Cofrestru'n Hwyr
Cyfeiriwch at y canllawiau ar gyfer Cofrestru’n Hwyr o dan y penawdau isod.
Nid yw’r Brifysgol yn rhoi caniatâd ar gyfer cofrestru’n hwyr: mae’n ofynnol i fyfyrwyr fod yn bresennol yn unol â’r Dyddiadau Tymor.
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Brifysgol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau ei bod yn cofrestru gyda'r Brifysgol trwy gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein trwy ei Gofnod Myfyriwr. Gellir gweld manylion y trefniadau ag amserlenni ar gyfer y Tasgau Cofrestru ar y tudalennau canlynol:
Bydd peidio â chwblhau Cofrestru Ar-lein erbyn y terfynau amser a nodir isod yn arwain at nifer o oblygiadau. Gweler y wybodaeth yn yr adran Gwybodaeth Bwysig ar waelod y dudalen hon.
Pob Myfyriwr Newydd a Myfyrwyr sy'n Dychwelyd (ac eithrio myfyrwyr BSC Nyrsio, Gwyddor Filfeddygol a Cyrsiau Dysgu o Bell)
Myfyrwyr Canolfan Addysg Gofal Iechyd - Cynlluniau Nyrsio
Myfyrwyr Gradd Gwyddor Filfeddygol
Cyrsiau Dysgu o Bell
Gwybodaeth Bwysig:
Os byddwch yn methu â chwblhau'r cofrestriad erbyn y dyddiadau cau a nodir uchod, mae nifer o oblygiadau:
- Mae'n bosibl na chewch gofrestru ar gyfer y flwyddyn i ddod.
- Bydd eich mynediad at gyfleusterau Gwasanaethau Gwybodaeth - cyfrifiaduron a llyfrgell - yn cael ei dynnu'n ôl. Mae hyn p'un a ydych wedi hysbysu'r Brifysgol eich bod yn bwriadu cofrestru'n hwyr. Ni fydd eich mynediad yn cael ei adfer hyd nes y byddwch wedi cwblhau cofrestru.
- Ni fyddwch yn derbyn taliad o'ch benthyciad na'ch bwrsariaeth hyd nes y byddwch wedi cwblhau'r cofrestriad yn llawn.
- Os dymunwch gymryd modiwlau lle mae nifer y myfyrwyr a ganiateir yn gyfyngedig yna rhaid i chi gwblhau'r cofrestriad i sicrhau eich lle.
Os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol ac yn dychwelyd yn hwyr rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Llety. Gallwch anfon llythyr, neu e-bost at accommodation@aber.ac.uk, neu ffoniwch (01970) 622984. Os nad ydych wedi rhoi gwybod o flaen llaw eich bod yn dychwelyd yn hwyr mae’n bosibl y bydd eich ystafell yn cael ei rhyddhau i fyfyriwr arall.
