fod angen diod neu loshin, cofiwch mai DIM OND potel fach o ddŵr a thiwbiau bach o loshin an-ludiog a ganiateir. DIM BYD ARALL.
v) Gofynnwn i chi gymryd yr amser i sicrhau eich bod yn deall Rheoliad y Brifysgol ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol: https://www.aber.ac.uk/cy/regulations/uap/
-
1.1 Cyn Pob Arholiad Unigol
1. Gwnewch yn sicr eich bod yn y lleoliad cywir ar gyfer eich arholiad mewn da bryd. Fe fyddwn i’n awgrymu bod yno 20 munud yn gynnar. Mae hyn yn rhoi digon o amser i wneud y pethau a nodir isod, ond hefyd i’ch paratoi eich hun yn feddyliol cyn yr arholiad, a chadw mewn cof fod drysau neuadd yr arholiad yn agor 10 munud cyn i’r arholiad ddechrau.
2. Cofiwch gyrraedd yno yn gwybod yn sicr beth yw cod a theitl eich modiwl.
3. Edrychwch ar yr amserlen a fydd i fyny, er mwyn cadarnhau eich bod chi yn y man cywir ac i weld rhifau’r seddi a neilltuir i arholiad eich modiwl chi. Edrychwch ar y cynllun seddi ar gyfer neuadd yr arholiad i weld ym mha res y byddwch yn dod o hyd i’ch papur arholiad.
4. Peidiwch â dod ag unrhyw beth gyda chi i’r neuadd arholi nad oes ei angen yn yr arholiad. Bydd cynorthwywyr yr arholiad yn dangos ymhle y gallwch gadw cotiau, bagiau ac eitemau eraill yn ystod yr arholiad (y tu allan i neuad yr arholiad fel arfer). Ni fydd y Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb o gwbl am unrhyw beth sy’n cael ei adael y tu allan i neuadd yr arholiad.
5. Tua deng munud cyn amser dechrau’r arholiad, dywedir wrthych fod y drysau wedi agor ac y gall pawb fynd i mewn i’r neuadd yn dawel a threfnus.
6. Ar y ffordd i mewn, cewch eich hatgoffa i wneud yn siŵr nad oes gennych ffonau symudol neu unrhyw ddyfais electronig anawdurdodedig yn eich meddiant. Er y byddai’n well pe na byddech yn dod ag unrhyw ddyfais anawdurdodedig i neuadd yr arholiad, gellir eu storio mewn blwch yn ystod yr arholiad. Fodd bynnag, ni fydd y Brifysgol na staff yr arholiad yn gyfrifol o gwbl am ddyfeisiau o’r fath a storir yn y blychau. Rhaid i chi gofio casglu’r ddyfais hon cyn i chi adael y neuadd.
-
1.2 Wrth Fynd i Mwen i Neuadd yr Arholiad
1. Gan gofio rhifau’r seddi a'r rhes(i), chwiliwch am sedd sydd â phapur cwestiynau arholiad y modiwl cywir ar y ddesg (bydd cod a theitl y modiwl yn ar frig y dudalen). Peidiwch â throi’r papur cwestiynau drosodd ar unrhyw bwynt nes eich bod yn cael cyfarwyddyd i wneud hynny – gallai gwneud hynny gael ei ystyried yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Eisteddwch a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y pethau canlynol:
i) Sicrhau’n derfynol eich bod yn eistedd wrth y papur arholiad cywir. Holwch aelod o staff yr arholiad os ydych yn ansicr. Gwnewch yn siŵr bod cod a theitl y modiwl yn gywir. Os bydd angen i chi symud, sicrhewch eich bod yn gadael y papur cwestiynau lle y mae e. Dim ond eich eitemau personol y dylech fynd â nhw gyda chi wrth symud i ddesg arall.
ii) Llenwch y paneli gwybodaeth ar flaen y llyfr atebion. Bydd hyn yn cynnwys eich rhif myfyriwr, felly cyfeiriwch at eich Cerdyn Aber os bydd angen.
iii) Rhowch eich enw yn y gornel dde uchaf, fel a nodir. Dyma’r hyn a elwir yn ‘banel anhysbysrwydd’ sy’n cael ei blygu drosodd a’i ludo i lawr. Bydd label yn cael ei ddarparu ichi. Fel hyn y caiff eich papur ei farcio’n ddi-enw.
iv) Hefyd rhaid llenwi’r papur ‘Presenoldeb’ glas ar y ddesg, gan roi’r holl fanylion y gofynnir amdanynt. Bydd staff yr arholiad yn casglu’r papur ‘Presenoldeb’ yn fuan ar ôl i’r arholiad ddechrau, felly rhaid ei lenwi ar unwaith ar ôl eistedd. Ar ôl ei lenwi, gadewch y papur ar gornel eich desg ynghyd â’ch Cerdyn Myfyriwr Aber.
