Andrew Guy

Yn fuan ar ôl i mi adael Aber fe ddechreuais fel Hyfforddai Rheoli Graddedig gyda Grŵp Berni Inns, sef cwmni bwytai blaenllaw y DU ar y pryd. Arweiniodd hynny at dros ddeugain mlynedd o brofiad gweithredol yn sector ciniawa achlysurol y diwydiant lletygarwch, yn gweithio i wahanol gwmnïau yn y DU, Ewrop a San Antonio, Tecsas, UDA.
Roedd hyn yn cynnwys deng mlynedd gyda City Centre Restaurants plc, sef The Restaurant Group bellach, y cwmni bwytai a ddyfynnir fwyaf yn gyhoeddus yn y DU, gyda thair o’r blynyddoedd hynny’n Brif Swyddog Gweithredol.
Rwyf i wedi bod yn Gadeirydd The Coaching Inn Group a Crepeaffaire International ac rwyf i’n dal i fod yn Gadeirydd Reco-Air Ltd sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu cyfarpar awyru ceginau arbenigol yn fyd-eang.
Rwyf i wedi bod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr prif elusen y diwydiant, Hospitality Action, ers dros 25 mlynedd a dyfarnwyd MBE i mi yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am arweinyddiaeth yn y diwydiant ac am waith elusennol. Rwyf i’n Gymrawd y Sefydliad Lletygarwch, ac yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ers 2016, lle’r wyf i’n dal i gynghori ar yr elfen gwesty a lletygarwch yn natblygiad Hen Goleg y brifysgol.
Wrth edrych yn ôl mae hyn i gyd wedi golygu llawer o waith caled, ond cyfnodau da hefyd, ac rwyf i’n ffodus o fod wedi cyfarfod â phobl ryfeddol.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich cyfnod yn Aber?

Tyfu mewn hyder a hunanddibyniaeth, ar ôl gadael cartref am y tro cyntaf, a chynllunio fy astudiaethau mewn ffordd gwbl wahanol i’r ysgol.
Er mai ar hap yn hytrach na thrwy reswm y des i ar ei draws, astudiais bwnc roeddwn yn ei werthfawrogi ac yn ei fwynhau. Fe’m cyflwynodd i wleidyddiaeth a hanes yr UD, maes rwyf i wedi parhau i’w ddarllen a’i ddilyn drwy gydol fy mywyd, yn enwedig cyfnod y Rhyfel Cartref.
Chwarae hoci i’r Brifysgol a dysgu coginio mewn fflat roeddwn i’n ei rannu gyda naw llanc arall. Nosweithiau gwych yn y dref, a’r hoff gyrchfannau oedd yr Angel a bar undeb y myfyrwyr, a bandiau rhagorol yn Neuadd y Brenin ar y prom, a ddymchwelwyd yn anffodus yn 1989.

Beth ydych chi’n ei wneud bellach yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Wrth astudio am fy ngradd fe ddysgais sut i ddysgu, gan amsugno gwybodaeth a’i strwythuro i’w defnyddio’n effeithiol.
Er bod y pwnc a astudiais wedi parhau’n ddiddordeb personol drwy gydol fy mywyd, does dim cysylltiad rhyngddo â fy ngyrfa broffesiynol. Rwyf i bellach wedi lled-ymddeol, ond yn dal i gadeirio’r cwmnïau a nodais uchod.

Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n astudio yr un cwrs â chi nawr?

“Paid â phoeni i ble fydd yn arwain ar ôl y brifysgol. Gweithia’n galed, heria dy hun, mwynha dy hun a bydd y dyfodol, er syndod, yn gofalu amdano’i hun.”
: cyngor gan John Garnett, fy nhiwtor personol yn fy mlwyddyn gyntaf, cyngor sydd wedi profi’n gwbl wir!