Amdanom Ni

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac yn cynorthwyo’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog. Mae ei gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau academaidd i ddatblygu prosiectau drwy’r Gymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu, cynnig a chydlynu gwasanaeth cefnogi cynhwysfawr i staff a myfyrwyr drwy’r Gymraeg ac anelu at sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg.

Datganiad Preifatrwydd Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg