Yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg, rhaid i benderfyniadau polisi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar—
(a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Hefyd, rhaid ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel byddai’n cael effeithiau mwy positif / effeithiau llai andwyol ar y Gymraeg.
Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori neu’n comisiynu ymchwil sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—
(a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwblhewch Ffurflen Ardrawiad Effaith ar y Gymraeg ar gyfer penderfyniadau polisi sydd angen eu cymeradwyo ar lefel y Weithrediaeth.
Gall Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg canolfangymraeg@aber.ac.uk eich cynorthwyo i gwblhau’r asesiad.
Beth yw ystyr ‘penderfyniad polisi’ yng nghyd-destun Safonau’r Gymraeg?