Ben Thompson

Graddiodd Ben o Aber gyda BA mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu gyda Drama yn 2002 ac erbyn hyn mae’n gweithio fel Rhaglennydd Ffilmiau Byr yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca yn Efrog Newydd.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Yr hyn rwy’n ei gofio fwyaf am Aber yw’r tirlun. Roedd hyn yn ddylanwad mawr ar fy mhenderfyniad i astudio yno. Mae cefnlen y môr, y golygfeydd rhyfeddol o’r campws, y mynyddoedd a’r adeiladau hen a newydd yn dal yn fyw yn fy nghof. Cefais lawer o hedd a phrydferthwch yn astudio yn Aber ac roedd yn bont hyfryd a thyner at y bywyd sydd gen i bellach yn Efrog Newydd.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Yn fy ngwaith bob dydd rwy’n gweithio fel Rhaglennydd Ffilmiau Byr i Ŵyl Ffilmiau Trebeca yma yn Efrog Newydd. Rwyf i hefyd yn wneuthurwr ffilmiau llawrydd. Yn bennaf rwy’n cyfarwyddo ffilmiau byr a dogfennau ac wedi sgrinio fy ffilmiau mewn gwyliau ledled y byd ac wedi bod yn ffodus i gael darlledu fy ngwaith ar deledu yn y DU ac UDA.  Mae’n yrfa foddhaus iawn gan fy mod yn cael gweld dwy ochr y ffens fel gwneuthurwr a rhaglennydd ffilmiau. Yn Aber fe astudiais i Ffilm a Theledu a hefyd Drama. Helpodd fy ngradd mewn ffilm fy ngyrfa fel rhaglennydd yn fawr gan roi sylfaen gref i mi allu dadansoddi a gwerthfawrogi gweithiau creadigol, sy’n rhan enfawr o’r broses raglennu. Helpodd fy ngradd mewn drama fi i weithio gydag actorion a datblygu straeon a dod yn fwy hyderus ynof i fy hun a fy ngwaith fy hun.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Fyddwn i’n dweud wrth fyfyrwyr ffilm am geisio saethu cymaint â phosibl. Mae Aberystwyth yn un o’r lleoliadau mwyaf cyfoethog a phrydferth yn y byd ac mae’r brifysgol yn llwyfan wych ar gyfer arbrofi gyda syniadau a straeon newydd. Dewch â’ch ffrindiau at ei gilydd, ewch allan ar benwythnosau a saethwch straeon yn y goedwig, y mynyddoedd, ger y môr, wrth yr hen goleg, gyda’r tirlun yn eich ysbrydoli. Hefyd mae’n arfer da ac yn rhoi cyfoeth o brofiad i chi. Mae’n gyfnod gwych yn eich bywyd i roi cynnig ar bethau newydd a mireinio eich crefft.