Myfyrwyr
- Dylai gohebiaeth i grŵp o fyfyrwyr fod yn ddwyieithog. Ceir wybodaeth bellach o ran cyfathrebu â myfyrwyr a’r cyhoedd yn unol â gofynion y safonau yn y canllaw ‘gohebiaeth’.
- Dylid ymateb i ohebiaeth gan fyfyrwyr yn yr un iaith (e.e. yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog)
- O ran gohebu gyda myfyrwyr unigol, ceir gofnod o ddewis iaith myfyrwyr ar y gronfa ddata AStRA ac ar gofnod myfyriwr bob myfyriwr o dan ‘Manylion Personol (studentrecord.aber.ac.uk). Noder nad oes angen i ohebiaeth sy’n ymwneud â chynnwys academaidd, e.e. cynnwys modiwl penodol, fod yn ddwyieithog/Gymraeg oni bai fod y modiwl yn un cyfrwng Cymraeg neu’n ddwyieithog.
- Lle nad yw cofnod dewis iaith y derbynnydd yn hysbys (e.e. darpar fyfyrwyr/ myfyrwyr / cyhoedd) dylid anfon yr ohebiaeth gychwynnol yn ddwyieithog.
Staff
- Dylai gohebiaeth i grŵp o staff (e.e. e-bost gan Wasanaeth i staff, e-byst i holl staff, e-bost gan Bennaeth i’w adran) fod yn ddwyieithog yn unol â gofynion Polisi Defnydd Mewnol ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol.
- O ran gohebu gyda staff unigol, dylai staff nodi eu dewis iaith ar Pobl Aber – ceir ganllawiau yma. Bydd staff yna’n derbyn gohebiaeth sy’n ymwneud â’u cyflogaeth (e.e. gan Adnoddau Dynol) yn yr iaith honno. Lle bo dewis iaith derbynnydd unigol (aelod o staff) yn hysbys mae’n arfer da i anfon yr ohebiaeth yn yr iaith honno.
- Er mwyn hwyluso defnydd y Gymraeg yn fewnol mae bellach modd i staff gynnwys ‘nodyn’ (MailTip) ar eu proffiliau Outlook i nodi eu bod yn siarad Cymraeg neu’n siarad rhywfaint o Gymraeg. Bydd modd felly i staff mewnol eraill weld os yw’r derbynnydd yn siarad Cymraeg cyn e-bostio. Ceir wybodaeth bellach o ran sut i ychwanegu’r nodyn isod ar eich proffil Outlook ar dudalennau Gwasanaethau Gwybodaeth (FAQ).
“Rwy’n siarad Cymraeg / I speak Welsh”
(neu)
“Rwy’n siarad rhywfaint o Gymraeg / I speak some Welsh”
Y Cyhoedd
Dylai gohebiaeth i grŵp o bobl (y cyhoedd) fod yn ddwyieithog. Ceir wybodaeth bellach o ran cyfathrebu â’r cyhoedd yn unol â gofynion y safonau yn y canllaw ‘gohebiaeth’.
- Dylid ymateb i ohebiaeth gan y cyhoedd yn yr un iaith (e.e. yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog)
- Lle nad yw dewis iaith y derbynnydd yn hysbys dylid anfon yr ohebiaeth gychwynnol yn ddwyieithog ar gyfer derbynwyr yng Nghymru.
- Nid yw gofynion Safonau’r Gymraeg (gohebiaeth) yn berthnasol i waith ymchwil (e.e. gohebiaeth rhwng staff academaidd mewn sefydliadau gwahanol).