Chay Took

Graddiodd Chay o Aber yn 1996 gyda BSc(Econ) mewn Cyfrifeg a Chyllid ac mae bellach yn bartner gyda Kreston Reeves, Cyfrifwyr Siartredig ac Ymgynghorwyr Ariannol.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Roedd Aberystwyth yn lle gwych am y tair blynedd roeddwn i yno. Roeddwn i bob amser yn byw yn y dref ac roedd yr holl le fel campws – cymerodd y Glengower, y Bear a’r Boar’s Head fy arian i gyd bron. Uchafbwynt y flwyddyn oedd penwythnosau gemau’r 5 Gwlad (fel yr oedden nhw ar y pryd) oedd bob amser yn hynod gystadleuol.

Yn academaidd roedd y tiwtoriaid yn grŵp cyfeillgar ac yn bwysicach yn hapus ac roedd llawer wedi cydweithio â’i gilydd ers tro. Roedden nhw’n gefnogol ac yn sicr rwy’n edrych yn ôl ar fy nghyfnod yn Aber gyda hapusrwydd.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn eich gyrfa, a sut helpodd eich gradd Aberystwyth chi?

Dechreuais astudio Mathemateg a Chyfrifeg yn fy mlwyddyn gyntaf ond gollyngais i Fathemateg yn yr ail flwyddyn a graddio gyda 2:1 mewn Cyfrifeg a Chyllid. Roedd bob amser yn debygol y byddwn i’n mynd o’r brifysgol i fod yn Gyfrifydd Siartredig ac yn wir rwyf i wedi aros gyda’r un cwmni o gyfrifwyr gan ddod yn bartner yn 2004. Mae gan Kreston Reeves naw swyddfa a thros 500 o aelodau staff ledled Llundain a De Ddwyrain Lloegr ac er nad oedd y radd berthnasol yn hanfodol roedd yn sicr yn help wrth bontio i gyflogaeth.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs nawr?

Yn debyg i sawl proffesiwn arall, mae cyfrifyddu’n mynd drwy newid enfawr yn y ffordd rydym ni’n gwneud pethau a hefyd pam rydym ni’n eu gwneud. Fydd y newid hwnnw mewn meddylfryd, y gallu i herio ac archwilio cyfleoedd yn bwysicach nag erioed dros y blynyddoedd nesaf. Gall y Brifysgol eich helpu i wneud hynny, bod ymhlith eich cymheiriaid yn ogystal â’ch tiwtoriaid a chael amser i fyfyrio. Mae’n annhebygol y cewch chi’r cyfle hwnnw eto.