Cyfieithu a Chefnogi

Mae’r Ganolfan yn cynnig gwasanaeth cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd. Rydym yn awyddus hefyd i annog a chefnogi staff sy’n medru’r Gymraeg i ysgrifennu’n Gymraeg ac i anfon unrhyw waith yr hoffent gyngor yn ei gylch i’w ddarllen gan ein cyfieithwyr profiadol. Gallwn ddarparu cefnogaeth ieithyddol arall drwy gyfrwng gweithdai a sesiynau dysgu/gloywi byr i siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr yn ogystal.