Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn ffynnu wrth i’r Brifysgol fuddsoddi’n fewnol ynddi, a manteisio i’r eithaf ar y cynlluniau cenedlaethol a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg. Sefydliad cenedlaethol yw'r Coleg Cymraeg sy'n chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Mae gan y Coleg ganghennau ymhob un o brifysgolion Cymru lle cynigir darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, lleolir y Gangen o dan adain Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg.

Pwyllgor Cangen y Brifysgol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwaith Pwyllgor y Gangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw arolygu a datblygu darpariaethau academaidd a geir yn Aberystwyth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Pwyllgor yn monitro ac yn adolygu'n flynyddol y ddarpariaeth a geir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn adrodd am faterion cynllunio ac adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg i gyrff cynllunio'r Brifysgol, a thrwyddynt hwy, i'r Cyngor.

Aelodau:

  • pob aelod o'r staff sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu
  • staff academaidd perthynol sy'n cefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg
  • deiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • cynrychiolwyr y myfyrwyr gan gynnwys Llywydd UMCA

Cadeirydd: Jonathan Fry

Is-gadeirydd: Annette Edwards

Ysgrifennydd: Dr Tamsin Davies, Swyddog Cangen / Sharon Owen, Swyddog Cangen

colegcymraeg@aber.ac.uk

Gweithgareddau

Trefnir brecinio Sul yn ystod Wythnos y Glas i fyfyrwyr newydd sy’n medru’r Gymraeg er mwyn rhoi gwybod iddynt am y dewis sydd ar gael a rhoi cyfle iddynt gwrdd â staff sy’n dysgu’n Gymraeg.