Newyddion a Digwyddiadau
19.09.2024 Digwyddiadau yr Wythnos Groeso
Bydd Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg a Changen Aber o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal ac yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau dros yr Wythnos Groeso gan gynnwys:
- Brecwast Croeso i Fyfyrwyr Blwyddyn 1 (sy’n siaradwyr ac yn ddysgwyr Cymraeg) 11.45am Dydd Sul 22 Medi
Cyfle gwych i fyfyrwyr newydd ddysgu mwy am be sy’ ar gael yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac i gymdeithasu dros baned a bwyd am ddim!
- Sesiwn yn ystod y Bore Coffi, 10.30am-11.30am, Dydd Mercher 25 Medi, Ystafell Gyffredin Hŷn, Pantycelyn
Cyflwyniad i ddiwylliant Cymru a’r Iaith Gymraeg, ynghyd â rhai ymadroddion defnyddiol.
Bydd hefyd gennym Stondin yn y digwyddiadau isod:
- Sesiynau Sul Croeso Aber, 1pm- 5pm, Dydd Sul 22 Medi.
- Ffair y Glas, 10am-4pm, Dydd Mawrth 24 a Dydd Mercher 25 Medi, Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau.
Croeso i bawb dod draw i glywed mwy am Wasanaethau’r Gymraeg a Changen Aber o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
19.09.2024 Tystysgrif Sgiliau Iaith
Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl a hoffech chi brofi eich gallu i weithio drwy’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y gweithle, mae gennych tan 7 Tachwedd 2024 i gofrestru ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyma gymhwyster rhad ac am ddim, gyda saith sesiwn gefnogol i baratoi ymgeiswyr at yr asesiadau a’u helpu i roi sglein ar eu hiaith lafar ac ysgrifenedig. Mae amserlen y sesiynau yn un hyblyg, ac yn cynnig sesiynau rhithiol neu wyneb-yn-wyneb. Caiff y sesiynau eu dysgu gan Adran y Gymraeg y Brifysgol. Cysylltwch â sgiliau@aber.ac.uk am fwy o fanylion, neu cofrestrwch arlein yma.
2.07.2024 MailTip Outlook – Rwy’n Siarad Cymraeg
Bellach mae modd nodi ar eich proffil e-bost mewnol eich bod yn siarad Cymraeg neu’n siarad rhywfaint o Gymraeg.
Drwy fynd i’r ap “Proffiliau Staff Ar-lein” sydd ar Apex (myadmin.aber.ac.uk) gellir nodi eich bod yn siarad Cymraeg neu’n siarad rhywfaint o Gymraeg.
Gellir canfod cyngor pellach yma:
1.07.2024 Hyfforddiant Asesiad Risg (Cymraeg)
10-12:30 09/07/2024
C43 Hugh Owen, Campws Penglais
Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth ac i archebu lle:
7.03.2024 Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2024
Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2024 bellach ar agor.
Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, ac i ddathlu ethos dwyieithog y Brifysgol.
Eleni bydd cyfle hefyd i enwebu Adran neu Dîm ar gyfer categori newydd sbon, ‘Cefnogi'r Gymraeg yn y gweithle’.
1.03.2024 Paned a Sgwrs Dydd Gŵyl Dewi
Dyma rai o staff Prifysgol Aberystwyth sy’n dysgu Cymraeg yn mwynhau paned a chwis i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Croeso i chi gysylltu â canolfangymraeg@aber.ac.uk os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg.
29.02.2024 Paned a Sgwrs Gŵyl Dewi 1.03.2024
Croeso mawr i staff y Brifysgol sy’n Dysgu Cymraeg ar unrhyw lefel i alw draw am sgwrs, paned a chacen gri.
10:30 am, 1 Mawrth 2024, Medrus 1, Adeilad Penbryn, Campws Penglais.
Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cwis Cymraeg.
Am fwy o fanylion, cysylltwch gydag Olwen Morus, olm25@aber.ac.uk.
16.02.2024 Sesiwn hyfforddi “Y Gymraeg a Fi” (8.03.2024)
Beth mae’r Gymraeg yn ei olygu i chi? Mae Mererid Hopwood a Mandi Morse, o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn cynnal sesiwn hyfforddi wyneb-yn-wyneb byr "Y Gymreg a Fi" ar 8 Mawrth 2024 (10:00-11:00, 0.25 Adeilad Cledwyn), i drafod eich taith iaith chi a’r ateb i’r cwestiwn hwn.
