Alexandra Dodds

 

Astudiodd Alexandra Fioleg y Môr a Dŵr Croyw yn Aber a graddiodd yn 2013. Mae’n gweithio byth ers hynny mewn lleoliadau pellennig amrywiol yn y Deyrnas Gyfunol ac ar draws y byd.  Oherwydd ei gwaith, mae wedi cael y fraint o fyw mewn llefydd anhygoel, o’r Fforest Newydd i ynysoedd mwyaf gogleddol yr Alban, ac o’r Caribî i Ynysoedd y Falklands. Mae ar hyn o bryd yn gweithio i Arolwg Antarctig Prydain ar Ynys yr Adar, De Georgia ac mae’n arbenigo mewn ymchwil albatrosiaid

Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

Un peth rwy’n ei gofio byth ers imi adael Aber yw geiriau’r Is-Ganghellor yn ei haraith yn fy seremoni raddio: “Wrth ichi gychwyn ar daith eich gyrfa, bydd y llwybr a ddilynwch yn ymddangos fel lobsgóws o wahanol gyfeiriadau, ac mae’n bosib na fydd y llwybr hwnnw’n mynd i’r un cyfeiriad bob tro. Ond, ar ôl cyrraedd pen eich taith ac edrych yn ôl, fe welwch fod eich llwybr yn llinell syth.”

Beth sy’n digwydd yn eich gyrfa ar hyn o bryd a sut mae eich Gradd o Aberystwyth wedi eich helpu chi?

Bûm yn gweithio i Arolwg Antarctig Prydain fel Cynorthwyydd Maes Sŵolegol, gan arbenigo mewn albatrosiaid. Rwyf ar hyn o bryd ynghanol cyfnod o 18 mis yn byw ac yn gweithio ar Ynys yr Adar, De Georgia. Rwy’n gweithio’n bennaf ar yr arfordir ers ymadael ag Aberystwyth,    ac rwy’n canolbwyntio ar orthinoleg forol a mamaleg forol. Mae byw ac astudio yn Aberystwyth wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy niddordebau a’m gwybodaeth yn y maes, a rhoddodd y cyfnod hwn y sail gadarn yr oedd ei hangen arnaf yn fy ngyrfa, o ddarllen papurau ymchwil neu gynnal gwaith cadwraeth ymarferol ar hyd arfordir prydferth Ceredigion.

Pa gyngor y byddech yn ei roi i fyfyriwr sy'n dilyn eich cwrs chi nawr?

Defnyddiwch eich hafau i ennill profiadau ac i ddysgu am y sector yr ydych am fod yn rhan ohono. Manteisiwch i’r eithaf ar yr holl waith maes a’r cyfleoedd a gewch i wella’ch sgiliau ymchwil, gan y byddant o fantais enfawr ichi wrth ichi edrych am swydd ym maes yr amgylchedd neu fioleg. Rhowch gynnig ar rywbeth sy’n apelio atoch yn Aber, gan fod cynifer o glybiau a chymdeithasau yno. Rwy’n cofio imi fwynhau’r amrywiaeth a’r cyfleoedd anarferol a gefais i roi cynnig ar wahanol weithgareddau. ‘Dydych chi byth yn gwybod pwy y dowch ar eu traws nhw a beth y gallech ei ddysgu o gymryd rhan.