Cefnogaeth i astudio yn Gymraeg: Sgiliau academaidd, iaith a chyflogadwyedd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o’r prif ddarparwyr ym maes Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg ac mae’r rhan fwyaf o’r adrannau academaidd yn cynnig modiwlau sy’n cael eu dysgu yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Rydyn ni’n croesawi myfyrwyr o bob cefndir i ddysgu drwy’r Gymraeg gyda ni. I’r rhai sy’n teimlo y bydden nhw’n elwa o gael cefnogaeth i astudio drwy’r Gymraeg, gloywi eu Cymraeg neu ddatblygu eu sgiliau i’r gweithle dwyieithog, mae nifer o opsiynau.
Modiwlau
Modiwlau sgiliau agored cyfrwng Cymraeg
Mae’r Brifysgol wedi datblygu modiwlau sy’n darparu 20 credyd cyfrwng Cymraeg y flwyddyn sy’n agored i unrhyw fyfyrwyr israddedig (yn amodol ar reolau eu cynllun gradd). Maent yn addas i fyfyrwyr ar gynlluniau gradd gyda darpariaeth Gymraeg gyfyngedig neu fyfyrwyr eisiau datblygu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu hastudiaethau a/neu'r byd gwaith.
CY11020 Ymwneud a’ch pwnc yn Gymraeg
Dyma fodiwl blwyddyn 1 i fyfyrwyr sydd eisiau magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y brifysgol a pharatoi at ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’n cynnwys sesiynau sy’n cefnogi myfyrwyr i astudio eu pwnc yn Gymraeg a sesiynau cefnogaeth ieithyddol sy’n paratoi myfyrwyr at y Dystysgrif Sgiliau Iaith.
YD10010 Sgiliau i'r Gweithle Dwyieithog 1 a YD10210 Sgiliau i’r Gweithle Dwyieithog 2 (modiwlau Dysgu Gydol Oes)
Barod i droi eich Cymraeg yn sgil broffesiynol?
Dyma ddau fodiwl 10 credyd Dysgu Gydol Oes sydd ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Byddwch chi'n ennill credydau yn ychwanegol at eich gradd ac mae'r modiwlau ar gael i fyfyrwyr ar unrhyw lefel ac unrhyw flwyddyn. Gallwch astudio un modiwl neu'r ddau.
Mae'r modiwlau yn canolbwyntio ar ddeg sgil sy'n bwysig i'r gweithle ac yn eich helpu chi i adnabod sut ydych chi'n eu datblygu drwy eich astudiaethau yn y brifysgol a gweithgareddau a phrofiadau eraill.
Cewch ddarpariaeth hyblyg, rhwng gweithdai a gweithgareddau yn gymysgedd o rai ar-lein i fyfyrwyr eu gwneud yn eich amser eich hunain, rhai byw ar Teams, rhai wyneb yn wyneb a rhai hybrid.
Modiwlau gloywi iaith Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Mae nifer o fodiwlau ar gael i helpu myfyrwyr y tu allan i'r adran godi hyder ar draws ysgrifennu, cyfathrebu a defnyddio’r Gymraeg ar lafar. Mae rhai'n addas i fyfyrwyr sydd wedi mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg ac eraill i fyfyrwyr sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol.
Cefnogaeth ieithyddol bellach
Am restr lawn o’r cyfleoedd i wella eich sgiliau Cymraeg o fewn y Brifysgol, gweler SgiliauAber.
Cefnogaeth gydag astudio ac aseiniadau
Mae cymorth a chyngor un-wrth-un drwy’r Gymraeg ar ddefnyddio’r llyfrgelloedd, dod o hyd i ddeunydd ar gyfer aseiniadau, cyfeirnodi a mwy ar gael drwy’r llyfrgellwyr pwnc.
Cefnogaeth ysgrifennu yn Gymraeg gyda’r tiwtor sgiliau cyfrwng Cymraeg
Mae Dr Tamsin Davies, Tiwtor Sgiliau Academaidd Cyfrwng Cymraeg, yn darparu cymorth 1:1 ar ysgrifennu academaidd yn Gymraeg ar gyfer traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, traethodau hir a mwy.
Mae hwb datblygu sgiliau’r Brifysgol, SgiliauAber, yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i helpu myfyrwyr i astudio drwy'r Gymraeg. Mae Pytiau Parod yn gyfres o weithdai ar ffurf fideos byrion sy'n darparu cefnogaeth ar y pynciau ganlynol:
Hysbysebir gweithdai byw cyfrwng Cymraeg ar ysgrifennu yn Gymraeg, sgiliau academaidd a sgiliau cyflogadwyedd ar SgiliauAber hefyd. Tanysgrifiwch i dderbyn e-bost wythnosol am y gweithdai hyn. Mae'r deunyddiau'r gweithdai ar gael ar Blackboard.
Yn ogystal ceir ystod o adnoddau ar-lein cyfrwng Cymraeg ar sgiliau megis cyfeirnodi, deallusrwydd artiffisial, mathemateg, ysgrifennu ar gyfer aseiniadau, sgiliau digidol a sgiliau gwybodaeth.
Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau i’r gweithle
Modiwlau adrannol
Mae nifer o adrannau yn cynnig modiwl cyfrwng Cymraeg sy’n datblygu sgiliau cyflogadwyedd yng nghyd-destun y pwnc. Mae nhw’n ymdrin â sgiliau megis llunio CV, gwneud cyflwyniad llafar, cyfathrebu a gwaith tîm. Gwiriwch gyda’ch adran i ddarganfod pa fodiwlau sydd ar gael yn eich pwnc.
CY35600 Y Gymraeg yn y Gweithle
I fyfyrwyr gyda diddordeb yn y Gymraeg fel maes proffesiynol, ac mewn gweinyddu drwy’r Gymraeg yng nghyd-destun gofynion deddfwriaeth yr iaith yn benodol, awgrymir CY35600 Y Gymraeg yn y Gweithle, sy’n ymdrin â materion megis cyfieithu, gweithredu Safonau’r Gymraeg / Cynllun Iaith, dysgu Cymraeg i oedolion, golygu a phrawf-ddarllen testun print, ynghyd â sgiliau mwy cyffredinol a lleoliad gwaith. Gwiriwch â’ch adran i weld a oes modd ichi gofrestru ar y modiwl.
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
DG31020 Sgiliau cyflogadwyedd ar waith
Dyma fodiwl blwyddyn 3 a redir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd sy’n cynnwys lleoliad profiad gwaith mewn sefydliad masnachol, llywodraeth, awdurdod lleol neu elusennol ynghyd â seminarau cyflogadwyedd a seminarau cefnogaeth iaith. Anelir at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn defnyddio eu sgiliau dwyieithog yn gweithle heb o anghenraid eisiau gweithio ym maes Cymraeg proffesiynol. Gwiriwch â’ch adran i weld a oes modd ichi gofrestru ar y modiwl.
Mae Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol yn darparu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr blwyddyn olaf ar draws adrannau a gwasanaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i ddatblygu a defnyddio eich sgiliau dwyieithog.
Ewch i borth y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, gyrfaoeddABER i wneud apwyntiau 1:1 i gael cyngor ar eich gyrfa drwy’r Gymraeg, i archebu lle ar weithdai gyrfaoedd cyfrwng Cymraeg ac i gofrestru ar gyfer digwyddiadau gyda chyflogwyr. Cewch hefyd archebu lle ar weithdai y Gwasanaeth Gyrfaoedd drwy SgiliauAber.