Bwriad y gweithdy yw datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg yn y gwaith ac i godi hyder i’w defnyddio.
Mae croeso i bob aelod o staff i fynychu’r sesiwn, yn enwedig aelodau o staff o gefndiroedd di-Gymraeg a/neu sy’n ddihyder yn y Gymraeg. Cynhelir y sesiwn yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg.
Am wybodaeth pellach e-bostiwch canolfangymraeg@aber.ac.uk ac i gofrestru ewch i https://stafftraining.aber.ac.uk/.
28.11.2023 Ystyried effaith ar y Gymraeg wrth ddyfarnu grantiau neu gymorth ariannol
Yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg (Safon 100) mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo polisi a gweithdrefn newydd er mwyn asesu effaith grantiau a chymorth ariannol ar y Gymraeg. Disgwylir i Adrannau sy’n gyfrifol am ddyfarnu grantiau neu gymorth ariannol gwblhau asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg (gweler atodiad 2 y polisi) mewn ymgynghoriad â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Bydd yr asesiadau hyn yn gyfle i adnabod cyfleoedd o fewn cynlluniau grantiau/cymorth ariannol i sicrhau cydraddoldeb i’r Gymraeg ac i gynyddu effeithiau positif i’r Gymraeg.
15.11.2023 Arolwg Defnydd Iaith Staff – Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg
Cyfle i ennill Taleb £30 i Ganolfan y Celfyddydau
Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn cynnal arolwg ar-lein am y Gymraeg yn y gweithle er mwyn hyrwyddo defnydd yr iaith ymhellach ac er mwyn adnabod anghenion hyfforddi a chyfleoedd datblygu.
Mae’r holiadur yn agored i bawb, siaradwyr Cymraeg a phobl nad ydynt yn siarad yr iaith, a bydd eich atebion yn gwbl ddienw. Wedi i chi gwblhau’r arolwg bydd cyfle i ennill gwobr sef Taleb £30 Canolfan y Celfyddydau.
Gweler ddolen yn y bwletin staff diweddaraf er mwyn cwblhau’r arolwg erbyn 30 Tachwedd 2023. Dylai’r arolwg gymryd tua 5-10 munud i'w gwblhau.
2.11.2023 Enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad at y Gymraeg.
Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023 mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref, wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr.
Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, gwobrwywyd pum enillydd ar gyfer y gwobrau canlynol:
- Dysgwr Disglair (Staff) – Kate Barber a Martine Garland
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Abigail Crook
- Astudio trwy’r Gymraeg (Myfyriwr) – Ffion King
- Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Cai Phillips
Dyfarnwyd Gwobr Arbennig y Panel i’r Athro Elizabeth Treasure am ei chefnogaeth allweddol i’r Gymraeg yn ystod ei chyfnod fel Is-ganghellor yn y Brifysgol.
Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwyr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol:
“Mae’n fraint unwaith eto i gydnabod a dathlu cyfraniadau unigolion sydd wedi disgleirio wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol. Braint arbennig hefyd oedd cydnabod cyflawniadau sylweddol yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, cyn ei hymddeoliad. Mae cyfraniad yr enillwyr a’r sawl sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y Gwobrau eleni yn dangos y dylanwad cadarnhaol y gall unigolion ei gael i fod yn ysbrydoliaeth i’w cyd-fyfyrwyr a’u cydweithwyr.”
Yr Enillwyr
Kate Barber (Dysgwr Disglair): Wedi ei geni yn Nottingham a’i magu yn Swydd Henffordd, symudodd Kate i Aberystwyth yn 2021 i astudio Cwrs Meistr Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth. Wrth astudio’r cwrs, dechreuodd ddysgu’r Gymraeg gyda ‘Duo Lingo’ cyn cofrestru ar gwrs Lefel Mynediad. Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae Kate yn gweithio fel Cynorthwyydd Desg Gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen yn y Brifysgol. Mae’n swydd ble mae’r Gymraeg yn hanfodol ac mae Kate yn mwynhau cyfathrebu gyda myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r Llyfrgell yn hyderus yn y Gymraeg. Mae hefyd yn mwynhau cymdeithasu yn yr iaith yn y gymuned leol.