2. Rai munudau cyn i’r arholiad ddechrau, darllenir y ‘Cyhoeddiadau Cychwynnol’ allan yn ddwyieithog. Cofiwch wrando a gweithredu arnynt. Ni ddylech droi’r papur cwestiynau drosodd na dechrau ysgrifennu yn eich llyfr atebion, o dan unrhyw amgylchiadau, tan i’r ‘Cyhoeddiadau Cychwynnol’ orffen a’ch bod wedi cael cyfarwyddyd ei bod yn iawn i chi ddechrau.
-
1.3 Ar Ddiwedd yr Arholiad
1. Chi sy’n llwyr gyfrifol am amseru eich arholiad ac am fod yn ymwybodol o’r amser y daw eich arholiad penodol chi i ben. Bydd dau arholiad o hyd gwahanol yn cael eu cynnal yn yr un neuadd ac nid yw’n ofynnol i staff yr arholiad roi rhybudd fod amser un yn dod i ben, er weithiau eu bod yn gwneud hynny, lle bo’n bosibl.
2. Ni ddylech barhau i ysgrifennu yn eich llyfr atebion ar ôl i’r ‘Cyhoeddiad Diwedd Arholiad’ gael ei wneud.
3. Ar ddiwedd eich arholiad, gwnewch yn sicr eich bod wedi llenwi panel blaen y llyfr atebion a rhoi eich enw yn y panel anhysbysrwydd. Gludwch y gornel i lawr, os na wnaethoch hynny eisoes. Dylech wneud hyn i bob llyfr atebion a ddefnyddiwyd, nid dim ond y cyntaf.
4. Os ydych wedi defnyddio mwy nag un llyfr atebion, defnyddiwch y ddolen gysylltu a ddarperir i’w clymu ynghyd.
5. Pa bryd bynnag y byddwch chi’n gadael neuadd yr arholiad, hyd yn oed os penderfynwch adael yn gynnar (mae’n rhaid ichi aros am o leiaf y 45 munud cyntaf o dan unrhyw amgylchiadau), gadewch eich llyfrau atebion ar eich desg ac ewch allan yn dawel. Fel arfer (onibai y nodir yn wahanol) cewch fynd â’r papur cwestiynau gyda chi.
6. Cofiwch mae’n bosibl na fydd pawb wedi gorffen wrth ichi adael (gan gynnwys y rhai yn yr ystafell Anghenion Arholiad Unigol gerllaw’r brif neuadd), felly rhaid cadw’n dawel yn ardal gyffredinol yr arholiad a pheidiwch â dechrau sgwrsio tan ichi fod yn ddigon pell o neuadd yr arholiad.
7. Cofiwch sicrhau eich bod yn mynd â’ch holl eitemau personol gyda chi – os digwydd i chi adael rhywbeth ar ôl anfonwch e-bost at eosstaff@aber.ac.uk gan roi rhagor o fanylion am yr hyn yr ydych wedi’i golli. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
-
1.4 Myfyrwyr Sy'n Sefyll Arholiad Gan Ddefnyddio Cyfrifiadur
1. Ar gyfer myfyrwyr sy’n defnyddio cyfrifiadur ar gyfer eu harholiadau, mae’n bwysig bod gennych eich Cerdyn Myfyriwr Aber a’ch bod yn gwybod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.
2. Eisteddwch yn y sedd yn unol â chyfarwyddyd staff yr arholiad ar ôl mynd i mewn i neuadd yr arholiad.
-
1.5 Myfyrwyr Sy'n Sefyll Arholiadau Mewn Lleoliadau Eraill
1. Ar gyfer myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau mewn lleoliadau eraill, megis eu hadran, byddant fel arfer yn derbyn cyfarwyddyd pellach ynglŷn â lleoliad ac amseroedd gan eu hadran academaidd ymlaen llaw, cyn i’r arholiadau gychwyn.