Cathy Alexander

Mae Cathy yn gweithio fel Ceidwad Monitro Bioamrywiaeth i'r Adran Gadwraeth yn Seland Newydd.

Beth ydych chi'n ei wneud yn awr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi eich cynorthwyo?

Cafodd fy niddordeb mewn cadwraeth anifeiliaid ei sbarduno ar ôl astudio nifer o fodiwlau cadwraeth yn y drydedd flwyddyn yn Aber. Tyfodd fy niddordeb ar ôl hynny a gwirfoddolais i ambell borsiect cadwraeth ledled y byd a hynny wedi rhoi'r profiad roeddwn ei angen ar gyfer y swydd hon.  Mae'r gwaith rydw i'n ei wneud yma yn rhan o brosiect monitro cenedlaethol, sy'n bennaf yn golygu hedfan i rannau anghysbell o'r wlad i gyfrif baw poswm a cheirw, cyfri adar a denfyddio cardiau cnoi i fonitro presenoldeb poswn.