Dr Martine Garland (Dysgwr Disglair): Yn wreiddiol o Lundain, symudodd Martine i Aberystwyth ar ôl cael ei phenodi’n ddarlithydd yn yr Ysgol Fusnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2020. Gan ei bod yn symud i Gymru, teimlai ei bod yn bwysig iawn dysgu Cymraeg er mwyn gallu ei siarad yn y gymuned leol ac aeth ati i gofrestru ar gwrs Blasu. Bellach mae Martine yn mynychu nifer o gyrsiau gan gynnwys cwrs Cymraeg Gwaith a chwrs Cymunedol ac mae newydd ddychwelyd ar ôl cwblhau cwrs yn Nant Gwrtheyrn ac yn gallu sgwrsio’n hyderus yn y Gymraeg gyda chydweithwyr, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol.
Abigail Crook (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Daeth Abigail i Aberystwyth yn 2009 i astudio gradd mewn Llyfrgellyddiaeth gan gael cyfle i weithio yn llyfrgelloedd y Brifysgol ar y pryd. Yn dilyn cyfnodau i ffwrdd yn y gogledd a’r de, dychwelodd yn ôl i Aberystwyth yn 2018 i astudio gradd meistr mewn cyfieithu. Yn dilyn hynny, bu’n gweithio gyda’r Ysgol Fusnes yn y Brifysgol cyn dychwelyd i weithio unwaith eto fel aelod o dîm Gwasanaethau Gwybodaeth. A hithau’n gweithio fel aelod o’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid, mae’n darparu, datblygu ac yn hyrwyddo gwasanaethau llyfrgell a thechnoleg gwybodaeth y Brifysgol. Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan flaenllaw iawn ym mhob elfen o’i gwaith. Yn ei swydd, mae Abigail yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd creadigol wrth lunio deunydd marchnata a thestun, i sicrhau fod yr iaith yn glir a dealladwy wrth greu adnoddau gwybodaeth ac wrth ei defnyddio yn ddyddiol gyda defnyddwyr y gwasanaethau ac â chydweithwyr.
Ffion King (Astudio trwy’r Gymraeg): Mae Ffion yn fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Fe’i ganwyd yn Lloegr ac yn ystod ei phlentyndod bu’n byw ym Mhapua Gini Newydd cyn dychwelyd gyda’r teulu i fyw yng Nghaerloyw yn 12 mlwydd oed. Yn ystod ymweliad â Chymru i ymweld â ffrindiau prynodd gopi o’r Mabinogion yng Nghastell Caernarfon a sbardunodd ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Geltaidd. Mae Ffion yn teimlo’n angerddol dros y Gymraeg a dechreuodd ddysgu’r iaith ar ei phen ei hun chwe mis cyn mynychu’r Brifysgol ym mis Medi 2021. Mae’n fyfyrwraig cwiar ac awtistig, ac yn teimlo bod dysgu’r iaith wedi agor drws i’w diwylliant ac wedi creu byd newydd yn y Gymraeg.
Cai Phillips (Pencampwr y Gymraeg): Mae Cai yn fyfyriwr gradd anrhydedd cyfun mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Cyfryngau. Fe’i magwyd ar fferm laeth ym Mlaenycoed, Sir Gaerfyrddin ac aeth i’r ysgol gynradd leol cyn mynychu Ysgol Uwchradd Bro Myrddin. Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Cai a dewisodd ddod i Brifysgol Aberystwyth er mwyn gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i gael cyfle i fyw bywyd yn y Gymraeg fel myfyriwr. Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr mae wedi bod yn weithgar iawn yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg fel Swyddog y Gymraeg ar gyfer Cymdeithas Gerdded ‘Aberhike’ y Brifysgol yn ogystal â chynorthwyo UMCA i gynnal sesiynau sgwrs a phaned ar gyfer myfyrwyr sy’n dysgu’r Gymraeg yn wythnosol. Wedi iddo gwblhau ei gwrs, mae Cai yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduriaeth neu wleidyddiaeth.
