Tystysgrif Sgiliau Iaith

Y Dystysgrif Sgiliau Iaith

Mae’r Dystysgrif Sgiliau Iaith wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr neu staff i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. I baratoi at y dystysgrif, mae Tiwtor Sgiliau Iaith ar gael sy'n cynnig sesiynau grŵp gloywi iaith am ddim i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn y meysydd canlynol:

  • Gwallau iaith cyffredin
  • Trawsieithu
  • Gwneud cyflwyniadau llafar
  • Ysgrifennu rhydd

Mae’r tiwtor hefyd yn gallu darparu cymorth un wrth un. Mae'r sesiynau grŵp a'r cymorth un wrth un yn agored i bob myfyriwr a phob aelod o staff boed yn bwriadu sefyll y dystysgrif ai peidio. Yn ogystal, mae cyfres o adnoddau i ddatblygu sgiliau iaith ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cysylltwch â'r Tiwtor Sgiliau Iaith am ragor o wybodaeth ar sgiliau@aber.ac.uk.