Yr Athro Emeritws Alan Robinson (1920 - 2019)

 

Yn wreiddiol o Southampton, treuliodd Alan 27 mlynedd o’i fywyd yn Aberystwyth. Taniwyd ei gariad at Aber pan gafodd ei fudo gyda myfyrwyr eraill o Goleg Prifysgol Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd i astudio Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Almaeneg yn 1944.

Ar ôl cyfnod yn dysgu yn ysgolion Merchant Taylors a Haberdashers yn Llundain a blwyddyn gydag adran Almaenig y Swyddfa Dramor, treuliodd ddwy flynedd ym Mhrifysgol Caeredin, gan gwblhau ei ddoethuriaeth yn 1950.

Yr un flwyddyn, roedd wrth ei fodd pan benodwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth dan arweiniad yr Athro David Evans (y cyfeiriwyd ato’n annwyl gan ei staff fel ‘Dai Deutsch’). Rhwng 1952 a 1967 bu’n ddarlithydd amser llawn mewn Almaeneg ac roedd hefyd yn dysgu Swedeg. Ei brif ddiddordebau academaidd oedd llenyddiaeth Almaeneg y 19eg ganrif, ac roedd y rhan fwyaf o’r gwaith a gyhoeddodd yn ymwneud â’r awdur cymdeithasol, Theodor Fontane.  Roedd yn awyddus iawn i sicrhau bod testunau o’r cyfnod hwn ar gael i fyfyrwyr ysgol ac felly fe olygodd sawl un o weithiau Fontane, a gafodd eu cynnwys wedi hynny ar feysydd llafur Safon Uwch am sawl blwyddyn.

Yn ystod y blynyddoedd hyn, yn ogystal ag ymchwilio a dysgu, roedd yn Warden neuaddau Ceredigion a Phlynlimon ac yn arholwr Cyd-bwyllgor Addysg Cymru.

Yn 1967 symudodd i Ganada ar ôl cael ei benodi i’r Gadair Almaeneg ym Mhrifysgol Guelph, Ontario. Ni chollodd gysylltiad ag Aber, fodd bynnag, gan iddo dreulio misoedd yr haf yno bob blwyddyn tan, yn 1971, dychwelodd yn barhaol yn Athro Almaeneg a Phennaeth yr adran Almaeneg, Swedeg a Rwseg. Arhosodd yn y swydd hon tan iddo ymddeol yn 1979. Yn ystod y blynyddoedd hyn, ysgrifennodd ar weithiau’r awdur o’r 20fed ganrif, Albrecht Goes, a datblygodd ei waith ymchwil ar Theodor Fontane, gan gyhoeddi llyfr am yr awdur a’i waith yn 1976.

Ar ôl ymddeol, dychwelodd Alan i dde Lloegr, lle mwynhaodd ymddeoliad hir a hapus gan fwrw ymlaen, gyda’i bartner, Margaret, â’i ddiddordebau mewn cadwraeth, cerdded ar hyd yr arfordir ac yng nghefn gwlad, a theithio.

Bu farw ar Awst 29ain 2019 yn 99 oed.