Yr Athro Elizabeth Treasure (Gwobr Arbennig y Panel): Daeth Elizabeth Treasure i Brifysgol Aberystwyth yn Is-Ganghellor ym mis Ebrill 2017. Yn ystod ei chyfnod fel Is-ganghellor mae wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi bod yn flaenllaw yn ysgogi ac yn annog datblygiad a defnydd o’r Gymraeg gan sicrhau ei bod yn rhan ganolog o Gynllun Strategol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyrsiau newydd megis y Cwrs Milfeddygol a’r Cwrs Nyrsio sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r buddsoddiad sylweddol i atgyweirio Neuadd Pantycelyn sydd wedi galluogi i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr ddechrau ar bennod newydd gyffrous yn hanes y neuadd breswyl Gymreig eiconig.
Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig
Yn ogystal â dyfarnu’r gwobrau uchod, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r myfyrwyr Gareth Tuen Griffiths, Adran Ffiseg, Lowri Bebb, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac i’r aelodau o staff Chris Stewart, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Colin Nosworthy, Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus a Julie Roberts Adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.
26.09.2023 Tystysgrif Sgiliau Iaith
Os hoffech chi wella, neu atgyfnerthu eich sgiliau Cymraeg (ac ennill cymhwyster defnyddiol iawn wrth wneud) mae gennych tan 8 Tachwedd 2023 i gofrestru ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r cwrs yn un rhad ac am ddim, ac mae’r amserlen ddysgu yn un hyblyg, ac yn cynnig sesiynau rhithiol neu wyneb-yn-wyneb. Caiff y sesiynau eu dysgu gan Adran y Gymraeg y Brifysgol. Cysylltwch â sgiliau@aber.ac.uk am fwy o fanylion, neu cofrestrwch arlein yma.
12.09.2023 Sesiynau Sgwrsio Cymraeg am ddim ar gyfer Staff
Os ydych chi yn dysgu Cymraeg ac os oes diddordeb gyda chi mewn mynychu Sesiwn Sgwrsio i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg mae’r canlynol ar gael i chi:
Canolfan y Celfyddydau (bar top) – pob lefel
1 – 1.30 bob yn ail ddydd Iau yn dechrau 28/9
Cinio Cymraeg yn y Neuadd Fwyd – pob lefel
12.30 dydd Mercher bob 3 wythnos yn dechrau ar 13 Medi.
Zoom – lefel Sylfaen 2/Canolradd
11.30 – 12 dydd Mercher (dechrau 13/9)
Cysylltwch gydag Olwen Morus (olm25@aber.ac.uk) i dderbyn y ddolen.
Zoom – lefel Mynediad 2 / Sylfaen 1
1.30-2 – dydd Mawrth (dechrau 12/9)
Cysylltwch gydag Olwen Morus (olm25@aber.ac.uk) i dderbyn y ddolen.
Zoom – lefel Mynediad 1
12-12.30 dydd Mercher (dechrau 13/9)
Cysylltwch gydag Olwen Morus (olm25@aber.ac.uk) i dderbyn y ddolen.
30.08.2023 Darlith 150 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Darlith 150 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Yr Athro Michael Cronin, Coleg y Drindod, Dulyn
Dyddiad: 06/09/23
Amser: 16:30-17:30
Lleoliad: Stiwdio, Canolfan y Celfyddydau
Deiliad cadair enwog ‘1776’ ac Athro Ffrangeg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yw Michael Cronin. Mae’n awdur dros ddwsin o lyfrau a thros 150 o erthyglau a phenodau mewn cyhoeddiadau ysgolheigaidd. Cyfieithwyd ei waith i dros 15 o ieithoedd, ac ymhlith ei ddiddordebau ymchwil helaeth, ceir cyfieithu a theori cyfieithu, llenyddiaeth teithio ac eco-feirniadaeth.
Fel siaradwr Gwyddeleg mae wedi ymddiddori yn y cysylltiad rhwng yr amgylchfyd ac ieithoedd lleiafrifol. Yn ei lyfr dwyieithog An Ghaeilge agus an Éiceolaíocht/ Irish and Ecology (2019), mae’n hawlio mai cwestiwn ecolegol yw’r cwestiwn iaith yn ei hanfod.
