Audrey Siew

Graddiodd Audrey yn 2008 gyda LLB yn y Gyfraith.

Ar ôl gwneud ei gradd israddedig yn Aberystwyth, bu Audrey yn gweithio yn y sector gwirfoddol, cyn cael swydd gyda chwmni meddygol-gyfreithiol ym Manceinion.

Ar ôl dwy flynedd o brofiad yn y Deyrnas Unedig, dychwelodd i Kuala Lumpur a dechrau ar ei gyrfa fel partner yn
Ernst & Young yn eu hadran Gwasanaethau Cynghori.


“Er nad oeddwn wedi ymarfer y gyfraith ym Malaysia, rwyf wedi gallu defnyddio’r sgiliau datrys problemau a sgiliau rhesymu i gynorthwyo fy nghleientiaid i lunio cynllun i weithredu prosiectau yn effeithiol ac yn llwyddiannus, ar yr un pryd â sicrhau cydymffurfio â’r llywodraethu priodol. Mae’r sgiliau a enillais wrth astudio’r gyfraith yn Aber wedi rhoi sylfaen gadarn i mi ac wedi bod yn gam i mi ddechrau’n llwyddiannus ar fy ngyrfa hyd yn hyn ac wedi fy mharatoi i ddelio â gwahanol yrfaoedd yn y byd gwaith.”