Yr Athro Dafydd Jenkins (1911-20120)

Bu farw’r Athro Dafydd Jenkins yn 101 oed ar Fai 6ed.  Y mae marwolaeth Dafydd yn nodi diwedd oes un o Gymry  mwyaf amryddawn yr ugeinfed ganrif.  Fe’i ganed yn Llundain (yn ddaroganol efallai) ar Ŵyl Ddewi yn 1911, yn fab i rieni a oedd â’u gwreiddiau yng Ngheredigion. Magwraeth anghydffurfiol Cymry Llundain a gafodd - roedd ei dad yn Ysgrifennydd Capel Jewin.  Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Merchant Taylor ac aeth oddi yno ar ysgoloriaeth yn y gwyddorau i Goleg Sidney Sussex, lle y newidiodd at y Gyfraith ar gyfer ail ran ei radd.  Galwyd i’r Bar yn 1934.

Tra’r oedd o hyd yn yr ysgol cyfarfu ag Aneirin Talfan Davies a oedd yn fferyllydd yn Llundain.  Daethant yn ffrindiau mawr ac o dan ddylanwad Aneirin yn bennaf, fe ddatblygodd Dafydd yn Anglicanwr sosialaidd, yn llenor a chyhoeddwr Cymraeg (mae hanes cysodi rhifynnau cyntaf Heddiw yn fyth erbyn hyn), ac yn genedlaetholwr.  Fel canlyniad pan ddaeth yn amser iddo weithio fel bargyfreithiwr gadawodd ‘y Ddinas Ddihenydd’, chwedl yntau, ac ymunodd â Chylchdaith Cyfraith De Cymru a mynd i fyw i Gaerfyrddin.  Ymunodd hefyd â’r Blaid a’r hyn a ddaeth a Dafydd i sylw oedd yr adroddiad a ysgrifennodd ar achos ‘Yr Ysgol Fomio’ yn Tân yn Llŷn.  Yn ystod y cyfnod hwn cyfarfu a’i ddarpar wraig, Miss Gwyneth Owen, llyfrgellydd a weithiai yn y Llyfrgell Genedlaethol a ganed ymhen amser ei unig fab Rhys, sydd bellach yn Athro Economeg yn Norwich.  Bu farw Gwyneth yn 1962.

Rhoes y gorau i’w waith fel bargyfreithiwr ac erbyn 1938 ef oedd trefnydd Deiseb yr Iaith a alwodd am ddefnydd swyddogol o'r Gymraeg yn y Llysoedd Barn.  Yr oedd yn  heddychwr o ran argyhoeddiad a bu'n wrthwynebwr cydwybodol.  Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ffermiai yn Trawsnant Isaf yng Ngheredigion.  Ar ôl y Rhyfel gadawodd Dafydd y fferm a gweithiodd i’r WAOS fel trefnydd mudiadau cydweithredol i ffermwyr yng Nghymru.  Aeth hyn ag ef i gysylltiad â’r gwledydd Sgandinafaidd.  Ymwelodd  â Denmarc a Sweden -ymweliadau a roes fod i ddau lyfr taith: Ar Wib yn Nenmarc ac  Ar Wib yn Sweden.  Yn 1965 dechreuodd ddarlithio yn Adran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac o 1975 hyd ymddeol yn 1978, daliai Gadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru.

Yr oedd yn awdur tra chynhyrchiol.  Ysgrifennodd yn ddi-dor ac o dan sawl ffugenw.  Myrddin Gardi oedd ei enw pan oedd yn byw yng Nghaerfyrddin.  Enillodd Fedal Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol am Hanes y Nofel Gymraeg a chyfansoddodd lu o adroddiadau ar Amaethyddiaeth ac ar bynciau gwleidyddol ac hanesyddol.  Eithr fel y prif awdurdod ar Gyfraith Hywel y meddylir amdano fwyaf, Roedd Cyfraith Hywel yn bwnc amlwg i’r bargyfreithiwr ifanc o Bleidiwr ymddiddori ynddo yn y tridegau. Dyna wedi’r cwbl y mynegiant amlycaf a fu  erioed o genedligrwydd Cymru.  Aeth at wreiddyn y testunau gan ddechrau astudio’r llawysgrifau cyfraith.  Y mae ei olygiad o Lyfr Colan yn dal yn gampwaith oherwydd manylder y drafodaeth ar y llawysgrif ei hun ond yn bennaf oll oherwydd am y tro cyntaf y ceir dadansoddiad gan gyfreithiwr o feddyliau cyfreithwyr Cymru a weithiai saith canrif ynghynt.  Dilynodd  llu o erthyglau ar wahanol bynciau cyfraith yn ogystal â’i ddau glasur safonol: ei gyfrol, Cyfraith Hywel sy’n crynhoi prif feysydd y gyfraith,  a’i gyfieithiad:  Hywel Dda, the Law.  Y mae’r ddwy gyfrol yn ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gyfraith gynhenid Gymraeg.  Enillodd DLitt Caergrawnt am ei waith.

Trefnodd gynhadledd hanes cyfraith i Gymdeithas Hanes Cyfraith Lloegr yn Aberystwyth yn 1972.  Roedd yn ymwelydd cyson â chyfarfodydd y Deutsches Historisches Recht ar y cyfandir a gwnaeth lu o ffrindiau – roedd yn sobr o falch o’i sgiliau ieithyddol – ystyriai ei hunan yn ieithegwr manqué.  Rhoddwyd doethuriaeth er anrhydedd iddo gan Brifysgol Wurzburg.  Pan gyhoeddwyd ei Festschrift,  Lawyers and Laymen, yn 1986 roedd  mwy o bobl yn awyddus i gyfrannu i’r gyfrol nag oedd lle i’w cyfraniadau.  Bu’n Llywydd ar Seminar Cyfraith Hywel Dda am flynyddoedd, yn Athro Ynad hynaws ar y to iau a pharhaodd i gyhoeddi hyd at flwyddyn olaf ei oes.