Yn y ddarlith hon bydd yn trafod pwysigrwydd ieithoedd fel y Gymraeg a’r Gwyddeleg a’r berthynas rhwng ieithoedd a’i gilydd o ran y dyfodol.
Dyma gyfle arbennig iawn i gael croesawu’r Athro Cronin i Gymru a chlywed ei ddysgeidiaeth a’i holi.
Am fanylion pellach, cysylltwch â ccgc@aber.ac.uk
1.08.2023 Cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd i staff yn dechrau ym mis Medi 2023
Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg? Bydd nifer o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ym mis Medi. Gweler manylion y cyrsiau isod:
Cymraeg Gwaith +
Oes diddordeb gyda chi mewn gallu darlithio neu gynnal seminarau neu farcio drwy gyfrwng y Gymraeg? Ydych chi’n siarad Cymraeg ar lefel Uwch +? Mae’r cwrs o fis Medi ’23 tan fis Gorffennaf ’24 ar gyfer staff sy’n dysgu i’w galluogi i godi hyder a gwella patrymau iaith er mwyn gallu darlithio neu gynnal seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi ’24 ymlaen. Bydd hi’n bosib teilwra’r cwrs i’ch anghenion chi.
Cwrs Codi Hyder
Ydych chi wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol ond heb ei defnyddio yn ddiweddar? Oes gyda chi rhywfaint o Gymraeg yn barod ond heb yr hyder i’w defnyddio yn y gwaith, mae cwrs newydd wythnosol ‘Codi Hyder’ yn dechrau ym mis Medi ar gyfer staff. Bydd y sesiynau dros Zoom rhwng 1-2pm ar ddydd Llun a dydd Gwener.
Cwrs Dwys Lefel Mynediad 1
Bydd cwrs dwys 60 awr yn cael ei gynnig i staff sy’n ddechreuwyr o 4 – 8 Medi a'r 8 -12 Ionawr. Bydd y dosbarth dros Zoom rhwng 9.30-4.30 gyda digon o egwyl yn ystod y dydd. Mae’n gyfle gwych i chi ddechrau ar y siwrne dysgu Cymraeg neu os nag ydych chi yn gallu mynychu gwersi wythnosol. Noder hefyd mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y cwrs felly cysylltwch cyn gynted â phosib os am gofrestru ar y cwrs.
Mae’r cyrsiau am ddim. Gofynnir i bob aelod staff holi caniatâd eu rheolwr llinell cyn cofrestru. Noder mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Am fanylion pellach ynglŷn â’r cyrsiau cysylltwch gydag Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk
14.07.2023 Cyfle i gofrestru gyda chynllun Cymraeg Gwaith+ yn cychwyn fis Medi 2023
Oes diddordeb gyda chi mewn gallu darlithio, cynnal seminarau neu farcio drwy gyfrwng y Gymraeg? Ydych chi’n siarad Cymraeg ar lefel Uwch +?
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu cynllun Cymraeg Gwaith+ ar gyfer staff addysgu.
Bwriad y cynllun yw codi hyder a gwella patrymau iaith staff addysgu i’w galluogi i ddarlithio neu gynnal seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi 2024 ymlaen.
Mae’r cwrs o fis Medi 2023 tan fis Gorffennaf 2024 a bydd wedi’i deilwra i’ch anghenion chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y cynllun neu am fwy o fanylion, cysylltwch gydag Olwen Morus, olm25@aber.ac.uk
Nifer cyfyngedig o lefydd fydd ar gael ar y cynllun, felly os oes diddordeb gyda chi, ewch ati i gysylltu a chofrestru cyn gynted ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda.
13.07.2023 Cwrs Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gweithle (EFAW) ar gyfer staff (21 Medi 2023)
Mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd bellach yn cynnig y cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhelir y cwrs ar 21 Medi 2023.
E-bostiwch hasstaff@aber.ac.uk i archebu lle.
6.07.2023 Ar Gered: Llyn Craigypistyll Taith Gerdded Gymraeg i Bawb 15.07.2023
Ymunwch â grŵp cerdded Cered Ar Gered am daith 8km i darddiad yr afon Leri a mwy.
Darganfyddwch lynnoedd cudd Ceredigion mewn grŵp Cymraeg sy’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob gallu.
