Malcolm Butler

Hyfforddwyd Dr. Butler yn ddaearegydd gan weithio am fwy na 25 mlynedd fel archwilydd ac uwch-swyddog ym musnes olew a nwy ar draws y byd. Yn 1998, ymunodd â Banc Buddsoddiadau HSBC fel Cyfarwyddwr Ymgynghorol a chymryd cyfrifoldeb dros waith ymgynghorol yn ymwneud â chyllid corfforaethol olew a nwy. Ers 2003, bu’n uwch-ymgynghorydd i Seymour Pierce Cyf. Ers 2007, bu’n ymgynghorydd i Ironsides Partners. Mae ef hefyd yn ymgynghorydd i’r  Pacific Alliance Group, grŵp ecwiti preifat sydd wedi’i leoli yn Hong Kong, yn Llywydd Waterloo Oil & Gas, LLC, cwmni fforio a chynhyrchu olew a nwy sy’n gweithio yn Louisiana, ac yn Gadeirydd dau gwmni fforio olew EIS bychan sy’n gweithio yn y DU.