Richard Isaac 1918-2013

Yn dawel ar fore’r 3ydd o Ionawr, 2013, bu fawr Richard Iorwerth Isaac o Aberystwyth yn Ysbyty Bronglais wedi salwch byr.

Ganwyd Richard yn 1918 ac, ar wahân i wasanaethu yn ystod y rhyfel, treuliodd ei holl fywyd yn Aberystwyth fel myfyriwr ac yna ar ôl 1945 yn gyflogedig gan Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.  Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn a derbyniodd "County Exhibition" yn 1937 i astudio Sŵoleg y CPC Aberystwyth.  Graddiodd gyda BSc yn 1940 ac yna cafodd hyfforddiant milwrol gyda'r Gwarchodlu Cymreig yn Storfa Gwarchod Barics Caterham yn Surrey.

Cafodd ei hyfforddiant mewn Sŵoleg ddefnydd da yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi iddo ymuno â Labordy Maes Malaria Rhif 7 o'r Corfflu Meddygol Milwrol Brenhinol a oedd wedi ei leoli yn Nigeria.  Roedd yr uned yn cynnwys Peter Mattingly a ddaeth yn arbenigwr byd ar systemateg a geneteg mosgitos yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain.  Roedd yr uned yn gyfrifol am ddiogelu milwyr ac awyrenwyr yr RAF mewn canolfannau hyfforddi rhag malaria cyn iddynt symud i'r Dwyrain Pell i frwydro.  Wedi hyn ymunodd ag uned batholeg mewn Ysbyty Milwrol yn Nigeria cyn dychwelyd i'r Deyrnas Gyfunol yng Ngorffennaf 1944.

Wedi iddo wasanaethu yn y rhyfel, cafodd Richard ei gyflogi fel technegydd ymchwil yn yr Uned Ymchwil Iechyd Anifeiliaid yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, yn gyntaf yn Adeiladau'r Llaethdy, Ffordd Llanbadarn ac yna ar Fferm Peithyll, Capel Dewi.  O dan gyfarwyddyd Dr Keith B Sinclair, bu'n gweithio ar heintiau afu mewn defaid a gwnaeth gyfraniadau gwerthfawr at gyfres o bapurau gwyddonol a gyhoeddwyd yn y British Veretinary Journal ac yn Research in Veterinary Science ar bathogenyddiaeth a gwrthwynebiad caffael i Fasciola hepatica.  Ymddeolodd o'i swydd fel prif dechnegydd ym mis Hydref 1981.