Cyfarfod am: 10yb Dydd Sadwrn 15fed Gorffennaf ym maes parcio Llyn Pendam.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: steffan.rees@ceredigion.gov.uk
1.03.2023 Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Hybu'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023
Mae'r ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023 bellach ar agor!
Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, ac i ddathlu ethos dwyieithog y Brifysgol.
Ceir dwy wobr i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol:
- Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (i fyfyriwr sydd wedi dangos ymrwymiad neilltuol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg)
- Gwobr Pencampwr y Gymraeg (i fyfyriwr sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymraeg yn y Brifysgol a/neu’r gymuned leol).
Ceir hefyd dwy wobr i staff yn y categorïau canlynol:
- Dysgwr Disglair (i aelod o staff sydd yn dysgu’r Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle)
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (i aelod o staff, sy’n siarad Cymraeg neu’n ddi-gymraeg, sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle)
Y dyddiad cau yw 31 Mawrth a cynhelir y gwobrau ym mis Hydref 2023.
Os ydych yn adnabod aelod o staff neu fyfyriwr sy’n addas ar gyfer un o’r gwobrau uchod, cofiwch eu henwebu.
Ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023
15.02.2023 Cwrs Dysgu Cymraeg am ddim ar gyfer Staff
Cwrs Byr Codi Hyder i Ddefnyddio’r Gymraeg
Oes gennych chi ychydig o Gymraeg, ond heb yr hyder i'w defnyddio? Mae tîm Dysgu Cymraeg wedi trefnu Cwrs byr 5 wythnos i roi hwb i’ch sgiliau a’ch hyder. Rhagwelir y bydd cwrs ar lefel Sylfaen ond bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer lefel iaith y dosbarth. Bydd y cwrs dros Zoom ar ddydd Llun (1-2pm) gan ddechrau ar 27 Chwefror. Mae’r cwrs am ddim. Gofynnir i bob aelod staff holi caniatâd rheolwr llinell cyn cofrestru. Am fanylion pellach cysylltwch gydag Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk
Cliciwch y ddolen i gofrestru: Cwrs Sylfaen Rhan 1
15.02.2023 Asesiadau yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (Semester 2 2022-23)
Asesiadau yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (Semester 2 2022-23)
Mae gan bob myfyriwr hawl i gyflwyno gwaith ysgrifenedig a sefyll arholiad yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (ac eithrio modiwlau lle mae'r iaith yn cael ei hasesu).
Os yw asesiadau eich adran sydd ar amserlen y Brifysgol ym mis Mai a mis Mehefin 2023 yn cynnwys:
- arholiad ffurfiol
- asesiad ar-lein sydd â chyfnod cyflwyno cyfyngedig (3 diwrnod neu lai)
Cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk erbyn 17 Mawrth 2023 os hoffech dderbyn papur arholiad yn Gymraeg ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg yn Semester 2. Nodwch y manylion canlynol:
- eich enw
- eich adran
- teitl a chyfeirnod y modiwl
Does dim angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu sefyll arholiad yn Saesneg ar fodiwl cyfrwng Saesneg. Byddwch chi’n derbyn y papur yn Saesneg yn awtomatig. Hefyd, nid oes raid i chi roi gwybod inni o flaen llaw os ydych yn dymuno cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg ar fodiwl cyfrwng Saesneg.
24.06.22 Lansio Sesiynau Sgwrsio Cymraeg ar gyfer Staff
Dewch draw i Far y Theatr, yng Nghanolfan y Celfyddydau ddydd Gwener, 24 Mehefin am 12.30 i glywed mwy am y sesiynau sgwrsio ar gyfer pob lefel Cymraeg sydd wedi cael eu trefnu gan Dîm Dysgu Cymraeg. Bydd pecyn o nwyddau ar gael am ddim i bawb sy’n galw heibio! Am fwy o fanylion cysylltwch gydag Olwen: olm25@aber.ac.uk, neu ewch i'r wefan: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/
01.04.2022 Cyrsiau Dysgu Cymraeg
Cyrsiau Dysgu Cymraeg
Cyrsiau Cymraeg Gwaith yn dechrau fis Mai
Awydd datblygu eich sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y gweithle? Bydd dosbarthiadau Cymraeg Gwaith yn cael eu cynnal o ddechrau Mai hyd ddiwedd Mawrth 2023.
