Martin Smith

Graddiodd Martin Smith o Aber gyda BSc (Econ) mewn Marchnata yn 2015. Yn ogystal â gweithio llawn amser ym maes marchnata, mae Martin yn defnyddio’r cymwysterau a gafodd yn Aber i ddilyn astudiaethau pellach.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Fel sy’n wir rwy’n siŵr am y rhan fwyaf o gyn-fyfyrwyr Aber, mae’n amhosib dewis un peth sy’n sefyll allan wrth edrych yn ôl ar fy nghyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth!

Roeddwn i’n credu bod y berthynas bersonol mae myfyriwr yn ei meithrin gyda darlithwyr a thiwtoriaid personol yn wych. Roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth drwy gydol fy ngradd ac mae gen i barch mawr at bawb a fu’n fy nysgu, fy nghynghori a fy helpu ar hyd y ffordd. Yna, hyd yn oed ar ôl graddio, dyw’r drws ddim yn cau’n glep y tu ôl i chi. Mae’r berthynas yn parhau ac yn eich galluogi i fynd o nerth i nerth yn y byd busnes y tu allan i swigen Aber.

Hefyd fe gefais gyfeillion oes ymhlith y myfyrwyr eraill. Ers graddio, rwyf i wedi cael yr anrhydedd o fod yn was priodas i fy ffrind gorau - cyfarfu’r cwpl pan oedden nhw yn Aber. Erbyn hyn mae gen i gymaint o ffrindiau ar draws y byd, a rhai rwy’n siŵr a fydd yn para’n gryf am oes.

Yn olaf allaf i ddim peidio â sôn am y lleoliad godidog ar lan y môr. Cefais fy magu yng nghanol Swydd Derby, mor bell i ffwrdd o’r môr â phosib i bob cyfeiriad. Roeddwn i felly’n rhyfeddol o lwcus i ddarganfod prifysgol a thref mor wych ar lan y môr; roedd yn teimlo fel pe bawn i ar wyliau drwy gydol y flwyddyn pan oeddwn i’n gweld y môr!

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Erbyn hyn rwy’n gweithio llawn amser fel Swyddog Marchnata i gwmni bach ond uchelgeisiol sy’n delio mewn prosesu peiriannau a chynnal a chadw safleoedd ar gyfer canolfannau dosbarthu.

Fy swydd o ddydd i ddydd yw sicrhau bod ein cwsmeriaid fel TK Maxx, New Look a Super Dry yn cael y newyddion diweddaraf am ein cynhyrchion a gwybodaeth am y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys defnyddio systemau e-farchnata a CRM i olrhain archebion gwerth uchel a chynnig cynhyrchion premiwm i’r cwsmeriaid hyn drwy ymgyrchoedd ebost rwyf i’n eu cynllunio, ynghyd ag ymweliadau safle i gyfarfod â’r rheolwyr.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf cyflwynodd cystadleuaeth farchnata gan y brifysgol fi i’r ‘cylch mewnol’ yng Nghlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth a dechreuais wirfoddoli gyda’r clwb fel Swyddog Marchnata. Helpais reoli’r agweddau marchnata digidol fel gwefan swyddogol y clwb, sianeli cyfryngau cymdeithasol a’r siop e-fasnach. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ailgynlluniais a datblygu gwefan swyddogol y clwb yn llwyr, rhywbeth rwyf i wedi’i wneud wedyn i fy nghyflogwyr presennol. Ar ddiwedd tymor 2014/15, dyfarnwyd gwobr Clybiwr y Flwyddyn i fi, un o wobrau uchaf y clwb.

Yn ogystal â gweithio llawn amser, rwyf i’n astudio Diploma Lefel 6 CIM mewn Marchnata Proffesiynol, gyda chymorth eithriadau a gefais drwy fy ngradd Marchnata o Aberystwyth.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Byddai fy nghyngor yn syml iawn; cofiwch gael hwyl a mwynhewch eich hun.

Er bod astudio’n galed at radd yn rhan bwysig o fynd i’r brifysgol, rwyf i hefyd yn credu bod gadael cartref a mynd i’r brifysgol yn gyfle i’ch darganfod eich hun fel person. Pe bawn i wedi gadael i straen yr holl astudio, arholiadau ac aseiniadau fy llethu, fyddwn i ddim wedi cyrraedd ble’r ydw i heddiw.

Mae cymaint i’w wneud yn Aber, felly gwnewch y gorau ohono ac fe ddewch yn well person. Er enghraifft, ewch i gael barbeciws a thanau ar y traeth (lle mae caniatâd i wneud hynny!), cerddwch i ben Craig Glais i ryfeddu at y golygfeydd ysblennydd ac ewch i loncian ar hyd y prom a chicio’r bar dan Consti.

Rydych chi’n ddigon ffodus i fyw yn Aberystwyth am o leiaf dair blynedd, felly mwynhewch!