Gwobrau ar gyfer Teithio - Gregynog

Bydd nifer fechan o Wobrau Teithio Gregynog ar gael i fyfyrwyr sy'n teithio dramor yn ystod gwyliau'r haf.

1.  Dylai'r daith fod o fudd diwylliannol yn hytrach nag at astudio academaidd.

2.  Fel rheol, ni ddylai taith fod yn fwy na naw wythnos.

3.  Ni ddyfernir gwobrau am

i.deithiau ym Mhrydain nac Iwerddon;
ii.deithiau gan grwpiau sydd wedi'u trefnu, ac sy'n derbyn cymorth offynhonnell arall.

4.  Rhoddir y flaenoriaeth i fyfyrwyr israddedig yr ail flwyddyn. Fel rheol ni fyddmyfyrwyr y flwyddyn gyntaf na'r olaf yn gymwys.

Ceir copi PDF o'r ffurflen gais yma

Ceir copi Word o'r ffurflen gaid yma

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â aocstaff@aber.ac.uk

Dylid eu ddychwelyd erbyn 26 Ebrill 2024.