Bydd y cyrsiau hyn ar amrywiaeth o lefelau o ddechreuwyr hyd lefel Uwch 1 yn cael eu cynnal ar Zoom gyda chyfleoedd i gwrdd wyneb yn wyneb ar y campws ar adegau. Bydd cyrsiau hunan-astudio ar-lein hefyd ar lefel Mynediad a Sylfaen.
Diddordeb?
Os oes diddordeb gennych gofrestru neu drafod cyrsiau posib arall, galwch heibio stondin Dysgu Cymraeg ddydd Iau, 5 Mai (11.45-13.30) yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neu cysylltwch ag Olwen Morus – olm25@aber.ac.uk
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Dysgu Cymraeg
Bydd angen i chi gael caniatâd rheolwr llinell cyn cofrestru.
Ariennir y cyrsiau Cymraeg Gwaith gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac maen nhw’n rhad ac am ddim.
Cwrs Haf Dwys
Cofiwch hefyd am y Cwrs Haf Dwys, 1-26 Awst 2022. Cynhelir dosbarthiadau ar bob lefel fydd yn cael eu cynnal dros Zoom.
Bydd y cwrs yn llenwi’n gyflym, felly os oes diddordeb gyda chi, ewch ati i gofrestru cyn gynted ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru yma.
Cwrs Cymraeg Proffesiynol
Yn ogystal, cynhelir Cwrs Cymraeg Proffesiynol am un wythnos ar 8-12 Awst 2022 – cyfle da i siaradwyr rhugl i ymarfer a gwella eu Cymraeg ar gyfer sefyllfaoedd proffesiynol.
Gallwch chi gofrestru am 4 wythnos o ddysgu dwys, neu hanner cyntaf neu hanner olaf y cwrs. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw’r 24 Mehefin 2022.
Bydd y Brifysgol yn barod i dalu’r ffi drosoch. Anfonwch neges at dysgucymraeg@aber.ac.uk am ragor o fanylion.
01.03.22 Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Hybu'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2022
Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, ac i ymhyfrydu yn ethos dwyieithog y Brifysgol.
Ceir dwy wobr i staff yn y categorïau canlynol:
- Dysgwr Disglair (i aelod o staff sydd yn dysgu’r Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle)
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (i aelod o staff, sy’n siarad Cymraeg neu’n ddi-gymraeg, sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle)
Ceir dwy wobr hefyd i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol:
- Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (i fyfyriwr sydd wedi dangos ymrwymiad neilltuol i astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg)
- Gwobr Pencampwr y Gymraeg (i fyfyriwr sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymraeg yn y Brifysgol a/neu’r gymuned leol).
Y dyddiad cau yw 31 Mawrth a cheir ffurflen enwebu ar dudalen gwe Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, gweler y ddolen isod.
https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/welsh-language-awards/ffurflen-enwebu/
Os ydych yn adnabod aelod o staff neu fyfyriwr sy’n addas ar gyfer un o’r gwobrau uchod, cofiwch eu henwebu.
22.02.22 Hyfforddiant Deall Gofynion Safonau'r Gymraeg
22.02.22 Hyfforddiant Deall Gofynion Safonau’r Gymraeg
Bydd y Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn cynnal sesiwn hyfforddiant byr ‘Deall Gofynion Safonau’r Gymraeg’. Cynhelir y sesiwn hyfforddi 60 munud dros Microsoft Teams.
Mae croeso i holl staff ond yn arbennig aelodau newydd o staff, staff sy’n gyfrifol am wasanaethau rheng flaen, neu unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb yn y maes.
Cynhelir y sesiwn cyfrwng Cymraeg am 9:30am a’r sesiwn cyfrwng Saesneg am 11.30am. Cynhelir yr hyfforddiant ar y dyddiau canlynol:
- 28 Chwefror 2022
- 4 Mai 2022
- 12 Gorffennaf 2022
Cofrestrwch yma Sesiynau DPP (aber.ac.uk)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk neu ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/
07.12.21 Diwrnod Hawliau'r Gymraeg
07.12.21 Diwrnod Hawliau’r Gymraeg
Ddydd Mawrth nesa’, 7 Rhagfyr bydd y Brifysgol yn ymuno â sefydliadau ar draws Cymru i gefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg.
Galwch heibio i'r stondin wybodaeth yn Nerbynfa IBERS, Campws Penglais rhwng 10.30am a 2.30pm am sgwrs ac i holi unrhyw gwestiynau. Bydd taflenni gwybodaeth ar gael yn Nhamed Da yn ystod y dydd.
Bydd y Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg hefyd yn cynnal sesiwn hyfforddiant byr ‘Deall Gofynion Safonau’r Gymraeg’.
Mae croeso i holl staff ond yn arbennig aelodau newydd o staff, staff sy’n gyfrifol am wasanaethau rheng flaen, neu unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb yn y maes.
Cynhelir y sesiwn cyfrwng Cymraeg am 9:45am a’r sesiwn cyfrwng Saesneg am 11am. Cofrestrwch yma https://stafftraining.aber.ac.uk
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk neu ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/
01.11.21 Neges Bwysig i Fyfyrwyr
1.11.21 Neges Bwysig i Fyfyrwyr - Papurau arholiad yn Gymraeg (Modiwlau cyfrwng Saesneg)
Mae gan bob myfyriwr hawl i gyflwyno gwaith ysgrifenedig a sefyll arholiad yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (ac eithrio modiwlau lle mae'r iaith yn cael ei hasesu).
Eleni mae gan nifer o adrannau drefniadau asesu amgen. Os yw eich modiwl Semester 1 yn cynnwys:
- arholiad ffurfiol
- arholiad ar-lein sydd â chyfnod cyflwyno cyfyngedig (3 diwrnod neu lai)
Cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk erbyn 8 Tachwedd 2021 os hoffech dderbyn papur arholiad yn Gymraeg ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg yn Semester 1. Nodwch y manylion canlynol:
- Eich Enw
- Eich Adran
- Teitl a chyfeirnod y modiwl
Does dim angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu sefyll arholiad yn Saesneg ar fodiwl cyfrwng Saesneg. Byddwch chi’n derbyn y papur yn Saesneg yn awtomatig. Hefyd, nid oes raid i chi roi gwybod inni o flaen llaw os ydych yn dymuno cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg ar fodiwl cyfrwng Saesneg.
20.10.21 Gwobrau Hybu'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2021
Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg.
Cyhoeddwyd mai enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am 2021 yw Kate Wright, Annette Edwards, Llŷr Tomos ac Elen Roach ar ôl iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol.
Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, dewiswyd y pedwar enillydd ar gyfer y gwobrau canlynol:
- Dysgwr Disglair (Staff) – Kate Wright
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Annette Edwards
- Astudio trwy’r Gymraeg - Llŷr Tomos
- Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Elen Roach
Bydd pob un o’r enillwyr yn derbyn englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood neu gan y Darlithydd Eurig Salisbury, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.
04.10.21 Arolwg Defnydd Iaith
Arolwg Defnydd Iaith Staff Prifysgol Aberystwyth 2021
CYFLE I ENNILL TALEB £30 I GANOLFAN Y CELFYDDYDAU
Mae arnom angen eich adborth a’ch syniadau! Mae eich llais yn bwysig.
Rwy’n ysgrifennu atoch i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein sy’n mesur y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Fel sefydliad dwyieithog, rydym yn awyddus i gefnogi staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Credwn fod hyn yn llesol nid yn unig o safbwynt gweithgareddau mewnol ond hefyd er mwyn cynnig profiad cadarnhaol i staff, myfyrwyr a’r gymuned yn ehangach.
Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi darlun defnyddiol o’r arferion iaith ar hyn o bryd, ac yn sail ar gyfer gweithgareddau i hwyluso a hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac i ganfod anghenion hyfforddi a chyfleoedd datblygu.
Mae'r holiadur yn agored i bawb, yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, a bydd eich atebion yn gwbl ddienw.
Dylai’r arolwg gymryd tua 5-10 munud i’w gwblhau. Cliciwch ar y ddolen isod i gwblhau’r arolwg erbyn 30 Hydref 2021.
Ar ôl cwblhau’r arolwg bydd cyfle i chi ennill gwobr, sef taleb sy’n werth £30 i’w gwario yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Gan ddiolch ymlaen llaw i chi am fod yn barod i gymryd rhan.